Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion y setliadau refeniw a chyfalaf terfynol ar gyfer y 22 awdurdod unedol yng Nghymru ar gyfer 2013-14 .
Y Setliad Cyffredinol
Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ar y setliad dros dro.
Y flwyddyn nesaf, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael cynnydd o 1.5% o’i gymharu â setliad refeniw y flwyddyn flaenorol. Nid yw hyn wedi newid ers y cyhoeddiad a wnaed ar 16 Hydref 2012.
Mae'r cyllid a roddwyd i Gymru, i ddarparu cymorth ar gyfer y dreth gyngor, pan fydd Llywodraeth y DU yn diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor ar 31 Mawrth 2013 wedi'i basportio i mewn i'r setliad terfynol. Felly, mae'r setliad hwn yn cynnwys £222 miliwn i ddarparu cefnogaeth ar gyfer y dreth gymorth: mae hwn wedi'i glustnodi ar wahân yn y ffigurau fel cyfrifoldeb newydd. Rydw i hefyd yn rhoi £4.6 miliwn o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu awdurdodau lleol gyda'r gost o gyflwyno'r cynllun newydd hwn ac er mwyn helpu i leddfu'r effaith ehangach y bydd y newidiadau lles yn eu cael ar y grwpiau sydd dan yr anfantais fwyaf. Gwneir hynny drwy gynorthwyo mwy o bobl i gael gwybodaeth a chefnogaeth yn lleol.
Dosbarthu rhwng Awdurdodau
Mae Tabl 1a, sy'n amgaeedig, yn cynnwys manylion y cynnydd blynyddol cymharol yn y setliad refeniw ar gyfer y ddau awdurdod ar hugain, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau
Grantiau Refeniw Penodol
Rwyf hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am gyfanswm y grantiau penodol i Gymru y gallant ddisgwyl eu cael yn 2013-14. Gyda’i gilydd, bydd y Grant Cynnal Refeniw a Grantiau Penodol yn rhoi darlun cynhwysfawr i'r awdurdodau o'r cyllid y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn 2013-14, er mwyn iddynt allu paratoi'u cyllidebau'n effeithiol. Bydd awdurdodau, yn ogystal â derbyn arian drwy'r setliad, hefyd yn derbyn dros £754 miliwn mewn grantiau penodol Mae hyn yn cynnwys grantiau sylweddol ar gyfer y Tocynnau Rhatach; Rheoli Gwastraff Cynaliadwy; y Cyfnod Sylfaen a Chefnogi Pobl.
Y GRONFA GYDWEITHIO RANBARTHOL
Cyhoeddwyd y Gronfa newydd hon yn y setliad dros dro. Dylid defnyddio'r Gronfa newydd hon i sicrhau newid gwirioneddol a sylweddol ar lefel rhanbarthol. Bydd yn sbardun i ddileu elfennau, fel costau ymlaen llaw, sy'n rhwystro prosiectau cydweithredol rhag cael eu gweithredu. Mae Tabl 1b, sy'n amgaeedig, yn cynnwys syniad o’r dyraniadau rhanbarthol.
Setliad Cyfalaf
Mewn perthynas â'r setliad cyfalaf, y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2013-14, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, fydd £414 miliwn. Mae hynny ychydig yn uwch na'r ffigur a gyhoeddwyd adeg y setliad dros dro.
£143 miliwn yw Cyfanswm y Gronfa Gyfalaf Gyffredinol. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn, a chaiff £54 miliwn ohono ei dalu fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £89 miliwn, fel cymorth i fenthyca.
Bydd tablau manwl pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd trafodaeth yn cael ei chynnal ar 8 Ionawr ar y cynnig sydd wedi’i gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar adroddiad ariannol llywodraeth leol ar gyfer 2013-14.
Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi llawer o’r wybodaeth sydd ei hangen ar awdurdodau i drefnu eu cyllidebau a phennu lefelau'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.