Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf eisoes wedi datgan fy ymrwymiad i weithredu mewn modd tryloyw ac atebol wrth ddarparu cyllid Ewropeaidd, ac rwy’n dymuno tynnu eich sylw at adroddiad cryno a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n gwerthuso llwyddiannau rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2000–2006 yng Nghymru.  

Daw’r cyhoeddiad ar ôl rhyddhau ffigurau Eurostat yr wythnos ddiwethaf (13 Mawrth) ar CMC/GYC rhanbarthau 27 gwlad yr UE, sy’n dangos bod y sefyllfa yng Nghymru a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn adlewyrchu dirywiad mawr yn sefyllfa gyffredinol y DU o gymharu â 27 yr UE. Y prif reswm dros y dirywiad hwn yw’r cynnydd sylweddol a gofnodwyd yng nghost nwyddau a gwasanaethau’r DU o gymharu â 27 yr UE.

Er mai ffigurau CMC/GYC Eurostat a ddefnyddir i benderfynu a yw rhanbarthau’n gymwys i gael Cronfeydd Strwythurol, mae iddynt eu gwendidau. Yn un peth, mae’r ystadegau hyn yn arbennig o gamarweiniol mewn rhai ardaloedd, fel Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, lle mae llif enfawr o bobl yn cymudo oddi yno gan ostwng yr amcangyfrifon o’r GYC. Hefyd, mae CMC/GYC ei rhoi darlun anghyflawn o lwyddiannau economïau, ac mae angen ystod o ddangosyddion eraill i’w hategu.

Er mwyn deall effeithiolrwydd ac effaith Cronfeydd Strwythurol a dysgu gwersi ar gyfer datblygu a darparu rhaglenni yn y dyfodol, rwy’n cyhoeddi adroddiad cryno yn gwerthuso rhaglenni 2000–2006 yng Nghymru.  

Mae’r adroddiad yn dangos bod rhaglenni Ewropeaidd yn cyflawni buddiannau sylweddol ar gyfer pobl, busnesau a chymunedau, gan ragori ar nifer o dargedau. Yn wir, roedd prosiectau’r UE a gyflawnwyd drwy bartneriaethau wedi helpu i greu 52,800 net o swyddi a 3,100 net o fusnesau bach a chanolig; yn ogystal, roeddent wedi helpu cyfranogwyr i ennill ychydig dros 200,000 o gymwysterau ac wedi cynorthwyo 98,700 (net) o unigolion economaidd anweithgar / di-waith i gael hyd i swydd neu gwrs addysg bellach. Hefyd, adeiladwyd neu uwchraddiwyd 185km o lwybrau trafnidiaeth, adfywiwyd naw canol tref ac fe gafodd dros 370,000 tunnell o wastraff trefol ei ailgylchu neu gompostio. Creodd y rhaglen fuddiannau cymunedol ehangach, drwy ddatblygu partneriaethau a meithrin galluoedd perthnasol.

Mae cyllid Ewropeaidd yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn bwysig iawn wrth gyfrannu at ein hymdrechion i adfywio’r economi a thaclo sialensiau strwythurol Cymru yn y tymor hir. Yn wir, cyn y dirywiad economaidd diweddar, roedd y CMC y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi bod yn cynyddu ers tua 2001 o gymharu â 27 yr UE, gan wyrdroi’r tueddiad blaenorol o ddirywiad a gafwyd ganol y 1990au.


Serch hynny, am y rhesymau a amlinellir uchod, mae’n bwysig gosod CMC/GYC yn y cyd-destun economaidd cyffredinol ac ystyried casgliad o ddangosyddion perfformiad economaidd wrth fesur llwyddiant economïau.

Mae’n debyg mai’r canlyniadau economaidd sydd bwysicaf i les pobl yw eu cyfle i gael swyddi a’u cyflog o’r swyddi hynny.  Ar sail Prif Incwm y Pen (sy’n mesur yr incwm y mae pobl yn ei ennill o weithgarwch economaidd), bu cynnydd yng Nghymru ers 1999 o gymharu â 15 yr UE.  Hefyd, bu cynnydd o tua un rhan o ddeg yn y lefelau cyflogaeth yn ystod cyfnod rhaglen 2000-2006, o1999 tan y dirwasgiad byd-eang yn 2008/2009. Roedd dwy ran o dair o’r gyflogaeth ychwanegol hon yn y sector preifat, a bron y cyfan yn y tri phrif ddosbarth galwedigaethol. Yn y canlyniadau economaidd hyn hefyd y byddem wedi gobeithio gweld budd nifer o’r ymyraethau a gyllidwyd hariannu gan yr UE, ac  yn wir mae Cymru a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi perfformio’n well na’r DU ers 2001 yn hyn o beth.  


Mae llawer i’w wneud o hyd, fodd bynnag, i greu cenedl gynaliadwy, gynhwysol a ffyniannus, ond dyna’n union mae ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol yn ceisio ei wneud.  Mae’r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid, gyda chefnogaeth werthfawr a pharhaus y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, wedi cychwyn taclo effeithiau tymor hir y dirywiad a’r newid strwythurol. 
  
Wrth baratoi ar gyfer rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig 2014–2020, lle mae Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer olynydd y rhaglen Cydgyfeirio, byddwn yn edrych am ffyrdd newydd, effeithiol ac arloesol i ddefnyddio arian yr UE. At hyn, rwy’n gosod pwyslais ar ddefnyddio arian yr UE mewn ffordd fwy integredig ledled Cymru ac rwy’n gobeithio y bydd Fframwaith Strategol Gyffredin y Comisiwn Ewropeaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar (15 Mawrth) yn ein galluogi i gyflawni hynny.

Wedi cwblhau’r ymarfer ymgynghori diweddar sy’n gofyn am farn gychwynnol ein partneriaid, rwy’n bwriadu gwneud datganiad am ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi cyllid Ewropeaidd ym mis Mai eleni. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddatblygu’r Rhaglenni Gweithredol newydd a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod gaeaf 2012/2013.

Gyda’n Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol a strategaethau pwysig eraill, rwy’n hyderus y bydd y Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru yn parhau i’n cynorthwyo i daclo sialensiau strwythurol economi Cymru, ac yn helpu i wella bywydau pobl Cymru.

Mae’r adroddiad gwerthuso cryno ar gael ar wefan WEFO (wefan allanol).  Mae’r cyhoeddiad yn ategu adroddiadau rheoli mewnol ac allanol eraill ar gyfer rhaglenni 2000–2006 a ddarparwyd dros y ddegawd ddiwethaf, gan gynnwys Adroddiadau Gweithrediad Terfynol ar gyfer pob un o’r rhaglenni.