Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, ein nod yw darparu rhagor o gartrefi, cartrefi mwy fforddiadwy, gwell cartrefi, ynghyd â gwell gwasanaethau tai a gwell cymorth tai, yn enwedig ar gyfer rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed.
Mae cryn bwysau i ddarparu tai fforddiadwy ledled Cymru a gwyddwn nad oes digon i ddiwallu'r angen. Wrth i gyllidebau Llywodraeth Cymru grebachu, mae mwy a mwy o angen tai.
Mae rheoli cyllidebau sy'n crebachu yn her y mae'n rhaid i ni barhau i'w hwynebu, ac yn anffodus, ni allwn ragweld y bydd unrhyw newid yn hynny o beth yn y dyfodol. O'r herwydd, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau bod y cyllidebau sydd gennym yn mynd ymhellach. Rwyf am ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o ddod ag arian newydd i mewn i'r sector tai, ac rwyf hefyd am ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu tai, megis tai cydweithredol a mentrau arloesol fel Partneriaeth Tai Cymru.
I ddangos ein hymrwymiad i’r gwaith hwn, rwyf yn gosod targed o ddarparu 7500 yn rhagor o dai newydd fforddiadwy yn ystod tymor ein Llywodraeth. O fewn y targed hwn, rwyf hefyd am weld tai cydweithredol a thai fforddiadwy yn cael eu darparu ar dir a fu gynt yn eiddo i'r sector cyhoeddus, ac rwyf yn pennu targed o 500 ar gyfer y naill a'r llall er mwyn ysgogi datblygiad yn hyn o beth.
Ni fydd y targed hwn yn un hawdd i'w gyrraedd. Er hynny, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn darparu'r tai hyn. Mae dirfawr eu hangen – nid yn unig er mwyn diwallu anghenion pobl o ran tai ond hefyd er mwyn creu swyddi a helpu i ysgogi'r economi.
Byddwn yn creu'r 7,500 o gartrefi newydd fforddiadwy ychwanegol hyn drwy barhau i gyfeirio buddsoddiad cyfalaf drwy'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad yn hyn o beth eisoes drwy fuddsoddi arian Grant Tai Cymdeithasol ychwanegol sy'n werth £22 miliwn. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm o £97 miliwn ar gael yn 2011-12.
Rydym wedi darparu hyblygrwydd hefyd ac wedi lleihau cyfradd y grant o 58% i 25% ar gyfer cynlluniau rhenti canolradd megis Rhent yn Gyntaf. Llwyddwyd i sicrhau cyfradd grant hyd yn oed yn is o 19% ar gyfer cynllun peilot Partneriaeth Tai Cymru, a fydd yn cael ei gynnal eleni.
Rwyf yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn mynd ati'n gynt i Ryddhau Tir ar gyfer tai, gan neilltuo tîm penodol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw. Rwyf hefyd wedi cefnogi Cyfryngau at Ddibenion Arbennig er mwyn darparu tai ar dir sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus neu i Lywodraeth Cymru, megis y cynigion i godi tai ym Melin Trelái, Caerdydd.
Rwyf wrthi'n datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu tai, megis tai cydweithredol a pherchentyaeth cydfuddiannol, ac rwyf yn gweithio hefyd i sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i fedru gadael system Cymhorthdal y Cyfrif Refeniw Tai.
Nid dim ond cartrefi newydd sy'n bwysig. Mae sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto yr un mor bwysig. Rwyf wedi buddsoddi £5 miliwn yn 'Troi Tai'n Gartrefi', cronfa sydd ar gael ar draws Cymru gyfan ac sy'n galluogi awdurdodau lleol i gynnig benthyciadau ailgylchadwy, di-log i berchenogion er mwyn iddynt fedru adnewyddu adeiladau gwag yn y sector preifat a'u troi'n gartrefi i'w gwerthu neu i'w gosod ar rent. Rwyf yn gosod targed yn hyn o beth: rwyf am weld 5000 o adeiladau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae hwn yn faes y dylid ei annog, yn fy marn i, ac mae'n un a fydd yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau ledled Cymru.
Bydd y Papur Gwyn yn manylu ar y camau eraill y byddwn yn eu cymryd i adeiladu ar y gwaith hwn. A hithau'n adeg pan fo cyllidebau cyfalaf yn crebachu'n sylweddol, rhaid i ni arloesi a gweithio mewn partneriaeth â'r sector tai i sicrhau ein bod yn darparu cynifer o dai ag y bo modd.
Os llwyddwn ni i gyrraedd y targedau hyn, byddwn yn darparu cyfanswm o 12,500 o gartrefi ar gyfer pobl Cymru. Mae'r nod yn un uchelgeisiol, ond mae, yn fy marn i, yn un y mae modd ei gyrraedd os awn ni ati i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol ym maes tai, gan gynnwys darparwyr tai, sefydliadau sy’n cyllido tai, a’r sector gwirfoddol. Mae'r nod hwn yn cael ei osod ar adeg pan fo pwysau mawr ar y gyllideb, ond rwyf yn ffyddiog y bydd gweithio mewn partneriaeth ac mewn ffordd hyblyg a diwyro i ddod o hyd i atebion newydd yn gweithio i Gymru.
Mae hwn yn arwydd clir o'n hymrwymiad i dai ac o'n bwriad i arloesi a chydweithio er mwyn darparu tai sy'n fforddiadwy, sydd o safon dda ac sy'n diwallu'r anghenion gwahanol sydd gan bobl.