Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Rwyf am hysbysu Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi sefydlu Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru (y Comisiwn), dan Gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, Cynghorydd Strategol Prifysgol Abertawe, gan fod 2012 wedi’i enwi gan y Cenhedloedd Unedig yn Flwyddyn Ryngwladol y Mentrau Cydweithredol.
Gwaith y Comisiwn fydd gwneud argymhellion ynghylch tyfu a datblygu’r economi cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chyfoeth i gefnogi nodau ac uchelgais Llywodraeth Cymru.
Swyddogaeth y Comisiwn fydd:
- Ystyried y dystiolaeth dros gefnogi’r sector gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru;
- Ystyried cyngor busnes cyfredol ar gyfer y sector gydweithredol a chydfuddiannol a darparu awgrymiadau am ffyrdd o’i gryfhau;
- Clustnodi meysydd penodol y gellid eu targedu ar gyfer cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru;
- Ystyried yr arfer da a’r gwerthusiadau sydd ar gael;
- Gosod gweledigaeth ar gyfer economi cydweithredol a chydfuddiannol Cymru;
- Clustnodi a sefydlu meincnodau;
- Darparu awgrymiadau ynghylch cyfeiriad strategol ac argymhellion ymarferol ar gyfer cyflawni’r weledigaeth.
Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch aelodaeth y Comisiwn ar ôl toriad yr haf.