Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau a Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Estyn yr adroddiad am eu hymchwiliad ar y cyd i’r ffordd y rheolir honiadau o gam-drin proffesiynol yn Sir Benfro. Roedd yr adroddiad yn un hynod feirniadol a gwnaethom weithredu ar unwaith, gan gyfarwyddo Cyngor Sir Penfro i sicrhau mai dim ond y bobl hynny a oedd wedi'u fetio'n briodol a fyddai'n gweithio gyda phlant dros wyliau'r haf, a’i gyfarwyddo hefyd i lunio cynllun gwella er mwyn mynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd yn yr adroddiad.
Rydym wedi cefnogi a herio'r Cyngor, gan wneud hynny'n gyntaf ar ffurf y Bwrdd Cynghori Gweinidogol wrth i’r Cyngor fynd ati i ddrafftio'i gynllun gwella, ac yna drwy Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro ar gyfer y cyfnod gweithredu. Gwnaethom ymrwymo i roi gwybodaeth reolaidd i chi am hynt y gwaith hwn, a gwnaed hynny drwy gyfres o ddatganiadau ysgrifenedig a llafar.
Er i Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro roi cefnogaeth i’r Cyngor, ac er bod y gefnogaeth honno'n ddwys ar adegau, mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwella'r trefniadau diogelu plant yn Sir Benfro yn parhau i fod yn boenus o araf. Ni chawsom ein hargyhoeddi bod uwch-swyddogion yn yr awdurdod yn derbyn bod angen newid y diwylliant nac ychwaith eu bod yn ymateb yn ddiymdroi ac yn effeithiol i bryderon y mae Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro yn parhau i’w codi gyda nhw.
Ar adegau, mae wedi ymddangos nad yw prif swyddogion naill ai’n gwybod beth sy'n digwydd yn eu hysgolion, neu eu bod yn gwybod ac wedi methu â'i ddatgelu neu wedi methu â gweithredu pan fo angen. Hyd yn oed ar ôl i'r cyfryngau argraffu stori am athro yn clymu dwylo plentyn ysgol gynradd y tu ôl i'w gefn, methodd y Cyfarwyddwr Addysg ag ymyrryd pan gymerodd yr ysgol gamau amhriodol, a bu'n rhaid i Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro ddweud wrtho beth ddylai ei wneud. Mae Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro wedi dod o hyd i enghreifftiau o ystafelloedd 'amser i anadlu' ac ystafelloedd encilio mewn ysgolion cynradd lle mae’n bosibl bod plant wedi cael eu cloi i mewn, ond roedd uwch-swyddogion yn honni nad oeddent yn gwybod dim am yr ystafelloedd hynny ac roeddent yn araf i weithredu ar ôl iddynt gael gwybod amdanynt. Nid yw swyddogion yn rhannu gwybodaeth gydag aelodau etholedig o hyd, er mwyn i'r aelodau hynny fedru ffurfio barn sy'n seiliedig ar wybodaeth. Yn aml, rhaid i'r aelodau etholedig ddibynnu ar wybodaeth oddi wrth Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro cyn iddynt fedru gweithredu.
Er hynny, mae arwyddion mwy cadarnhaol o gynnydd ymhlith yr aelodau etholedig, ac fe'n calonogwyd gan y gwaith a wnaed ar ddiwygio'r cyfansoddiad ac ar wella atebolrwydd democrataidd. Mae arwyddion hefyd, sydd i’w croesawu, fod aelodau'r cabinet yn dechrau herio'u swyddogion erbyn hyn ac yn arfer eu hawdurdod pan fo angen. Er hynny, ymddengys nad oes yno'r ymdeimlad o'r angen i weithredu ar fyrder y byddem yn ei ddisgwyl er mwyn mynd i'r afael â'r methiannau allweddol.
Rydym wedi rhoi neges glir i'r Cyngor mai cyfrifoldeb yr aelodau etholedig yw hwn, ac rydym wedi cyfarfod â'r Arweinydd, ac wedi ysgrifennu ato, yn gofyn iddo sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r methiannau hyn, sydd i’w gweld dro ar ôl tro. Atodir y llythyr hwnnw i'r datganiad hwn. Rydym wedi dweud yn glir wrth yr Arweinydd bod y sefyllfa yn un mor ddifrifol fel ei bod yn fwriad gennym gyhoeddi Cyfarwyddyd fel yr amlinellir yn y llythyr. Byddwn, er hynny, yn ystyried ymateb y Cyngor a'r holl ffactorau eraill perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gyhoeddi Cyfarwyddyd.
Rydym wedi aros yn ddigon hir ac nid ydym yn barod i roi rhybudd arall. Byddwn yn cyhoeddi datganiad arall ar ôl i ni ystyried ymateb yr Arweinydd a phenderfynu sut y byddwn yn gweithredu.