Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Ar y 31 Ionawr fe wnes Ddatganiad Llafar yn diweddaru aelodau am ardaloedd menter yng Nghymru. Fel rhan o’r Datganiad fe amlinellais y cynnig arloesol a dderbyniwyd gan Bowys ar gyfer ardaloedd twf lleol.
Rwyf nawr yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen tymor byr i edrych ymhellach ar y model fel dewis arall yn lle Ardaloedd Menter. Bydd yn ystyried yr opsiynau polisi ar gyfer annog a chefnogi swyddi a thwf economaidd ac yn cynnig y cyfle i brofi gwahanol fathau o ymyrraeth a fydd yn sensitif i sefyllfa economaidd Powys a’r sialensiau i dwf. Yn arbennig, bydd yn ystyried y cynnig amlinellol gan Bowys ar gyfer ardaloedd twf lleol ac yn edrych ar y materion arbennig sy’n effeithio ar drefi marchnad allweddol Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd.
Rwyf wedi gofyn i’r Grŵp am adroddiad interim erbyn diwedd mis Mawrth 2012. Rwy’n rhagweld y bydd y Grŵp yn cyflwyno canfyddiadau pwysig fydd yn berthnasol i rannau eraill o Gymru hefyd. Felly, byddaf yn sicrhau bod y gwersi y byddwn yn eu dysgu o’r gwaith hwn yn cael eu lledaenu ac yn sylfaen i’r gwaith a wnawn yn y dyfodol.
Bydd aelodaeth y grŵp yn cynnwys arbenigwyr ym maes busnesau’r sector breifat, datblygu economaidd gwledig ac adfywio a busnesau bach mewn sectorau allweddol fel gweithgynhyrchu, twristiaeth a manwerthu. Rwyf wrth fy modd fod Justin Baird-Murray, Rheolwr Gyfarwyddwr a perchennog Gwesty’r Metropole, Llandrindod wedi cytuno i gadeirio’r grŵp. Yn ymuno ag ef bydd Janet Jones, Cadeirydd y Ffederasiwn Busnesau Bychain yng Nghymru, James Gibson-Watt, dyn busnes a manwerthwr yn y Canolbarth, John Gallagher, Control Techniques, Hannah Barrett, Cadeirydd Mid Wales Manufacturing Group a Wynne Jones, Cyngor Sir Powys. Bydd gan Sue Balsom, aelod o’r grŵp gorchwyl a gorffen micro-fusnesau, rôl gynghori ar y gwaith hwn.