Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y camau mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i ddelio â phryderon diogelwch yn ymwneud â mewnblaniadau bronnau gan gwmni Poly Implant Prothese (PIP).
Mae angen imi egluro o’r cychwyn cyntaf ein bod yn derbyn cyngor y Grŵp Arbenigol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Nid oes tystiolaeth glir i awgrymu y dylai menywod gael gwared ar eu mewnblaniadau bronnau PIP. Ein cyngor ni i unrhyw fenywod sydd â phryderon neu gwestiynau yw eu bod yn ceisio trefnu ymgynghoriad â’r llawfeddyg a gynhaliodd y mewnblaniad yn y lle cyntaf neu, os nad yw hynny’n bosibl, eu bod yn ymgynghori â’u Meddyg Teulu.
Mae’n flin iawn gennyf am y gofid a achoswyd yn sgil defnyddio’r cynhyrchion eilradd hyn. Gallaf ddeall pam bod menywod yn bryderus a bod angen sicrwydd arnynt. Gallaf hefyd eich sicrhau ein bod yn gweithio’n galed i sefydlu faint o fenywod yng Nghymru a gafodd fewnblaniadau PIP a byddwn yn rhoi gwybod i’r Cynulliad, y GIG a’r cyhoedd am unrhyw ddatblygiadau cyn gynted ag y gallwn ddod o hyd i ddata pellach.
Un o’n prif flaenoriaethau yw sefydlu’r niferoedd dibynadwy a’r costau. Fodd bynnag, mae’n bwysig sylweddoli na fydd angen i’r holl fenywod yr effeithir arnynt gael gwared ar eu mewnblaniadau neu gael rhai arall yn eu lle. Mae’n bosibl na fyddant yn dymuno gwneud hynny, neu efallai nad ydynt yn cael problemau. Rhaid i fenywod fod yn ymwybodol o’r holl beryglon sy’n gysylltiedig â llawdriniaeth pan fyddant yn ystyried a ddylid cael gwared ar eu mewnblaniadau. Dim ond pan fydd ganddynt yr holl dystiolaeth y mae modd iddynt wneud y penderfyniad hwn.
Yn ôl ein gwaith ymchwil cychwynnol yr awgrym yw bod nifer y menywod yr effeithiwyd arnynt yn isel. Ond nid oes gennym amcangyfrif clir ar gyfer Cymru ar hyn o bryd.
Fe’n hysbyswyd na wnaeth y prif ddarparwyr gofal iechyd preifat yng Nghymru ddefnyddio’r mewnblaniadau hyn, ond nid wyddom faint o fenywod sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael mewnblaniadau y tu allan i Gymru.
Gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn yn rhoi cymaint o bwysau ag y gallwn ar y darparwyr preifat i barchu’r ddyletswydd gofal sydd ganddynt i’w cleifion yn y lle cyntaf. Os yw’r darparwr preifat yn gwrthod, neu’n analluog i gyflawni’r driniaeth, bydd y GIG yn cynnig cael gwared ar y mewnblaniadau neu’n rhoi mewnblaniadau newydd yn eu lle os ystyrir fod hynny’n briodol yn glinigol. Yn wir, cyhoeddais yn gynharach yn yr wythnos y bydd pob menyw yng Nghymru yr asesir yn glinigol fod angen iddi gael gwared ar fewnblaniadau bronnau PIP yn cael cynnig mewnblaniadau newydd ar y GIG, p’un a gawsant y driniaeth gychwynnol yn breifat neu gan y GIG.
Y prif bryder sydd gennyf yw sicrhau iechyd a lles y menywod yr effeithiwyd arnynt. Mae gan bawb yng Nghymru yr un hawl i ofal GIG o’r ansawdd uchaf. Rhaid inni sicrhau ein bod yn cynnig yr un safon o gymorth i bawb sy’n mynd at y GIG â’u pryderon iechyd. Derbyniodd y menywod hyn y mewnblaniadau ar yr amod eu bod yn bodloni safonau llawfeddygol a’u bod yn ddiogel. Nid felly y bu, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd angenrheidiol.
Gallai cael gwared ar fewnblaniadau PIP a pheidio â rhoi mewnblaniadau newydd yn eu lle olygu canlyniadau cosmetig gwael i rai cleifion a gallai hynny arwain at effaith seicolegol ddifrifol. Os yw’n ofynnol yn glinigol, ychwanegiad syml yw rhoi mewnblaniad newydd yn lle’r hen un fel rhan o’r un llawdriniaeth, ac mae’n osgoi’r angen i fenywod orfod cael ail lawdriniaeth. Mae llawer o lawfeddygon cosmetig sy’n gweithio yng Nghymru’n cefnogi’r safbwynt hwn. Rwy’n anghytuno â barn Llywodraeth y DU y byddai penderfyniad o’r fath yn achub croen y darparwyr preifat. Byddwn yr un mor gadarn a phenderfynol wrth fynd ar ôl y darparwyr preifat i wneud yn siŵr eu bod yn talu am y costau, gan wneud pob ymdrech i adfer y costau hynny drwy’r camau cyfreithiol priodol os oes angen.
Yn hytrach nag annog clinigau preifat i droi cleifion ymaith, rwy’n disgwyl y bydd ein hymyrraeth ni’n rhoi pwysau ychwanegol ar ddarparwyr preifat i gydnabod eu dyletswydd gofal i’w cleifion a sicrhau’r canlyniadau clinigol gorau posibl i’r menywod yr effeithiwyd arnynt. Rwyf o’r farn y bydd y dull hwn o weithredu’n gosod y safon ar gyfer y darparwyr preifat.
Rwyf wedi gofyn i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), sy’n sicrhau gwasanaethau llawdriniaeth gosmetig ledled Cymru, gydweithio â swyddogion a’r Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Lawdriniaeth Blastig ac Adluniol i ddatblygu proses ar gyfer menywod a gafodd eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu.
Y nod fydd sefydlu proses ar gyfer yr holl gleifion na chawsant unrhyw gymorth gan eu darparwr preifat, i gael ymgynghoriad â llawfeddyg cosmetig y GIG yn y lle cyntaf. Os ystyrir fod llawdriniaeth yn angenrheidiol yna bydd hyn yn cael ei drefnu heb unrhyw effaith ar gleifion eraill, nac unrhyw berygl i’r gofal mae eraill yn ei dderbyn. Fodd bynnag, gan nad yw hon yn sefyllfa o argyfwng, gall cleifion ddisgwyl gorfod aros am beth amser cyn bod hyn yn digwydd.
Bydd cost ein penderfyniad i drin y menywod yr effeithiwyd arnynt yn amrywio gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw pob achos. Bydd gennym wybodaeth well am y gost unwaith y bydd mwy o eglurder am y niferoedd.
Yr hyn a wyddom yn sicr yw bod y costau’n debygol o fod yn is a’r canlyniadau clinigol yn well os yw’r cleifion yn derbyn un llawdriniaeth yn unig. Fel y dywedais, mae gennym gyfrifoldeb i bawb sy’n mynd at y GIG, waeth pwy fu’n gofalu amdanynt yn y gorffennol. Felly rwy’n credu y bydd y costau terfynol yn briodol ac yn angenrheidiol. Telir am gostau unrhyw driniaeth gan y GIG drwy’r WHSSC, sy’n gyfrifol am ariannu llawdriniaethau cosmetig ledled Cymru.
Bydd Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru yn cyfarfod â darparwyr preifat a’u cynrychiolwyr cyn gynted â phosibl i archwilio’r materion dan sylw a chytuno ar broses fydd yn sicrhau bod gwasanaethau llawdriniaeth gosmetig ar gael i gleifion yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi gofyn iddo drafod â gweithgynhyrchwyr mewnblaniadau moesegol i weld a oes modd negodi pris isel yn arbennig ar gyfer y sefyllfa benodol hon.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wrth i’r sefyllfa ddatblygu.