Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Polisi Llywodraeth Cymru yw rhoi cefnogaeth i staff sy’n derbyn cyflogau is oherwydd ein bod yn gwybod bod cyflog teg nid yn unig yn hybu cynhyrchiant a morâl yn y gwaith, ond hefyd yn gymorth i sicrhau iechyd da a bywyd teuluol. Rydym hefyd yn mynd i’r afael â thlodi mewn gwaith, a heriau parhaus hynny.
Yn unol â’r maniffesto, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod pob gweithiwr parhaol, heblaw am brentisiaid, a gyflogir yn uniongyrchol gan wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru a’r GIG yn derbyn lefel Cyflog Byw y DU, sef £7.20 yr awr.
Cyn bo hir, byddaf yn cynnull grŵp o randdeiliaid sydd â diddordeb yn y mater o gael cyflog byw i Gymru, gan gynnwys y CBI, Sefydliad Joseph Rowntree, TUC Cymru ac Achub y Plant, i weld sut y byddai cael cyflog byw i Gymru yn gallu gwireddu ein huchelgeisiau o ran polisi.