Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw rwyf wedi cyflwyno’r Gyllideb Flynyddol ar gyfer 2013-14, sy’n dangos y camau rydym yn eu cymryd, fel Llywodraeth gyfrifol, i hybu twf economaidd a chreu a chynnal swyddi ym mhob rhan o Gymru.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn craffu’n ofalus ar gynigion ein cyllideb ers inni gyhoeddi Cyllideb Ddrafft 2013-14 ar 2 Hydref. Rydym yn croesawu’r drafodaeth adeiladol ynghylch ein cynlluniau gwariant ac rydym wedi ystyried y dystiolaeth a’r adborth a ddaeth i law drwy gydol proses y gyllideb. Er nad oedd unrhyw dystiolaeth yn deillio o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2013-14 yn awgrymu bod angen inni newid ein cynlluniau gwariant yn sylweddol, rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau i’n cynlluniau blaenorol er mwyn cryfhau’r gefnogaeth mewn rhai meysydd a neilltuo cyllid ychwanegol er mwyn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau o ran buddsoddi.
Roedd y drafodaeth ynghylch ein Cyllideb ar gyfer Twf a Swyddi yn rhoi llawer o sylw i gynorthwyo pobl ifanc i gael swyddi. Dyna pam ein bod yn neilltuo £20m yn ychwanegol yn 2013-14, a swm dangosol pellach o £20m yn 2014-15, i roi mwy o gymorth i brentisiaethau. Mae’r dyraniad hwn yn adeiladu ar ein buddsoddiad blaenorol i gynorthwyo pobl ifanc i gael swyddi, gan gynnwys ein dyraniadau blaenorol ar gyfer Twf Swyddi Cymru a’r cymorth rydym wedi’i roi i’n portffolio o raglenni prentisiaeth.
Rydym hefyd yn neilltuo £10m (£1m yn 2013-14 a £9m yn 2014-15) er mwyn helpu i ddatblygu cyfleuster gwyddoniaeth ac ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Bangor. Byddwn yn datblygu manylion y cynnig hwn yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.
Yng Nghyllideb Ddrafft 2013-14 neilltuwyd £175m i gynorthwyo prosiectau strategol bwysig, yn unol â’r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Bryd hynny fe wnaethom ddweud y byddem yn ceisio darparu dyraniadau ychwanegol, ac mae ein Cyllideb Derfynol yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £46.7m er mwyn helpu i gyflawni ein blaenoriaethau o ran buddsoddi. Mae hyn yn cynnwys £16.7m er mwyn gallu darparu tai ar dir y sector cyhoeddus, a £30m i ehangu Cronfa Twf Economaidd Cymru.
Mae Cyllideb Derfynol 2013-14 hefyd yn cynnwys cyllid i gefnogi cynllun penodol o gymhellion ardrethi busnes a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn gynharach yn y mis. Bydd y cynllun hwn ar gael yn yr holl Ardaloedd Menter yng Nghymru.
Mae manylion llawn y newidiadau rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol i’w gweld yn Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol.
Wrth wraidd ein cynlluniau gwariant mae ein hymrwymiad i degwch a chydraddoldeb. Dyna pam ein bod wedi ailddatgan ein hymrwymiad i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yng Nghymru. Er mwyn ategu hyn, rydym yn cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, fel rhan o Nodyn Esboniadol y Gyllideb Derfynol. Mae’r diweddariad hwn yn disgrifio’r ffordd yr aethom ati i ystyried effeithiau’r newidiadau i gynigion ein cyllideb ar gydraddoldeb, a’u heffeithiau cymdeithasol-economaidd.
Rwyf hefyd wedi cyhoeddi heddiw restr wedi’i diweddaru o’r prosiectau sydd yn yr arfaeth fel rhan o’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae’r rhestr yn cynnwys pob un o raglenni a phrosiectau Llywodraeth Cymru sy’n werth cyfanswm o fwy na £15m. Os nad yw’r cynlluniau hyn eisoes wedi cychwyn, byddant yn cychwyn yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae’r rhestr yn cynnig mwy o eglurdeb a sicrwydd i’n partneriaid cyflenwi, ac yn tynnu sylw at fuddsoddiadau a gynlluniwyd a chyfleoedd caffael posibl. Bydd hynny’n rhoi’r hyder i’n partneriaid gynllunio at y dyfodol.
Mae’n bwysig fod yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru er mwyn dangos y sefyllfa ddiweddaraf o ran buddsoddiadau, felly byddwn yn diweddaru’r rhestr o fuddsoddiadau sydd yn yr arfaeth bob chwe mis. Caiff y rhestr ei diweddaru nesaf ym mis Mai 2013.
Er ein bod yn cydnabod bod pryderon ynghylch cyflawni ein rhaglen uchelgeisiol, rydym yn dal i fod yn hyderus fod ein dyraniadau mewn lle da i gyflawni’r ymrwymiadau a nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu. Nid dyma’r amser i ddal yn ôl - mae’r rhain yn ddyddiau heriol a chredwn fod hon yn gyllideb sy’n bodloni anghenion Cymru ac sy’n ceisio sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael inni’n cael yr effaith fwyaf.
Rydym yn dal i ganolbwyntio ar ddarparu gwell canlyniadau a phledio achos pobl Cymru yn y dyddiau anodd hyn. Byddwn yn gwneud hyn drwy weithredu er budd pobl Cymru yn y tymor hir, drwy roi twf a swyddi yn gyntaf, a thrwy gadw golwg bob amser ar y ffactorau eraill sy’n hanfodol i ansawdd bywyd pobl yn y tymor hir.
Rydym yn ffyddiog fod ein Cyllideb Derfynol ar gyfer 2013-14 yn adlewyrchu ac yn cefnogi blaenoriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru ac y bydd ein cynlluniau gwariant yn ein helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.