Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Rwy’n gwneud y datganiad hwn heddiw er mwyn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y sefyllfa o ran diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor a’r camau nesaf i sefydlu cynllun newydd a fydd yn cynnig cymorth ar gyfer y dreth gyngor yng Nghymru.
Bydd Deddf Diwygio Lles 2012 yn diddymu budd-dal y dreth gyngor ar ei ffurf bresennol ar draws Prydain Fawr. Caiff ei ddiddymu ar 31 Mawrth 2013 a bydd y cyfrifoldeb am wneud trefniadau cymorth y dreth gyngor yng Nghymru yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru fel cyfrifoldeb newydd. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol bod hwn yn newid enfawr, sy’n golygu bod yn rhaid i ni ddatblygu a gweithredu cynllun newydd sy’n cynorthwyo rhai o’r bobl yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed. Mae’r amserlen ar gyfer gorfodi hyn yn creu heriau sylweddol.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y newidiadau, fe ddywedodd hefyd y byddai’n trosglwyddo cyllid i Gyllideb Cymru i gyd-fynd â’r cyfrifoldeb hwn, ond y byddai’r cyllid yn gostwng 10% o gymharu â’r cyllid ar gyfer budd-dal y dreth gyngor.
Pan wnaed y cyhoeddiad, nid oedd yna ddarpariaeth ddeddfwriaethol i’r Cynulliad na Gweinidogion Cymru allu gwneud trefniadau i ddarparu cymorth y dreth gyngor yng Nghymru. Ers hynny, mae pwerau deddfu sylfaenol wedi’u sicrhau drwy Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 Llywodraeth y DU, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 1 Tachwedd 2012.
Rhoddodd y Ddeddf honno’r pwerau i Weinidogion Cymru allu gwneud cynllun, ond mae’n rhaid pennu darpariaethau manwl unrhyw gynllun mewn rheoliadau. Mae’r swyddogion wedi bod yn gweithio ar y rheoliadau drafft ers dechrau’r haf, gan ddisgwyl i’r Bil gael ei basio.
Byddaf yn gosod y ddwy set gyntaf o reoliadau gerbron y Cynulliad yn fuan. Byddant yn amlinellu sut y caiff y prif gynllun ei weithredu. Fy mwriad gwreiddiol oedd y byddai’r rheoliadau hyn yn cael eu gosod, ac y cynhelid dadl arnynt, gyda’r nod y byddent yn dod i rym ar 1 Rhagfyr.
Un elfen hanfodol bwysig o’r rheoliadau, fodd bynnag, yw’r ffigur canrannol sy’n pennu’r gostyngiad i’r atebolrwydd i dalu’r dreth gyngor, at ddibenion cyfrifo faint o gymorth i’w gynnig i’r aelwydydd cymwys. Rhaid i’r ganran hon adlewyrchu’n gywir y gostyngiad yn lefel y cyllid sydd ar gael ac ni ellir pennu hynny yn derfynol hyd nes y bydd Trysorlys EM wedi cadarnhau’r swm a gaiff ei drosglwyddo. Er bod y Trysorlys wedi darparu rhai ffigurau dangosol ar gyfer Cymru ym mis Mai 2012, roedd y ffigurau hynny yn sylweddol is na’r amcangyfrifon blaenorol a ddarparwyd ganddynt. Ni chynigiwyd unrhyw eglurhad ynghylch y newid. Rydym ni o’r farn bod y ffigurau presennol yn cynrychioli bwlch ariannu o dros £20 miliwn. Byddai hwn yn fwlch rheolaidd, a chynyddol, nad oes gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i’w lenwi.
Mae fy nghyd Weinidogion a minnau wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gadarnhau’r trosglwyddiad cyllid ers sawl mis. Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd y Trysorlys na fyddai’r ffigur yn cael ei ddarparu hyd nes y cyflwynir Datganiad yr Hydref ar 5 Rhagfyr. Mae hynny’n golygu na fydd yn bosibl gosod y rheoliadau cyn y dyddiad hwnnw. O ganlyniad, rydym wedi gofyn bod trefniadau’n cael eu gwneud i ystyried y rheoliadau mewn cyfarfod llawn cyn gynted â phosibl wedi i’r rheoliadau gael eu gosod.
Rwyf wedi mynegi i Lywodraeth y DU pa mor bwysig yw’r mater hwn ar sawl achlysur. Os na ddaw’r rheoliadau i rym ddechrau mis Rhagfyr, mae yna risg gwirioneddol na allwn roi cynllun newydd yn ei le erbyn mis Ebrill 2013.
Mae nifer o sylwebwyr wedi awgrymu bod yr holl faterion hyn wedi’u datrys yn yr Alban. Mae’n wir bod Llywodraeth yr Alban wedi gosod ei set gyntaf o reoliadau gerbron Senedd yr Alban. Y rheswm pam y llwyddodd Llywodraeth yr Alban i wneud hynny yw bod ganddi’r adnoddau i allu llenwi’r bwlch cyllido, ac mae eu cynllun ar gyfer 2013-14 yn debyg iawn i’r drefn budd-daliadau’r dreth gyngor bresennol. Mae Llywodraeth yr Alban yn rhannu ein pryderon ynghylch y sefyllfa gyllidol, fodd bynnag. Pan wnaethant benderfynu llenwi’r bwlch cyllido ar gyfer 2013-14, amcangyfrifwyd mai £40 miliwn oedd maint y blwch ond, fel yn ein hachos ni, mae’r Trysorlys wedi gostwng ei amcangyfrif o’r symiau a gaiff eu trosglwyddo i Lywodraeth yr Alban ers hynny.
Rwyf wedi mynegi fy mhryderon am y mater hwn ar sawl achlysur. Mae’n siomedig bod y pryderon hyn wedi’u gwireddu a byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at oblygiadau eu gweithredoedd.