Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Ym mis Medi 2011, lansiais Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer Pobl Ifanc 14 i 19 oed ac ym mis Tachwedd 2011, gofynnais i Huw Evans arwain yr Adolygiad. Roedd Bwrdd yr Adolygiad yn cynnwys aelodau allanol, gan gynnwys dau gyflogwr, cynrychiolwyr o ysgolion, addysg bellach, darparwyr dysgu’n seiliedig ar waith, addysg uwch a swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae gan aelodau’r Bwrdd wybodaeth, arbenigedd a phrofiad eang ym maes darparu, dylunio, rheoleiddio ac asesu cymwysterau ar draws y sectorau ysgol, addysg bellach, dysgu’n seiliedig ar waith, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gan y cyflogwyr a’r ymarferwyr addysg uwch wybodaeth rheng flaen o farn ehangach am gymwysterau a’r hyn sy’n gwneud cymwysterau’n berthnasol ac yn werthfawr.
Heddiw, bydd Huw Evans a Bwrdd yr Adolygiad yn cyflwyno’u hadroddiad terfynol a’u hargymhellion i’r Gweinidogion.
Tasg yr adolygiad oedd ystyried sut i wireddu’r weledigaeth o ‘gymwysterau sy’n cael eu deall a’u gwerthfawrogi ac sy’n diwallu anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru’. Lansiwyd yr Adolygiad yn sgil pryderon ynghylch pa mor gymhleth yw’r system, p’un a yw pobl yn ei deall, yn ei hystyried yn berthnasol, yn ei gwerthfawrogi a ph’un a yw’r cymwysterau’n rhai trylwyr.
Rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Mai 2012, bu aelodau’r Bwrdd a swyddogion yn cyfarfod ac yn gwrando ar lawer o randdeiliaid mewn amryw gyfarfodydd a digwyddiadau ledled Cymru. Rhannodd pobl ifanc eu profiadau a’u barn gyda thîm yr Adolygiad mewn ysgolion, colegau ac mewn digwyddiadau i randdeiliaid. Hefyd, cafodd y Bwrdd farn llawer o gyflogwyr, cynrychiolwyr cyflogwyr, prifysgolion a darparwyr dysgu. Cynhaliodd y Bwrdd ymchwil i farn rhieni a’r farn am gymwysterau ymysg nifer o grwpiau rhanddeiliaid. Denwyd 185 o ymatebion yn ystod ymarfer ymgynghori ffurfiol, yn rhedeg o 31 Mai i 1 Medi. Roedd hyn yn cynnwys diwrnod agored i gasglu tystiolaeth lle'r oedd unrhyw randdeiliaid yn gallu lleisio’u barn yn uniongyrchol i aelodau’r Bwrdd.
Defnyddiodd yr Adolygiad swmp sylweddol o dystiolaeth a data cyfredol. Hefyd, comisiynodd ymchwil newydd, pwrpasol ar rai pynciau pwysig, megis modelau o gymwysterau mewn gwledydd eraill, sgiliau llythrennedd a rhifedd, cymwysterau Lefel Mynediad, materion rhyw o ran asesu a chymwysterau galwedigaethol mewn sectorau penodol.
Hoffwn ddiolch i Huw Evans a’r Bwrdd am eu gwaith gwych ar yr Adolygiad ac am baratoi adroddiad trylwyr, ystyriol a gwerthfawr. Rwy’n arbennig o falch fod canfyddiadau’r adroddiad wedi’u seilion gadarn ar dystiolaeth a bod yr argymhellion wedi’u datblygu mewn ffordd gynhwysol ar sail trafodaeth gydag ystod eang o randdeiliaid.
Mae’r adroddiad hwn yn un annibynnol i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae ei argymhellion wedi’u gwneud gan gydnabod y cyd-destun polisi ehangach yn llawn. Mae’n datblygu ac yn cyd-fynd â’r gwaith yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef o ran llythrennedd a rhifedd. Mae hefyd yn adlewyrchu’r penderfyniad a gymerwyd gennym eisoes y dylai Bagloriaeth Cymru gael ei raddio ar Lefel Uwch o 2013 ymlaen, er mwyn ei wneud yn fwy trylwyr a gwerthfawr.
Bydd Llywodraeth Cymru’n astudio argymhellion yr Adolygiad yn fanwl ac yn ofalus cyn dod i gasgliad am y ffordd ymlaen. Byddwn yn ymateb yn ffurfiol i’r holl argymhellion erbyn diwedd Ionawr 2013.