Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar 22 Mehefin, cefais y pleser o fod yn brif siaradwr mewn symposiwm a drefnwyd gan gwmni Romani Arts i nodi Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr 2012. Roedd hwn yn un o nifer o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled Cymru ac a oedd yn gwneud cyfraniad mawr at godi proffil y gymuned hon sy’n aml yn cael ei chamddeall. Yn y symposiwm, fe wnes i lansio’r fersiwn hawdd ei darllen o Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, sef ‘Teithio i Ddyfodol Gwell’.
Cafodd ‘Teithio i Ddyfodol Gwell’ ei lansio ym Medi 2011, ac mae cynnydd da wedi ei wneud wrth ei gyflawni. Dyma’r ddogfen strategol genedlaethol gyntaf yn y DU ynglŷn â Sipsiwn a Theithwyr. Mae’n nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n wynebu’r gymuned. Mae’n Fframwaith trawslywodraethol, ac mae gan Weinidogion eraill ym meysydd tai, addysg ac iechyd ran bwysig i’w chwarae wrth ei gyflawni.
Mae’r Fframwaith Gweithredu yn nodi meysydd pryder pwysig, sy’n cynnwys llety, iechyd ac addysg. Mae addysg yn gallu bod yn brofiad heriol i lawer o blant a phobl ifanc o gymunedau’r Sipsiwn a Theithwyr, a dim ond nifer fechan sy’n aros mewn addysg uwchradd. Mae nifer o resymau am hyn, ac rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r mater.
Rydym yn benderfynol o sicrhau bod plant Sipsiwn a Theithwyr sy’n dymuno aros yn yr ysgol er mwyn mynd yn eu blaenau, neu symud i hyfforddiant, yn cael pob cyfle i wneud hynny. Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi diogelu’r Gyllideb ar gyfer y grŵp hwn o ddysgwyr, a thros y ddwy flynedd nesaf mae wedi cynyddu’r lefel o gymorth sydd ar gael iddynt. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae’r Grant blynyddol ar gyfer Addysg Plant Sipsiwn a Phlant Teithwyr wedi codi i £1 filiwn, a bydd yn codi 10% y flwyddyn nesaf.
Mae gan Lywodraeth Cymru amrywiaeth o fentrau eraill sydd â’r nod o gyflawni amcanion  ‘Teithio i Ddyfodol Gwell’. Er mwyn brwydro yn erbyn unrhyw gamsyniadau ynglŷn ag absenoldebau o’r ysgol heb ganiatâd, rydym wedi cyflwyno codau presenoldeb i ddynodi pryd fo plentyn yn teithio neu wedi ei gofrestru gyda mwy nag un sefydliad addysgol. Er mwyn sicrhau nad yw addysg yn cael ei wrthod i’r un plentyn, rydym hefyd wedi dweud wrth awdurdodau lleol fod yn rhaid i ysgolion gofrestru plant yn eu dalgylchoedd, ni waeth pa mor fyr yw eu harhosiad.
Rydym wedi comisiynu adnodd newydd i’w ddefnyddio mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru i ddathlu treftadaeth a diwylliant Sipsiwn a Theithwyr, ac i herio camsyniadau negyddol a stereoteipiau. Trwy godi ymwybyddiaeth ymhlith gweddill yr ysgol am ddiwylliant a ffordd o fyw plant a phobl ifanc o gymuned y Sipsiwn a Theithwyr, y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at lai o fwlio ac eithrio.
Ond er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n wynebu cymuned y Sipsiwn a Theithwyr, rhaid cychwyn gyda’r rhai ifanc. Mae gan y rhaglen Dechrau’n Deg gyfraniad mawr i’w wneud wrth roi cymorth i deuluoedd yng nghymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae profiad wedi dangos bod datblygu ymddiriedaeth yn hynod bwysig er mwyn cael rhieni i ddefnyddio gwasanaethau Dechrau’n Deg.
Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd wedi meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd Sipsiwn a Roma sy’n byw ar safleoedd ac mewn tai. Mae hyn wedi arwain at nifer o welliannau, gan gynnwys mwy o blant yn manteisio ar eu hawl i addysg feithrin mewn ysgolion cynradd lleol.
Mae darparu llety addas yn bryder mawr arall. Mae’r galw am safleoedd parhaol yn fwy na’r cyflenwad, ac ar hyn o bryd mae gwersylloedd anghyfreithlon yn cael eu sefydlu oherwydd nad oes digon o safleoedd parhaol. Rwyf wedi cydweithio’n agos â Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, ynglŷn â’r mater yma. Mae’r Papur Gwyn Tai a lansiwyd ganddo yn ddiweddar, ac a fydd yn arwain at Ddeddf Tai newydd, yn cynnwys cynnig i gyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd pan fo angen wedi ei brofi.
Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol lle mae gwersylloedd anghyfreithlon yn cael eu sefydlu oherwydd prinder safleoedd parhaol. Ers 2011, rydym wedi darparu 100% o arian grant cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer safleoedd newydd ac adnewyddu’r safleoedd presennol. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y ceisiadau gan awdurdodau lleol.
Cael lle diogel i fyw yw’r man cychwyn i bobl allu creu eu bywydau. Mae angen inni sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio gyda’r nod o amddiffyn y rhai mwyaf tebygol o golli eu cartrefi, gan gynnwys pobl sy’n byw fel teithwyr. Bydd y Papur Gwyn Tai yn arwain at fframwaith deddfwriaeth mwy cynhwysol i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl o fod yn ddigartref.  
Rydym yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi i geisio atebion i’w hanghenion o ran tai. Mae’n hollbwysig ystyried anghenion diwylliannol pobl o leiafrifoedd ethnig pan ydynt mewn perygl o fod yn ddigartref ac angen cymorth, a dyna pam fod angen inni gael mwy o safleoedd o safon.
Mae teuluoedd Roma yn tueddu i ddefnyddio’r sector rhent preifat, ac rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth i drwyddedu tai amlfeddiannaeth sy’n fwy o faint ac sydd â mwy o risg. Rydym wedi rhoi rhagor o ymrwymiadau yn y Papur Gwyn Tai er mwyn cymryd camau i wella’r sector rhent preifat.
Gwn fod angen gwneud mwy i wneud deiliadaeth Sipsiwn a Theithwyr sy’n byw ar safleoedd awdurdodau lleol yn fwy sicr. Yn yr hydref, byddwn yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth i sicrhau bod safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu categoreiddio fel ‘safleoedd gwarchodedig’ dan y gyfraith.
Mae ‘Teithio i Ddyfodol Gwell’ yn tynnu sylw at yr angen i wella’r berthynas rhwng y gymuned sefydlog a chymuned y teithwyr. Roedd y Gronfa Cydlyniant Cymunedol yn ei lle am dair blynedd tan fis Mawrth eleni, ac arweiniodd honno at brosiectau megis prosiect ymgysylltu â theuluoedd Teithwyr yng Ngwynedd, cafodd adroddiad ar anghenion y gymuned Roma yng Nghaerdydd ei ariannu trwy’r Gronfa Cydlyniant Cymunedol, a chrëwyd swyddi eiriolaeth a chefnogaeth ar gyfer y gymuned Roma yng Nghaerdydd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal seminar ym mis Medi mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ymfudo Cymru i rychwantu’r prif faterion sy’n ymwneud â’r gymuned Roma yng Nghymru. Dyma gam cyntaf buddiol ar gyfer cael dull ar gyfer Cymru gyfan, ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi ei wneud mewn rhai ardaloedd.
I gloi, hoffwn dynnu sylw at rywfaint o’r gwaith da a wneir ar gyfer cymuned y teithwyr gan rai o’r prosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Grant. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n ariannu Platfform 51, sy’n gweithio gyda merched o gymuned y Sipsiwn a Theithwyr yn Llanelli i fynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau, gan gynnwys cam-drin domestig.
Yn ddiweddar, fe wnes i gytuno i roi arian am flwyddyn arall i ‘Teithio Ymlaen’, sef un o brosiectau Achub y Plant. Mae’r prosiect yn darparu gwefan i’w defnyddio gan gymuned y teithwyr a phobl sy’n gweithio’n broffesiynol yn y maes hwn, ac mae wedi datblygu fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i alluogi pobl ifanc o gymunedau’r Sipsiwn a Theithwyr i leisio barn am y materion sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer pawb yng Nghymru, gan gynnwys cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo hefyd i hawliau plant, ac o fis Mai 2012 ymlaen, bydd yn ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i dalu sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth ddatblygu unrhyw bolisi neu ddeddfwriaeth newydd, fel y nodir ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut y byddwn yn cyflawni hyn trwy wyth amcan cydraddoldeb. Mae rhai ohonynt o ddiddordeb arbennig i gymuned y teithwyr – er enghraifft, cryfhau’r gwasanaeth cynghori, gwybodaeth ac eiriolaeth; gostwng nifer yr achosion o bob math o drais yn erbyn merched, cam-drin domestig, trais yn seiliedig ar anrhydedd, troseddau casineb, bwlio a cham-drin yr henoed; gwneud anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn rhan ganolog o wasanaethau cyhoeddus; mynd i’r afael ag achosion o wahaniaethau ar sail ethnigrwydd mewn perthynas â chyflogau a chyflogaeth, a gostwng nifer y bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyhoeddi Fframwaith Gweithredu yn erbyn Troseddau Casineb, a byddwn yn trafod gyda chymuned y Sipsiwn a Theithwyr er mwyn sicrhau ein bod yn gwrando ar eu barn nhw am droseddau casineb.Rwy’n croesawu’r grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr, ac yn edrych ymlaen i gydweithio i wella’r amodau i Sipsiwn a Theithwyr ymhob rhan o Gymru.