Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Rydym yn cyhoeddi’r datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn i chithau’r aelodau gael gwybod y diweddaraf am y mater hwn. Os carai aelodau imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Cynulliad ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.
Pan ddechreuais ar fy swydd llynedd, gofynnodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig imi am fy nghaniatâd i ddileu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol (AWB) o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi datganiadau ynghylch pwysigrwydd swyddogaethau’r Bwrdd ac nid wyf am ailadrodd y manylion yn y datganiad hwn. Mae cynrychiolwyr y byd ffermio yng Nghymru yn cydnabod y Bwrdd fel cyfrwng syml a theg i ddatrys anghydfodau ynghylch cyflogau ac amodau gwaith ac i wella sgiliau o fewn y sector amaethyddol. Mae ffigurau DEFRA ei hun yn awgrymu y byddai dileu’r Bwrdd yn effeithio ar 12,500 o weithwyr yng Nghymru.
Dywedais felly wrth lywodraeth y DU ein bod am weld cadw swyddogaethau’r AWB yng Nghymru. Dywedais fod ffordd hawdd o wneud hynny a fyddai’n bodloni agendâu polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, sef trwy wneud gorchymyn o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus a fyddai’n dileu’r Bwrdd yn Lloegr ac yn ein galluogi i wneud trefniadau gwahanol ar gyfer Cymru.
Rwyf wedi dadlau fy achos mewn sawl cyfarfod â Gweinidogion y DU ers hynny ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod fy nghais bob tro ac i goroni’r mater, maent wedi mynd ati yn awr i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr ynghylch ei bwriad i ddileu’r Bwrdd, hynny heb roi gwybod i Lywodraeth Cymru a heb ddefnyddio’r Gymraeg yn unrhyw un o’i dogfennau ymgynghori.
Yr wythnos hon, er i Lywodraeth Cymru barhau i wasgu ar y mater, mae Llywodraeth y DU, er mwyn rhoi darpariaethau ger bron i ddileu’r WAB yng Nghymru a Lloegr, wedi cyflwyno gwelliant i’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio. Dyma gynnig digywilydd i osgoir gofynion ynghylch gofyn caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion. I’w ddileu o dan Adran 9 y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus, byddai wedi gorfod gofyn am y caniatâd hwnnw. Mae Llywodraeth y DU, trwy gymryd y camau hyn, wedi mynd yn groes i Agenda Parchu Llywodraeth Cymru y mae’n honni ei bod yn cadw ati.
Byddaf yn awr yn ystyried y sefyllfa ac yn penderfynu beth i’w wneud nesaf yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.