Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn helpu sefydliadau, sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, trwy sicrhau bod y gwaith o newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau yn mynd rhagddo mewn modd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy ac yn eu helpu i ymateb i’r heriau sy’n deillio o setliad anodd.
Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddais fy mod yn rhoi dros £10 miliwn o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed i weithredu cynigion newydd i wella’r sector cyhoeddus. Trwy fuddsoddi mewn cynigion o’r fath, rydym wedi dangos y gellir mabwysiadu dulliau gweithredu gwahanol sy’n fwy costeffeithiol, heb orfod cyfaddawdu ar ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus.
O weld y camau cadarnhaol a gymerwyd gan brosiectau Buddsoddi i Arbed, a’r galw parhaol am gyllid o’r fath, mae’n bleser gennyf heddiw gyhoeddi fy mod wedi agor y gronfa hon i gylch ceisiadau newydd. Byddaf yn sicrhau bod £11 miliwn arall ar gael i brosiectau sy’n gwneud cais am gyllid yn 2012-13.
Byddaf yn rhoi’r rhan fwyaf o’r cyllid diweddaraf hwn i brosiectau lle mae sefydliadau’n cydweithio, o fewn sectorau a rhyngddynt. Bydd hynny’n rhoi hwb i’r agenda effeithlonrwydd ac arloesi sy’n hyrwyddo prosiectau arloesol ar gyfer trawsnewid sut y darperir gwasanaethau. Trwy ddarparu gwasanaethau mewn modd cydgysylltiedig, gallwn sicrhau bod gwasanaethau effeithlon o ansawdd da ar gael i bawb, gan sicrhau hefyd ein bod yn defnyddio’r cyllid cyfyngedig sydd ar gael yn y modd mwyaf effeithiol.