Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd
Mae trafodaethau hir bellach wedi’u cwblhau rhwng y DU a’r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â rhoi ar waith Reoliad y Cyngor 21/2004, yn arbennig ar gynnig goddefiant am gyfraddau darllen o lai na 100% mewn Canolfannau Cofnodi Canolog. Mae’n siomedig bod cynnig gwreiddiol y DU am oddefiant am dagiau sydd heb eu darllen wedi cael ei wrthod. Mewn ymateb i gynnig diwygiedig y DU, sy’n amlinellu ffordd bosibl ymlaen drwy gynnig goddefiant cyfyngedig, mae’r Comisiwn wedi cadarnhau nad oes angen dilysu na chymeradwyo gofynion trawsgydymffurfio ymlaen llaw.
Mae fy swyddogion wedi ystyried ym mha ffordd y gellid rhoi’r goddefiant cyfyngedig hwn ar waith yng Nghymru, y risg o feirniadaeth wrth archwilio yn y dyfodol a’r set gymhleth o reolau ychwanegol y byddai ei hangen. Mae dadansoddiad o’r 757 o archwiliadau a gynhaliwyd yn 2011 yn datgelu na fyddai unrhyw ffermwyr yng Nghymru yn gymwys am y goddefiant cyfyngedig sydd ar gael.
Yng ngoleuni hyn, rwyf wedi penderfynu heddiw nad wyf am gynnig goddefiant cyfyngedig i ffermwyr Cymru nad ydynt yn cofnodi’r manylion adnabod unigol yn eu llyfrau cofnodion o ganlyniad i dagiau heb eu darllen mewn Canolfannau Cofnodi Canolog. Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn ar ôl ystyried y goblygiadau i adnoddau o gyflwyno set ychwanegol o reolau cymhleth (i ffermwyr a swyddogion) y byddai’n rhaid i ni gyfathrebu â ffermwyr amdanynt, a’r ffaith na fyddai unrhyw ffermwyr yn gymwys am y goddefiant yn 2011, yn erbyn y risg o gosb ariannol o €3.4m i gyllidebau Cymru.
Er fy mod yn siomedig na chafwyd y canlyniad roeddwn i am ei weld yn sgil y trafodaethau gyda’r Comisiwn ynglŷn â’r goddefiant, roeddwn i’n falch o gyhoeddi ym mis Rhagfyr bod y dyddiad gofynnol ar gyfer cofnodi anifeiliaid hŷn yn unigol (a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009) wedi’i ohirio tan ddiwedd 2014.
Mae’n amlwg i mi mai rhywbeth parhaol fydd yr egwyddor graidd o gofnodi unigol drwy dagiau electronig, ac er nad ydwyf wedi fy argyhoeddi eto am allu technoleg i fod yn gwbl gywir, dylai’r diwydiant, llywodraeth a chyflenwyr offer ganolbwyntio’u hymdrechion ar wneud i’r dechnoleg weithio i Gymru.
Rwy’n bwriadu sefydlu Cronfa Ddata Tagiau Electronig Defaid i Gymru i gryfhau’n rheolaeth ar y mater hwn yn y dyfodol. I’r perwyl hwn, mae fy swyddogion wrthi’n asesu’r opsiynau ac rwy’n disgwyl gwneud cyhoeddiad ar hyn ddiwedd mis Chwefror. Bydd darparu seilwaith fel hyn sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn cynnig cyfleoedd i gael gwared ar lawer o’r biwrocratiaeth presennol ac yn ffordd i’r diwydiant ystyried ffyrdd mwy effeithlon a phroffidiol o gynhyrchu cig oen Cymreig. Bydd hyn hefyd yn cynnig tystiolaeth a fydd yn sail i drafodaethau yn y dyfodol gyda Chomisiwn Ewropeaidd.