Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Lansiodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Micro-Fusnesau a sefydlais ym mis Medi 2011 o dan Gadeiryddiaeth Robert Lloyd-Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, eu hadroddiad ar 18 Ionawr 2012.
Mae’r adroddiad yn nodi pump o brif flaenoriaethau, sef ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth busnes ar gyfer micro-fusnesau a chael gafael ar y cymorth hwnnw, mynediad at gyllid, mentora a hyfforddiant, caffael yn y sector cyhoeddus a’r baich rheoleiddiol.
Yn y ddadl ar ficro-fusnesau ar 31 Ionawr, addewais roi gwybodaeth i’r Aelodau ar y cynigion gweithredu. Rwyf bellach wedi ystyried pob un o’r argymhellion sy’n sail i’r blaenoriaethau o fewn fy mhortffolio ac yn hapus i’w derbyn. Mae cynllun gweithredu llawn wedi’i baratoi ac yn cael ei roi ar waith.
Dyma rai o’r camau rwyf am eu cymryd ar unwaith:
• Datblygu, diffinio a phrofi cynigion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Micro-Fusnesau ar greu brand cymorth busnes clir;
• Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o gymorth busnes i ficro-fusnesau a’i gwneud yn haws cael gafael arno;
• Rhoi blaenoriaeth i’w gwneud yn haws cael gafael ar gyllid, er enghraifft cronfa twf mentrau bach a chanolig a fydd yn agored i geisiadau erbyn diwedd Mawrth. Mae'r Adran hefyd mewn uwch drafodaethau gyda Cyllid Cymru ar sefydlu cronfa gwerth £6m yn benodol ar gyfer busnesau micro;
• Datblygu gwaith lobïo gan Lywodraeth Cymru ar y baich rheoleiddiol nad yw wedi’i ddatganoli sy’n effeithio ar fusnes Cymru;
• Ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod yr hyn a gynigir yn ateb y gofynion;
• Ymchwilio i arferion gorau ledled y byd, er enghraifft, model mentora Seland Newydd;
• Comisiynu adolygiad i ystyried lleihau nifer y cynhyrchion a’r darparwyr cymorth busnes a gyllidir gan y sector cyhoeddus.
Yn y tymor byr i’r tymor canolig, caiff y camau canlynol eu gweithredu:
• Sefydlu rhwydwaith o Siopau Un Stop ledled Cymru i roi cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i fusnesau drwy ehangu ac ailgyfeirio’r Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol. Caiff hyn ei dreialu o fis Ebrill a chaiff ei gyflwyno’n llawn erbyn Ionawr 2013;
• Ochr yn ochr â’r Siopau Un Stop, ac efallai fel rhan ohonynt:
- Sefydlu cynllun mentora a hyfforddi i Gymru gyfan;
- Opsiynau cyllid priodol gan gynnwys cyllid hyd at £20,000;
- Cymorth i leihau effaith rheoleiddio ar fusnesau, gan gydweithio â’r Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol;
- Cymorth masnach ac allforio rhyngwladol;
• Cyfathrebu â rhanddeiliaid a dechrau defnyddio’r brand cymorth busnes;
• Lobïo dros newid a chymryd camau pendant i leihau rheoleiddio ee Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Adolygiad o Ardrethi Busnes a Herio Biwrocratiaeth Whitehall;
• Parhau i osod seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf ledled Cymru.
O ran caffael yn y sector cyhoeddus, ar 21 Chwefror cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ fod adolygiad wedi’i gomisiynu o effaith polisi caffael cyhoeddus ledled Cymru, a byddaf yn darparu’r argymhellion cysylltiedig.
Er mwyn rhoi’r adroddiad hwn ar waith yn llawn, bydd yn hanfodol gweithio ar lefel llywodraeth gyfan. Mae’r adroddiad yn argymell yn gryf y bydd angen gweithio effeithiol a chydgysylltiedig ar draws adrannau a sefydliadau i ddarparu fframwaith cyffredin, i sicrhau sefydlogrwydd a chymorth sy’n canolbwyntio ar ficro-fusnesau.
Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd i Aelodau ar y datblygiadau, a’r hyn sy’n cael ei gyflawni o ran y cynllun gweithredu, a bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r rhanddeiliaid ar sut yn union i roi hyn ar waith.