Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dyma gylch gorchwyl yr Adolygiad:
Gan gydweithio â rhanddeiliaid, gan gynnwys Cynghorau Iechyd Cymuned, Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector, Cydffederasiwn y GIG, Cyrff Iechyd megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn, bydd yr adolygiad:
- yn archwilio sut caiff Cynghorau Iechyd Cymuned eu rheoli o’r bôn i’r brig ac, yn benodol, yn llunio argymhellion ar:
- y strwythur gweithredol
- llinellau atebolrwydd gan gynnwys cysylltiadau â Llywodraeth Cymru
- rôl a chyfrifoldebau Cyfarwyddwr y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned
- y strwythur aelodaeth a’r prosesau penodi
- gwneud defnydd effeithiol o Awdurdodau Lleol a’r Trydydd Sector
- yn argymell lle a sut mae angen inni ddatblygu Cynghorau Iechyd Cymuned, gan gynnwys yr aelodau, yn sefydliadau ‘proffesiynol’ sy’n cydweddu ag anghenion strategol ‘Law yn Llaw at Iechyd’
- yn ystyried sut mae Cynghorau Iechyd Cymuned a Byrddau Iechyd yn cydweithio er lles pobl Cymru, gan gynnwys sut maent yn cyflawni eu rhwymedigaethau statudol
- yn ystyried yr hyn rydym yn ei gael am ein harian a lle gall Cynghorau Iechyd Cymuned fod yn fwy effeithlon
- yn nodi enghreifftiau o arfer da o fewn y Cynghorau Iechyd Cymuned y mae angen eu mabwysiadu’n ehangach a sut gellir gwneud hyn
- yn ystyried ac yn llunio argymhellion ar ddatblygu eu rôl o fod yn “ffrind beirniadol” mewn perthynas â Byrddau Iechyd, gan gynnwys bod yn llais i gleifion
- yn ystyried eu perthynas gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, y Comisiynydd Plant a’r Comisiynydd Pobl Hŷn
- yn ystyried sut dylid darparu’r Gwasanaeth Eiriolaeth yn y dyfodol.
Rwy’n rhagweld y caf adroddiad o’r adolygiad ym mis Mehefin. Yna bydd yna ymgynghori ffurfiol ar ei argymhellion dros yr haf. Rhoddaf adroddiad ar gasgliadau’r adolygiad i’r Cynulliad yn yr hydref.