Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Ym mis Mehefin eleni, cyhoeddais y byddwn unwaith eto’n darparu cyllid Buddsoddi i Arbed er mwyn cefnogi cynigion gwella’r sector cyhoeddus. Trwy fuddsoddi mewn cynigion o’r fath, gwelwyd bod dulliau gwahanol, mwy cost effeithiol y gellir eu defnyddio, heb orfod cyfaddawdu o ran ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus.
Heddiw mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi agor y Gronfa i gynigion ar gyfer prosiectau newydd. Mae £15 miliwn ar gael i’w fuddsoddi mewn prosiectau sy’n ceisio cyllid yn 2013-14. Hoffwn annog darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn gryf i gyflwyno’u cynigion gwella ar gyfer eu trafod.
Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i drosglwyddo i ddulliau mwy effeithiol, mwy effeithlon a mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau, gan eu cynorthwyo i ymateb i heriau setliad anodd. Rwy’n dal i gyfeirio cyllid i brosiectau cydweithio rhwng sefydliadau yn bennaf, a hynny o fewn sectorau a rhwng sectorau. Prosiectau yw’r rhain sy’n hybu ein hagenda effeithlonrwydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Drwy gyfuno gallwn sicrhau bod gwasanaethau effeithlon, uchel eu safon ar gael i bawb, a defnyddio cyllid cyhoeddus prin yn y ffordd fwyaf effeithiol ar yr un pryd.
Wrth edrych i’r dyfodol, byddaf yn ceisio cyhoeddi cyfleoedd i ymgeisio am gyllid Buddsoddi i Arbed yn flynyddol, ac i wneud hynny'r un adeg o’r flwyddyn. Felly bydd rownd ariannu 2014-15 yn agor i geisiadau newydd ar 5 Tachwedd 2013. Byddaf hefyd yn ystyried y posibilrwydd o agor y Gronfa rhwng rowndiau ariannol, os oes cyllid ar gael nad yw eisoes wedi’i ymrwymo.