Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yng Nghymru rydym wedi creu dull unigryw ar gyfer ymdrin â pholisi sy’n rhoi lle fwyfwy blaenllaw i hawliau’r plentyn ac eiriolaeth yw un o’r hawliau sylfaenol hynny. Mae’n sicrhau bod gan blant a phobl ifanc glust i’w clywed, pan fydd angen rhywun o’u plaid a rhywun i’w diogelu arnynt a phan fydd angen cymryd rhan a chael at ddarpariaethau arnynt.
Mae gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Plant yr un nod, sef sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth gorau posibl i oresgyn y problemau a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn eu bywydau.
Hoffwn gydnabod yr amser a'r ymdrech mae’r Comisiynydd a'i staff wedi’u rhoi i lunio Lleisiau Coll - Adroddiad y Comisiynydd Plant ar ei Adolygiad o Wasanaethau Eiriolaeth i’r grŵp hwn o blant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.
Mae'r adroddiad yn nodi 29 o argymhellion allweddol. Lle mae’r argymhellion yn cyfeirio at bartneriaid gan gynnwys awdurdodau lleol a darparwyr eiriolaeth, bydd camau'n cael eu cymryd i dynnu'r argymhellion at eu sylw.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu ‘’llais’’ proffesiynol annibynnol, a elwir yn eiriolwr, ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sy'n derbyn gofal ac sy’n gadael gofal a phob plentyn sydd mewn angen. Dylent gael gweld eiriolwr pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud yn eu cylch, neu os ydynt am wneud cwyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau clir ar gyfer awdurdodau lleol ar ddarparu gwasanaethau eiriolaeth - Darparu Gwasanaethau Eiriolaeth Effeithiol i Blant a Phobl Ifanc sy'n Gwneud Sylwadau neu Gwyn dan Ddeddf Plant 1989.
Byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol ystyried yr adroddiad yn ofalus ac adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru.
Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi dangos yn gyson ei diddordeb mewn Eiriolaeth, i ofyn iddi gyfrannu ei barn i'r argymhellion.
Mae diogelu plant a phobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn ac mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i ddatblygu eiriolaeth a chynyddu cyfleoedd plant a phobl ifanc i gael ato, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, yr wyf yn croesawu'r adroddiad ac er fy mod yn cytuno bod angen i ni fynd i'r afael â’r meysydd y gallwn eu gwella, dylem hefyd gydnabod y nifer sylweddol o ddatblygiadau cadarnhaol sydd wedi cael eu cyflawni.
Mae Cymru yn arwain y ffordd drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn, yn cael cymryd rhan ac yn cael at wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys MEIC ein llinell cymorth Eiriolaeth a Chyngor i blant a phobl ifanc 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. MEIC yw'r unig linell gymorth o'i fath ar lefel genedlaethol yn y DU ac mae wedi derbyn 7000 o alwadau gan blant a phobl ifanc hyd yn hyn. Mae hyn wedi rhoi cymorth amhrisiadwy i blant a phobl ifanc. Os bydd plant a phobl ifanc yn cael profiadau cadarnhaol, maent yn fwy tebygol o allu sicrhau newid cynaliadwy positif gydol eu bywydau.
Mae'r Adolygiad hwn gan y Comisiynydd Plant wedi nodi nifer o faterion pwysig a bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt maes o law.