Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Sicrhau cymdeithas decach i bobl Cymru, a chymdeithas y mae cyfle i bawb gyfrannu iddi oedd ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Y gwerthoedd hyn, sy’n cael eu harddel gennym i gyd, sydd wrth wraidd ein rhaglen Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Rhoi gwell cefnogaeth i’r plant a’r teuluoedd hynny yn ein cymdeithas sy’n wynebu llu o anawsterau yw blaenoriaeth y rhaglen.
Heddiw, felly, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd cam olaf y Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru flwyddyn yn gynharach na’r dyddiad a ragwelwyd, sef diwedd 2014. Erbyn diwedd 2013 bydd y Gwasanaethau ar gael drwy Gymru gyfan er mwyn sicrhau y gall plant a theuluoedd sy’n gwerthfawrogi’r cymorth ychwanegol sydd ar gael drwy’r rhaglen ei defnyddio’n deg ac yn brydlon, i’w helpu i oresgyn eu problemau o ran camddefnyddio cyffuriau a’u hanawsterau eraill.
Bron flwyddyn union yn ôl, cyhoeddais y byddai Cam 2 y rhaglen yn cael ei roi ar waith ac y byddai dau ranbarth yn dod yn rhan o’r Gwasanaethau, sef Caerdydd a’r Fro, a’r Canolbarth a’r Gorllewin. Bydd y ddau gonsortiwm yn cyflwyno’r Gwasanaethau o’r mis hwn trwy bum tîm newydd, sy’n golygu bod 10 ardal awdurdod lleol yng Nghymru bellach yn rhan o’r rhaglen. Mae awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol wedi mynd ati gydag arddeliad i fabwysiadu’r rhaglen, gan ffurfio partneriaethau cryf ar draws eu rhanbarthau er mwyn rhoi gwell cymorth i’w cymunedau.
Mae’r Map amgaeedig yn dangos beth fydd y sefyllfa drwy Gymru erbyn diwedd 2013, o ran y Gwasanaethau hyn. Byddwn yn dechrau ehangu’r rhaglen ymhellach yr haf hwn trwy sefydlu tri Thîm Integredig Cymorth i Deuluoedd ym mhartneriaeth ranbarthol Bae Abertawe sy’n cynnwys awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Rydym yn ddiolchgar i’r ardaloedd arloesi cam 1 am fynd ati i baratoi’r ffordd a phrofi’r Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Gwnaed cryn ymdrech ganddynt i rannu eu profiadau ag ardaloedd newydd y Gwasanaethau, fel y gallai’r rheini ddefnyddio’r hyn y maent wedi’i ddysgu i roi’r rhaglen ar waith yn ddidrafferth. Mae’r ardaloedd arloesi wedi dangos llawer o arweiniad yn hyn o beth. Yn wir, bydd hynny’n parhau wrth i awdurdodau lleol Casnewydd a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddechrau uno a lledaenu’r Gwasanaethau ar draws rhanbarthau Gwent a Gogledd Cymru o’r flwyddyn nesaf (2013) ymlaen.
Bydd Casnewydd a Wrecsam, mewn cydweithrediad agos â Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Thorfaen, ac Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gwynedd, ill dau’n defnyddio’r flwyddyn hon i gyflwyno’r Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ar draws eu rhanbarthau, gan sefydlu dau dîm ychwanegol o leiaf, un ym mhob rhanbarth.
Rydym wedi ymdrechu’n galed a gwario cryn dipyn ar feithrin gallu a sgiliau, nid yn unig yn y Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd eu hunain, ond wrth hyfforddi gweithwyr proffesiynol a gweithwyr eraill y partneriaethau mewn technegau allweddol. Mae’r technegau hyn yn helpu’r gweithwyr proffesiynol i ymwneud yn well â theuluoedd a dilyn ethos o weithio gyda chryfderau’r teuluoedd fel eu bod yn gallu mynd ati drostynt eu hunain i newid eu bywydau.
Bydd cyfanswm o fwy na £4.5 miliwn ar gael i awdurdodau lleol (ac mae’n rhaid iddynt gytuno ar wariant gyda’u partneriaid yn y Bwrdd Iechyd Lleol) erbyn cwblhau cyflwyno’r Gwasanaethau tua diwedd 2013. Y Byrddau Gwasanaethau rhanbarthol statudol fydd yn cytuno ar broffiliau gwario, er mwyn cynnal o leiaf 10 Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd statudol ledled Cymru.
Penderfynodd rhai rhanbarthau gael mwy o Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd er mwyn gwasanaethu mwy o deuluoedd yn eu cymunedau. Materion i’w penderfynu’n lleol yw’r rhain ac nid oes unrhyw resymau cyfreithiol pam na all hyn ddigwydd. Yn wir, rydym yn annog hyn ac mae rhai ardaloedd wedi sefydlu mwy o dimau na’r isafswm gorfodol, neu’n bwriadu gwneud hynny. Mae’r rhain i’w gweld ar y Map amgaeedig.
Credaf fod y Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd yn cynnig gwerth da am arian wrth iddo helpu’r plant a’r teuluoedd mwyaf agored i niwed yng Nghymru, sy’n dioddef cymaint oherwydd bod eu rhieni yn camddefnyddio sylweddau. Mae hefyd yn pleidio achos ‘gweddnewid’ y ffordd y mae’r gwasanaethau yn ymwneud â theuluoedd.
Agwedd hollbwysig o’r gweddnewid hwn y mae’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei argymell yw llwyddo i integreiddio’n well, magu mwy o ymddiriedaeth rhwng y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol medrus, a chynnig gwasanaethau y mae pobl eu hangen. Yn wir, gwneud hynny mewn ffordd sy’n gwerthfawrogi pobl, ac yn rhoi llais iddynt yw’r nod. Mae’r Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd yn cynnig hyn i gyd ac er ei bod yn ddyddiau cynnar, mae arwyddion eglur ei fod yn gwneud gwahaniaeth i agwedd y teuluoedd hyn at weithwyr proffesiynol a’r cymorth a gynigir iddynt. Uwchlaw popeth, golyga fod plant mewn angen yn gallu mwynhau gwell ansawdd bywyd.
Aeth llai na dwy flynedd heibio ers i Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddod i rym ac agor y ffordd i ni weithio yn y ffordd unigryw hon trwy’r Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd. Mae’n profi y gallwn gyflwyno’n ddiymdroi ac yn effeithiol i’r rheng flaen, er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i’r gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn. Mae hefyd yn arwydd o’r grym a’r gallu i newid pethau sy’n bodoli yng Nghymru yn sgil datganoli.
Diolchaf i bob un ohonoch sydd mewn swyddi corfforaethol ategol am gefnogi’r rhaglen ardderchog hon, sy’n mynd ati o ddifrif i drawsnewid bywydau rhai o’n plant a’n teuluoedd mwyaf difreintiedig yma yng Nghymru.