Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Bydd yr aelodau'n ymwybodol i mi lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) ar 14 Rhagfyr, 2011.

Llwyddodd yr ymgynghoriad i ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith Awdurdodau Bwyd, busnesau a defnyddwyr a chafwyd cyfanswm o 58 o ymatebion i'r ymgynghoriad ar-lein, pum ymateb arall drwy lythyr a 176 o ymatebion o ganlyniad i ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd gan Lais Defnyddwyr Cymru. Mae llawer o ymatebwyr wedi rhoi ystyriaeth ddwys i'r ddeddfwriaeth arfaethedig ac wedi gwneud sylwadau adeiladol ac rwy'n ddiolchgar am eu mewnbwn.

Prif amcanion y Bil yw cyflwyno gofyniad statudol i Awdurdodau Bwyd sgorio busnesau bwyd ac wedyn fod gweithredwyr yn arddangos gwybodaeth am sgoriau hylendid bwyd. Bydd y Bil arfaethedig yn gwneud y canlynol:

  • Creu cynllun sgorio hylendid bwyd (CSHB) gorfodol ar gyfer busnesau bwyd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai'r CSHB fod yn seiliedig yn gyffredinol ar Gynllun presennol yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan fod hwnnw eisoes wedi'i fabwysiadu'n eang ac mae'n gweithio'n dda;  
  • Rhoi dyletswydd ar awdurdodau bwyd i roi'r CSHB ar waith. Yn gyffredinol, mae hynny'n golygu cyflawni'r holl weithgareddau y maent yn eu cynnal yn wirfoddol ar hyn o bryd mewn perthynas â Chynllun yr Asiantaeth Safonau Bwyd;
  • Rhoi dyletswydd ar weithredwyr i arddangos eu sgôr hylendid bwyd, mewn man a ragnodir, yn sefydliad eu busnes a hefyd yn rhoi hawl iddynt apelio a hawl i ymateb fel sydd ganddynt o dan Gynllun yr Asiantaeth Safonau Bwyd;
  • Ei gwneud yn drosedd i weithredwyr fethu ag arddangos eu sgôr hylendid bwyd yn y man ac yn y modd a ragnodir o dan y rheoliadau.

Mae fy swyddogion bellach wedi cwblhau adroddiad cryno ar yr ymatebion ac fe'i rhoddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dwy thema allweddol a ddeilliodd o'r ymatebion oedd cysondeb a thryloywder ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y materion lle cododd y themâu.  Er i ni gael amrywiaeth eang o ymatebion roedd rhai negeseuon cyffredinol clir, sef:

  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn gefnogol iawn i'r gofyniad arfaethedig bod busnes bwyd yn arddangos ei sgôr hylendid bwyd yn ei sefydliad.
  • Roedd sawl ymatebydd am weld mwy o ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut y byddai'r cynllun yn gweithredu ar gyfer sefydliadau busnesau bwyd sydd wedi'u cofrestru y tu allan i Gymru ond sy'n masnachu dros dro yng Nghymru a nodi'n hynny'n gliriach.
  • Y posibilrwydd o esemptio busnesau bwyd risg isel y tu hwnt i'r rhai sydd eisoes wedi'u hesemptio o dan CSHB gwirfoddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion o blaid codi tâl am arolygiadau ail-sgorio y gofynnwyd amdanynt gan fusnes bwyd ac y dylai hyn gynnwys pob sector sy'n cyflenwi bwyd i'r cyhoedd.
  • Roedd yr ymatebwyr o blaid defnyddio asesiadau o safonau hylendid bwyd sefydliad a gynhaliwyd cyn i'r Ddeddf hon gychwyn fel sail ar gyfer sgorio o dan y cynllun gorfodol. 
  • Roedd cefnogaeth i gynnwys masnach busnes i fusnes o fewn cwmpas y cynllun. Gwrthwynebwyd y safbwynt hwn gan rai ymatebwyr.
  • Roedd 60% o ymatebwyr o'r farn na ddylai adroddiadau arolygu cryno gael eu cyhoeddi fel mater o arfer ac ni chredent y byddent yn defnyddio'r wybodaeth ychwanegol i benderfynu ble i fwyta neu brynu bwyd. Mae Llais Defnyddwyr Cymru o blaid cyhoeddi'r fath adroddiadau a chyflwynodd 176 o ymatebwyr un o gardiau post Llais Defnyddwyr yn cefnogi cael gwybodaeth ychwanegol. 
  • Roedd llawer o ymatebwyr o'r farn nad oedd angen arddangos na chadw tystysgrif sgôr hylendid bwyd.
  • Dylai Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cymru gyd-fynd mor agos â phosibl â Chynllun Sgorio Hylendid Bwyd y DU. Felly, hoffai ymatebwyr weld y meini prawf sgorio arfaethedig yn cael eu newid i adlewyrchu hyn.

Rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion i barhau i weithio ar y Bil drafft, gan ystyried y materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad.  Disgwylir i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Cynulliad ym mis Mai.