Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cafodd Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2012 ei osod heddiw, ar 23 Ebrill 2012.
Mae'r Bil yn amlinellu nifer o gynigion a fydd yn gwneud ysgolion yn fwy atebol drwy gyfuno, diweddaru a, lle bo angen, drwy dynhau safonau a dulliau rheoli. Mae'r Bil yn sefydlu prosesau a fydd yn cyfrannu at ein hagenda i wella ysgolion; i ddiwygio ac i gyflymu'r broses statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion, ac i sicrhau bod mwy o benderfyniadau'n cael eu gwneud yn lleol.
Bydd sail statudol yn cael ei rhoi i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, i frecwast am ddim mewn ysgolion ac i gwnsela mewn ysgolion, a bydd beichiau biwrocrataidd yn cael eu lleihau drwy brif ffrydio rhaglenni a ariennir gan grant. Bydd awdurdodau lleol ac ysgolion yn cael mwy o hyblygrwydd ynghylch pennu prisiau prydau ysgol.
Mae'r Bil hefyd yn diddymu'r gofyniad i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni, ac yn rhoi yn ei le yr hawl i rieni gyflwyno deiseb i'r corff llywodraethu yn gofyn am gyfarfod yn ôl yr angen. Mae hyn yn rhoi rheolaeth i rieni ynghylch pryd y caiff y cyfarfodydd hyn eu cynnal.
Mae'r Bil yn gwneud darpariaethau yn y meysydd a ganlyn:
- ymyrryd mewn ysgolion sy’n peri pryder ac ymyrryd yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn arfer eu swyddogaethau addysg os yw hynny'n peri pryder
- canllawiau ar wella ysgolion
- trefniadaeth ysgolion
- Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
- cyfarfodydd blynyddol rhieni
- codi taliadau hyblyg am brydau ysgol
- trosglwyddo cyllid i'r Grant Cynnal Refeniw:
– brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd a gynhelir gan awdurdodau lleol
–cwnsela mewn ysgolion ar gyfer plant a phobl ifanc o Flwyddyn 6 addysg gynradd hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed.