Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Law yn Llaw at Iechyd, y weledigaeth bum mlynedd ar gyfer GIG Cymru, yn cydnabod bod gan bob aelod staff y GIG rôl hanfodol yn y gwaith o sicrhau gofal effeithiol a diogel i bobl Cymru a llunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd. Yn gynharach eleni, lansiais Gweithio’n Wahanol - Gweithio Gyda’n Gilydd, fframwaith gweithlu strategol a datblygu trefniadaeth, er mwyn sicrhau bod y staff priodol gennym ac er mwyn eu cefnogi i fynd ati i sicrhau gofal o safon ragorol. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo iechyd a lles drwy ystod o fentrau gwaith.
Mae tystiolaeth gadarn o gysylltiad rhwng iechyd a lles staff a pherfformiad gwasanaethau iechyd. Mae iechyd a lles da ymhlith y staff yn arwain at well diogelwch i gleifion, boddhad ymysg cleifion a gofal mwy effeithlon. Hefyd, mae tystiolaeth glir o gysylltiad rhwng ffactorau ffordd o fyw ac absenoldeb salwch. Er enghraifft, dywedir bod mwy o siawns bod smygwyr yn absennol o’r gwaith na rhywun nad yw’n smygu - a’u bod yn absennol am yn hirach hefyd. Felly, mae’r achos o blaid y GIG yn gosod enghraifft drwy wella iechyd a lles ei staff yn un cryf o ran y sefydliad ac o ran iechyd cyhoeddus ehangach.
Mae datblygiadau sylweddol wedi digwydd o ran gwella polisïau a gwasanaethau iechyd a lles ar gyfer staff y GIG. Mae absenoldeb salwch wedi lleihau – mae 6 o’r 7 Bwrdd Iechyd Lleol ac 1 o’r 3 Ymddiriedolaeth wedi cyflawn Lefel Aur y Safon Iechyd Corfforaethol, sef ein nod ansawdd cenedlaethol ar gyfer iechyd a lles yn y gweithle, ac mae mentrau unigol megis Cynllun ‘Worksure’ Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cynrychioli arfer cyflogaeth gorau. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod bod angen gwneud mwy i wella iechyd a lles staff y GIG, yn enwedig y rheini sydd ym maes gofal sylfaenol sy’n cael mynediad mwy cyfyngedig i wasanaethau iechyd galwedigaethol.
Mae grŵp, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Mansel Aylward, wedi adolygu’r dystiolaeth ar wella iechyd a lles cyflogeion ac wedi edrych ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd galwedigaethol yn GIG Cymru. Canfu’r grŵp fod gwasanaethau iechyd galwedigaethol yn amrywio rhwng sefydliadau’r GIG a bod lle i wella iechyd a lles staff y GIG ymhellach yn ogystal â lleihau cyfraddau absenoldeb salwch a sicrhau elw net drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau o’r fath. Ymhlith yr argymhellion, roedd:
- Moderneiddio’r ymagwedd bresennol tuag at iechyd galwedigaethol, sicrhau bod gan wasanaethau’r GIG yr offer i fynd i’r afael â materion iechyd cyfoes yn y gweithle gan ganolbwyntio ar atal salwch a gwella iechyd;
- Gwneud y mwyaf o’r capasiti iechyd galwedigaethol presennol er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau arbenigol cyfyngedig;
- Gwneud gwell defnydd o wasanaethau TGCh a chymorth ffôn;
- Sicrhau gwell cymorth i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, ac yn enwedig ymarferwyr gofal sylfaenol, gan fod tystiolaeth fod gweithwyr iechyd yn delio â salwch ac yn defnyddio cymorth mewn ffordd wahanol i weddill y boblogaeth;
- Gwella proffil iechyd galwedigaethol a gwneud gyrfa yn y maes yn fwy deniadol.
Ar ôl ystyried yr argymhellion hyn a chyngor arall ar wasanaethau iechyd galwedigaethol GIG, rwyf wedi rhoi’r cyfarwyddyd canlynol:
- Yn y dyfodol, dylai gwasanaethau iechyd galwedigaethol yr Ymddiriedolaethau a’r Byrddau Iechyd weithio fel rhwydwaith i sicrhau y rheolir yr adnoddau presennol yn briodol;
- Dylid estyn cylch gwaith gwasanaethau iechyd galwedigaethol Byrddau Iechyd Lleol i gynnwys gofal sylfaenol. Byddai hyn yn adlewyrchu strwythur gofal sylfaenol / eilaidd Byrddau Iechyd Lleol;
- Dylid sefydlu gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd gan gyflwyno darpariaeth gam wrth gam gan ddechrau ym mis Hydref 2012. Byddai’r gwasanaeth cyfrinachol hwn, dan arweiniad clinigwyr, yn gallu cyfeirio pobl i ardaloedd eraill os oes angen a byddai ganddo gyllideb flynyddol o £163,400;
- Mae Fframwaith Iechyd, Gwaith a Lles GIG Cymru yn cael ei ddatblygu, gyda dangosyddion clir i Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol eu cyflawni. Byddaf yn disgwyl i Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol adrodd ar eu cynnydd yn flynyddol gan ei gymharu â’r hyn sydd yn y fframwaith.
Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gwrdd â’r Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol ar fyrder i sicrhau y gweithredir y cynlluniau ar gyfer y trefniadau newydd.