Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Rwy’n ysgrifennu atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am Ardaloedd Menter yng Nghymru. Bydd y datganiad hwn yn rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch nifer o faterion trawsbynciol ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Ardaloedd unigol.
Mae Lwfansau Cyfalaf Uwch eisoes wedi cael eu sicrhau ar gyfer rhai safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy. Mae Trysorlys Ei Mawrhydi nawr yn ystyried cynigion ychwanegol ar gyfer Lwfansau Cyfalaf Uwch yng Nghymru.
Mewn Cyfarfod Llawn fis diwethaf, cyhoeddais gymhellion Ardrethi Busnes wedi’u targedu yn ein Hardaloedd Menter, gan gyfateb £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru i’r £10 miliwn o arian canlyniadol gan Lywodraeth y DU. Daw hyn i rym ym mis Ionawr.
Mae Ardaloedd Menter wedi cael eu cadarnhau fel rhai o’r ardaloedd cyntaf a fydd yn elwa ar gyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf. Gan fod y Comisiwn Ewropeaidd nawr wedi cymeradwyo Cynllun Band Eang Cenedlaethol Llywodraeth y DU, rwyf yn disgwyl i Lywodraeth y DU gymeradwyo cynllun Cymru yn ffurfiol cyn bo hir.
Rwy’n falch o weld bod Awdurdodau Cynllunio mewn Ardaloedd Menter eisoes yn defnyddio’r pwerau newydd i symleiddio cynllunio drwy Orchmynion Datblygu Lleol, gyda chefnogaeth Cronfa Gwella Cynllunio Llywodraeth Cymru.
Mae’n galonogol gweld sut y mae holl Fyrddau’r Ardaloedd Menter wedi mynd ati’n rhagweithiol i edrych ar gyfleoedd i weithio gyda’r byd academaidd a darparwyr sgiliau. Bydd pob Ardal yn elwa ar ein cynnig sgiliau Cymru gyfan; rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Addysg a Sgiliau ar hyn ers dechrau ein rhaglen Ardaloedd Menter.
Ac edrych ar yr Ardaloedd unigol eu hunain, mae’r Byrddau wedi ystyried y weledigaeth gyffredinol a’r gofynion seilwaith ac rwyf wedi cael eu cynlluniau strategol lefel uchel.
Mae Caerdydd yn cryfhau ei safle fel un o brif leoliadau’r DU ar gyfer Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, gan ddenu buddsoddiad newydd, hwyluso datblygu swyddfeydd newydd a swyddi newydd o ansawdd uchel.
Un maes mae’r Bwrdd yn canolbwyntio arno yw datblygu swyddfeydd Gradd A yn yr Ardal Fenter. Mae nifer o gwmnïau eisoes yn bwriadu creu nifer fawr o swyddi yn yr Ardal Fenter. Mae amcanion eraill yn cynnwys mwy o bartneriaeth gyda phrifysgolion y Ddinas a manteisio ar y statws Dinas Cysylltiad Cyflym.
Mae’r Bwrdd o blaid creu system drafnidiaeth Metro newydd o’r Ddinas i’r Bae, gan gysylltu gwahanol ganolfannau busnes Caerdydd. Cynhelir trafodaethau â Bwrdd yr Ardal Fenter i siapio'r cynlluniau ar gyfer prosiect metro integredig.
Bydd Glannau Dyfrdwy yn dod yn ganolfan sy’n cystadlu ar lwyfan y byd ym maes gweithgynhyrchu uwch. Blaenoriaethau’r Bwrdd yw datblygu a gwella seilwaith ac eiddo allweddol a chadw sector gweithgynhyrchu cryf. Mae trafodaethau cychwynnol hefyd yn mynd rhagddynt i ddatblygu’r cynnig ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Gweithgynhyrchu Uwch.
Mae’r ystyriaethau seilwaith yn cynnwys gwelliannau a awgrymir i drafnidiaeth a chynigion i gryfhau cyflenwadau trydan ymhellach a chyflawni gwelliannau amgylcheddol. Mae rhai gwelliannau eisoes wedi cael eu cwblhau yn ardal Shotton, er enghraifft ail-fodelu cilfannau bysiau i liniaru tagfeydd. Mae prosiectau ffyrdd eraill wrthi’n cael eu datblygu a byddant yn mynd rhagddynt flwyddyn nesaf.
Mae nifer o gynigion rheilffordd strategol yn cael eu hystyried, lle byddai buddsoddiad ychwanegol mewn rheilffyrdd yn gwella cysylltiad â’r Ardal Fenter ac yn sicrhau manteision ar draws gogledd Cymru. Mae cyllid wedi cael ei ddyrannu ar gyfer gwaith dichonoldeb i edrych ar ganolfan trafnidiaeth integredig yn yr ardal i ddiwallu’r lefelau uchel o dwf yn nifer y teithwyr yng ngorsaf Shotton.
Mae’r Bwrdd wedi dynodi ardaloedd i ddenu gweithgarwch penodol fel gweithgynhyrchu cynaliadwy, awyrofod a gweithgynhyrchu uwch. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau â chwmnïau ar draws nifer o sectorau gyda’r potensial i sicrhau nifer fawr o swyddi yn yr Ardal.
Bydd Glynebwy yn creu llecyn bywiog uwch-dechnoleg gyda sylfaen eang o gwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint, yn darparu cyflogaeth sy’n heriol, yn werth chweil ac sy’n cael ei gwerthfawrogi.
Y flaenoriaeth gyntaf yw dod â'r prif safle yn Rhyd y Blew i'r farchnad yn 2013. Dyma un o'r safleoedd datblygu mwyaf yng Nghymru, sy'n lleoliad unigryw ar gyfer buddsoddiad mawr. Cytunwyd ar raglen waith yn barod i sicrhau bod y safle yn barod am fuddsoddiad ac mae’r safle’n cael ei farchnata wrth i hyn fynd rhagddo. Rydym yn bwriadu sicrhau prosiect mewnfuddsoddiad priodol a fydd yn gallu dechrau ar ei waith cyn gynted â bydd y safle yn barod, yn gynnar yn 2014.
Mae cynllun strategol Glynebwy yn cynnwys nifer o gynigion ym maes trafnidiaeth, pŵer a TGCh, er enghraifft cwblhau ffordd ddeuol newydd yr A465 a’r gwaith seilwaith cysylltiedig.
Mae busnesau eisoes wedi dangos diddordeb o’r newydd mewn safleoedd allweddol, er bod y cynigion ar gam cynnar. Mae posibilrwydd ar gyfer datblygu a swyddi newydd hefyd drwy ehangu busnesau sydd eisoes yn yr Ardal. Mae’r Bwrdd nawr yn bwriadu canolbwyntio ar werthu a marchnata ar draws y safleoedd, i lenwi’r ymholiadau a fydd yn yr arfaeth yn 2013.
Bydd Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn prosiectau ynni, creu swyddi gwyrdd a gwella swyddi sydd eisoes yn bodoli. Mae sector ynni hollbwysig eisoes wedi ennill ei blwyf yn yr ardal, gyda Gorsaf Bŵer tân nwy naturiol RWE nPower a agorwyd yn swyddogol ym mis Medi, ar ôl £1bn o fuddsoddiad sector preifat.
Mae blaenoriaethau i’r Ardal yn cynnwys gwella TGCh a chysylltiadau trafnidiaeth. Bydd trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe yn lleihau’r amseroedd teithio ac yn gwella’r cysylltiad â gweddill y DU ac mae cynigion eraill yn cael eu hystyried a allai hefyd gael effaith.
Bydd y Bwrdd yn edrych ar y cyfleoedd masnachol sydd ynghlwm wrth yr harbwr naturiol dwfn yn Aberdaugleddau. Mae cyfleoedd cadwyn cyflenwi posibl yn perthyn i’r cyfleusterau cynhyrchu pŵer sydd eisoes ar waith a rhai arfaethedig, bydd y Bwrdd yn bwriadu cynyddu’r rhain a manteisio arnynt yn llawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu safle 200 acer wrth ymyl safle sy’n berchen i Gyngor Sir Penfro. Mae tîm prosiect ar y cyd yn edrych ar adfer y safle a’r cyfleoedd ar gyfer y sector ynni a datblygiadau eraill.
Yn Eryri, er bod y ffocws sector ar TGCh ac Ynni a’r Amgylchedd, mae lefel uchel y sgiliau sydd yn y gweithlu presennol yn gryfder go iawn. Blaenoriaethau’r Bwrdd yw defnyddio’r gronfa hon o sgiliau o ansawdd uchel ac edrych ar gyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r safle niwclear trwyddedig.
Mae angen rhagor o waith i benderfynu ar gynigion seilwaith manwl, ond mae ystyriaethau’n cynnwys seilwaith ynni a TGCh gwell a gwaith gwella safle. Mae gennym berthynas adeiladol gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear sy’n berchen ar safle Trawsfynydd ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt mewn perthynas â thir sydd ar gael a gwelliannau gofynnol i eiddo.
Hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, bu nifer o ymholiadau yn safle Trawsfynydd. Mae potensial yr Ardal yn dod yn amlwg o ran defnyddio ei hasedau unigryw a chael effaith ar economi’r rhanbarth.
Mae Ardal Fenter Sain Tathan a Maes Awyr Caerdydd yn targedu gweithgareddau Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Archwilio, ynghyd â swyddogaethau cefnogi.
Mae llawer o alw gan fusnesau yn y DU ac yn fyd-eang gyda chryn alw am le o ansawdd mewn siediau awyrennau ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac wyneb caled ar gyfer awyrennau.
Mae prosiectau penodol yn fasnachol gyfrinachol ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd rhain o’r rhain yn aeddfedu cyn bo hir.
Bydd Ardal Fenter Ynys Môn yn creu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu, arddangos a gwasanaethu ynni carbon isel. Mae blaenoriaethau’r Bwrdd yn cyd-fynd â chyflawni’r Rhaglen Ynys Ynni, sy’n mynd rhagddi’n dda, ac yn canolbwyntio ar nifer o gyfleoedd ynni gwyrdd a datblygiadau ategol ym maes twristiaeth a hamdden. Mae’r mwyaf o’r rhain yn dilyn y cytundeb i werthu Horizon Nuclear Power i Hitachi.
Ar ôl i’r prosiect hwn ddechrau bydd yn creu miloedd o swyddi adeiladu ac yn darparu cyflogaeth â thâl da i gannoedd o weithwyr medrus ar yr Ynys am ddegawdau i ddod. Bydd cyfleoedd cadwyn cyflenwi a chyflogaeth i gwmnïau Cymru hefyd. Mae Hitachi a Horizon yn gweithio i gyflawni gwaddol economaidd tymor hir yng Ngogledd Cymru, gan ddefnyddio cyflenwyr lleol a gan hyfforddi gweithwyr lleol.
Yn fwy cyffredinol, rydym yn gweithio gyda’r Byrddau ar gynlluniau marchnata tymor hwy, gan gynnwys ymgyrchoedd parhaus mewn marchnadoedd lleol a rhyngwladol. Mae ein gwefan Ardaloedd Menter yn gwneud yn dda, gan gynhyrchu bron i hanner yr ymholiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn. Bydd y wefan yn cael ei datblygu ymhellach yn gynnar flwyddyn nesaf.
Mae nifer dda o brosiectau yn yr arfaeth ar draws yr Ardaloedd. Mae'r rhain wedi datblygu i raddau amrywiol ac maent yn fasnachol gyfrinachol. Gallai’r rhain arwain at swyddi a chyfleoedd cadwyn cyflenwi ledled Cymru.
Mae’r gwaith gweithredu’n mynd rhagddo’n dda nawr ar draws ein holl Ardaloedd Menter. Byddaf yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i Aelodau ym mis Ionawr flwyddyn nesaf.