Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fy mlaenoriaeth yw codi safonau addysg a gwella canlyniadau i bobl ifanc yng Nghymru. Mae gwella lefelau llythrennedd a rhifedd, a lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol yn ganolog i’r nod hwn.  Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn pennu disgwyliadau cenedlaethol clir ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd a bydd yn sbardun tyngedfennol bwysig ar gyfer gwella.  

Bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cenedlaethol yn helpu pob ysgol i sefydlu llythrennedd a rhifedd ar draws pob pwnc yn y cwricwlwm, a bydd yn helpu pob athro i fod yn athro llythrennedd a rhifedd.  Bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn ofyniad statudol yn y cwricwlwm ar gyfer disgyblion o Ddosbarth Derbyn i Flwyddyn 9, o fis Medi 2013.  

Ochr yn ochr â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, bydd y profion darllen a rhifedd ar gyfer disgyblion o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 9 yn dystiolaeth pellach o lefel cyrhaeddiad disgyblion yn ogystal ag asesiadau athrawon.  

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Profion Darllen a Rhifedd o 11 Mehefin hyd at 12 Hydref 2012 ac rwy’n falch o ddweud inni dderbyn 160 o ymatebion ysgrifenedig gan amrywiol randdeiliaid.  Rwyf hefyd yn falch bod cynifer wedi dod i’r digwyddiadau ymgynghori, gydag oddeutu 300 o gyfranogwyr ledled Cymru.  Rwy’n ddiolchgar iawn i athrawon, ysgolion, unigolion a sefydliadau ledled Cymru am eu cyfraniad at y broses hon – mae’n dangos ein hymrwymiad ar y cyd i godi safonau llythrennedd a rhifedd.

Daeth nifer o themâu allweddol i’r amlwg o’r ymatebion i’r ymgynghoriad:  

  • Teimlai ymatebwyr bod y disgwyliadau yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wedi eu gosod yn gywir a bod y sgiliau iawn yn cael eu pwysleisio.  Teimlir bod y disgwyliadau yn heriol a bod angen amser i fodloni’r disgwyliadau hyn;  
  • Teimlwyd bod yr iaith yn y fframwaith yn ddigon manwl gywir, er ei bod yn bosib y bydd athrawon nad ydynt yn dysgu Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg yn cael rhywfaint o anhawster i ddeall y derminoleg;    
  • Roedd yr ymatebwyr yn cytuno’n gyffredinol y dylai ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio’r fframwaith llythrennedd Cymraeg a Saesneg o flwyddyn 4 ymlaen, er bod rhai ymatebwyr yn teimlo na ddylai fod yn ofyniad statudol;  
  • Roedd yr ymatebwyr yn pwysleisio’r angen am gymorth ac arweiniad i ysgolion i helpu iddynt roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar waith, ac y byddai templed hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cofnodi ac adrodd ar asesiadau;  
  • Roedd safbwyntiau gwahanol o ran a ddylai’r Llwybrau Dysgu fod ar sail statudol ar gyfer asesu dysgwyr sydd ag anghenion mwy cymhleth;  
  • Codwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o gynnydd yn y llwyth gwaith a’r cyweddu â’r cwricwlwm a’r gofynion asesu presennol.  


Cyhoeddir y crynodeb o’r adroddiad ar wefan Dysgu Cymru yn ystod Gwanwyn 2013.  
Yn y cyfamser, roeddwn am ddarparu diweddariad ar y camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i’r ymgynghoriad.  


Diwygio’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

Mae rhai agweddau o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wedi’u diwygio yng ngoleuni yr ymatebion defnyddiol iawn a dderbyniwyd gennym, er enghraifft, mae maes darllen yr elfen lythrennedd wedi ei newid i ymateb i’r pryderon nad yw’r teitl “darllen er gwybodaeth” yn pwysleisio digon o bosib y pwysigrwydd o ddarllen er pleser.  Bellach, cyfeirir ato fel “darllen ar draws y cwricwlwm”.  Hefyd, o ganlyniad i’r adborth i’r ymgynghoriad, rydym wedi dileu’r term “farenheit”  gan ein bod yn teimlo ei fod yn hen ddull o fesur, ac yn y fframweithiau llythrennedd a rhifedd, mae colofnau wedi’u hychwanegu er mwyn ymestyn cyflawnwyr uwch.  

Bydd fersiwn derfynol y Fframwaith ar gael ar Dysgu Cymru o fis Ionawr 2013, cyn ei roi ar waith yn statudol ym mis Medi 2013.  

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd i bobl roi eu barn am y defnydd o elfen Saesneg y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Roedd y rhan fwyaf a ymatebodd yn cytuno â’r egwyddor mai dim ond gofyniad statudol ddylai hyn fod ac y dylai fod yn rhywbeth a asesir o Flwyddyn 4 ymlaen yn unig. Rydym wedi penderfynu, felly, mai dim ond yr elfen Gymraeg o’r Fframwaith (ynghyd â rhifedd)  y dylid ei wneud yn ofynnol o oedran dosbarth derbyn i Flwyddyn 3 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. O Flwyddyn 4, rydym yn disgwyl i ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio’r elfennau Cymraeg a Saesneg. Wrth gwrs, gall ysgolion ddefnyddio’r elfen Saesneg hefyd o oedran dosbarth derbyn i Flwyddyn 3 os ydynt yn dymuno gwneud hynny.


Hyfforddiant a Chymorth – Rhaglen Gymorth Genedlaethol Newydd

Ar hyn o bryd, mae cyfres o ganllawiau a deunyddiau hyfforddi dwyieithog ar-lein yn cael eu datblygu i helpu ysgolion i weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cyn iddo ddod yn statudol ym Medi 2013. Caiff y cyntaf o’r deunyddiau hyn, y canllawiau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm a’r gweithdai hyfforddi eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2013, a bydd deunyddiau ar arferion dosbarth yn dilyn ym Medi 2013 pan gaiff y Fframwaith ei weithredu’n statudol.

Rwy’n falch o gael cyhoeddi hefyd ein bod yn buddsoddi dros £6 miliwn mewn Rhaglen Gymorth Genedlaethol newydd er mwyn cynnig cymorth uniongyrchol i ysgolion ac athrawon i’w helpu i weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn effeithiol a gwella’r ffordd y caiff llythrennedd a rhifedd eu haddysgu mewn ysgolion. Cyflwynir y rhaglen ym mis Ionawr 2013.

Asesu yng ngoleuni’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd

Yn bennaf oll, adnodd i gynllunio’r cwricwlwm yw’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Serch hynny, mae hefyd yn ffordd i ysgolion asesu cynnydd disgyblion a rhoi adroddiad i’r rhieni. Yn yr ymgynghoriad, cynigiwyd defnyddio’r Fframwaith wrth gynnal asesiadau ffurfiannol ac asesiadau ar gyfer dysgu.    

Un o’r prif themâu sy’n codi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yw pwysigrwydd gwneud y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn rhan annatod o’r broses o gynllunio cwricwlwm, a bod hynny yn ei dro yn arwain at newidiadau mewn dulliau addysgu a dysgu. Newidiadau mewn addysgu a dysgu sy’n mynd i godi safonau yn y pen draw. Er bod yr ymatebwyr yn cytuno’n gyffredinol y dylid asesu cynnydd disgyblion yng ngoleuni’r Fframwaith, mynegwyd pryder ynghylch sut byddai’r gofyniad hwn yn cydweddu â’r gofynion asesu presennol. Roedd pryder hefyd ynghylch y goblygiadau posibl o ran llwyth gwaith. Rwyf felly wedi penderfynu cyflwyno’r gofyniad i gynnal asesiadau yng ngoleuni’r Fframwaith fel rhywbeth graddol. O fis Medi 2013, bydd y Fframwaith yn un o ofynion statudol y cwricwlwm, ac o fis Medi 2014 bydd yn ofynnol asesu yn ei erbyn. Mae hyn yn golygu y caiff ysgolion flwyddyn academaidd lawn i ganolbwyntio ar wneud y Fframwaith yn rhan annatod o’u proses o gynllunio cwricwlwm ac o’u haddysgu a’u dysgu cyn ei bod yn ofynnol asesu cynnydd disgyblion yn ei erbyn.  

Ar 1 Hydref, cyhoeddais adolygiad o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru, yn benodol er mwyn sicrhau bod y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, profion a threfniadau asesu ehangach ysgolion yn rhan o gyfanwaith cydgysylltiedig. Drwy gyflwyno gofynion asesu’r Fframwaith yn raddol, bydd modd imi hefyd ystyried casgliadau’r adolygiad hwn.  

Dylai ysgolion ddal i ddefnyddio’r Fframwaith i helpu gydag asesiadau ar gyfer dysgu, a bydd yn dal i fod yn ofynnol rhoi adroddiadau i rieni ar gynnydd eu plentyn mewn llythrennedd a rhifedd bob blwyddyn o fis Medi 2013. Bydd y gofynion hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion gynnwys yn yr adroddiadau a roddant i rieni pob disgybl wybodaeth ar sail y profion rhifedd a darllen, ac adroddiad naratif ar lythrennedd a rhifedd, ar sail y Fframwaith. Bydd disgwyl i gyrff llywodraethu hefyd gynnwys, yn eu hadroddiad blynyddol i rieni, wybodaeth am berfformiad yr ysgol mewn llythrennedd a rhifedd, ar sail y profion darllen a rhifedd ac mewn perthynas â’r Fframwaith.

Rhoddaf adroddiad ar wahân i Aelodau’r Cynulliad am y diweddaraf o ran gweithredu’r profion darllen a rhifedd cenedlaethol a’n hymateb ni i’r ymgynghoriad.