Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae problemau’n bodoli mewn rhannau o Dde Cymru ers nifer o flynyddoedd yn sgil ceffylau a merlod yn cael eu gadael. Mae’r broblem wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r problemau’n ymestyn i nifer o ardaloedd awdurdod lleol mewn sawl rhan o Gymru, ond yn arbennig ar hyd coridor yr M4. 


Mae pori anghyfreithlon wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf, a’i ystyr yn syml yw ymddygiad gwrthgymdeithasol gan rai berchenogion anghyfrifol sy’n rhyddhau eu ceffylau ar dir nad oes ganddynt unrhyw hawl i bori arno. Gan fwyaf nid oes modd adnabod perchennog yr anifeiliaid; mae’r anifeiliaid yn ymddangos yn sydyn, yn bwyta’r holl borthiant ar y tir ac yn diflannu’n sydyn, gan adael perchenogion y tir â chostau mawr i drwsio’r difrod a achosir. 


Cobiau Sipsiwn yw mwyafrif y ceffylau a’r merlod a welir yn pori’n anghyfreithlon, ac roedd y farchnad ar gyfer eu hallforio yn gwneud elw tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Gyda’r cwymp economaidd, mae’r marchnadoedd tramor hyn wedi crebachu gan fwyaf. Mae marchnad geffylau’r DU wedi crebachu hefyd, ac mae cwymp syfrdanol wedi bod yn y fasnach lewyrchus gynt am y mathau hyn o anifeiliaid, sy’n golygu bod gormod geffylau a merlod dieisiau. 


Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y broblem hon yn un sylweddol a’i bod yn achosi dioddefaint diangen i lawer o geffylau a merlod. Bydd Llywodraeth Cymru’n cymryd camau pendant i reoli a dileu’r broblem hon.


O ystyried yr anawsterau a achosir i bobl mewn cymunedau ledled Cymru a’r ffaith bod y mater hwn yn ymwneud â nifer o bortffolios Gweinidogol, mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i mi arwain yn Weinidogol ar y mater. Felly byddaf yn arwain ar ymateb y Llywodraeth ac yn ceisio cyngor gan swyddogion ar draws y Llywodraeth, yr heddlu, awdurdodau lleol, elusennau anifeiliaid a rhanddeiliaid yn ôl y gofyn.


Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Lles Ceffylau Cymru ar 12 Medi, a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, RSPCA a’r Cyngor Lles Ceffylau Cenedlaethol. Nod yr uwchgynhadledd oedd annog gwaith partneriaeth, ac roedd hefyd yn galluogi cynrychiolwyr sefydliadau ceffylau a gorfodaeth i ddatgan pryderon ac ystyried ffyrdd tymor byr a hirdymor o ddatrys y broblem. Daeth mwy na 70 o bobl i’r uwchgynhadledd, gan gynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol, yr Heddlu, Cymdeithas Geffylau Prydain, cymdeithasau tir comin ac amryw elusennau lles ceffylau. Rwy’n ymwybodol hefyd bod y Grŵp Trawsbleidiol ar Geffylau yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi adolygu’r mater ac wedi gwneud nifer o argymhellion i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.


Byddaf yn gwneud datganiad pellach mewn ymateb i’r gwaith hwn yn ddiweddarach y mis hwn. Yn y tymor byr, bydd y Llywodraeth yn rhoi mesurau ar waith i fynd i’r afael â phroblemau a allai godi dros y misoedd nesaf, gan ymgynghori ar ateb hirdymor ar yr un pryd. Byddaf yn ymgynghori ar fy nghynigion ar gyfer yr ateb hirdymor hwn rwy’n disgwyl y bydd modd ei roi ar waith yn 2013.

Rwyf wedi cwrdd â Carmel Napier, Prif Gwnstabl Gwent, sy’n arwain ar y mater hwn ar ran Prif Gwnstabliaid Cymru, a byddaf yn cwrdd ag arweinwyr yr awdurdodau lleol yn y pythefnos nesaf i sicrhau ein bod yn mynd ati mewn ffordd gydlynus a chadarn i ddatrys y broblem. 

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion adolygu’r fframwaith cyfreithiol sydd ar gael ar hyn o bryd i ni fynd i’r afael â phroblem pori anghyfreithlon. Rwy’n cydnabod bod Deddf Anifeiliaid 1971 yn cynnig y dulliau cyfreithiol a bod dulliau eraill ar gael drwy Ddeddfau lleol. Fodd bynnag, mae anghysondebau yn y ddeddfwriaeth o ystyried bod y pwerau yn y Deddfau lleol mewn perthynas â phori anghyfreithlon yn amrywio o ardal i ardal. Mae hyn yn anfoddhaol a byddaf yn adolygu’r opsiynau i sicrhau bod fframwaith cyfreithiol syml, cadarn a chyson yn bodoli ledled Cymru.

At ei gilydd, amcan Llywodraeth Cymru yw mabwysiadu polisi a fydd yn diogelu lles ceffylau a merlod, yn diogelu eiddo a’r cyhoedd ac yn cosbi’r rheini sy’n ymddwyn heb ystyried iechyd a lles eu ceffylau a hawliau’r cyhoedd.