Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ffurfiol dros 6 wythnos ar gynigion i ddiwygio’r gofynion ar gyfer cofrestru’r gweithlu addysg yng Nghymru.
Mae’r gweithlu addysg wedi newid yn gyflym iawn yn y deng mlynedd diwethaf. Mae’r opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru drwy bolisïau fel Llwybrau Dysgu 14-19, cydweithio rhwng ysgolion a darparwyr ôl 16 wedi arwain at ymarferwyr mewn gwahanol sectorau yn gweithio’n agosach. Bu cynnydd cyflym hefyd yn nifer y bobl sy’n cefnogi addysgu a dysgu.
Mae’n hanfodol bod yr holl ymarferwyr gwahanol hyn yn cydweithio’n effeithiol ac yn gallu cael mynediad i gymwysterau, cymorth a datblygiad sydd wedi’u cynllunio’n dda. Mae eu proffesiynoldeb, eu haddasrwydd a’u safonau ymddwyn, eu hyfforddiant a’u datblygiad yn allweddol i’w llwyddiant.
Nodwedd allweddol nifer o broffesiynau yw eu bod yn cofrestru gyda chorff proffesiynol sy’n gosod ac yn cynnal safonau proffesiynol, ac felly’n cynnal hyder y cyhoedd.
Rhoddodd y Rhaglen Lywodraethu ymrwymiad i adolygu Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac felly ymgynghorwyd ar egwyddorion cyffredinol cofrestru y gweithlu ehangach rhwng mis Rhagfyr 2011 a Mawrth 2012.
Ein bwriad yn yr ymgynghoriad hwn yw rhoi mwy o fanylion o ran swyddogaethau a dull o weithredu corff cofrestru a holi barn ar fanylion gweithredu, rôl a swyddogaethau wrth baratoi i’w gynnwys yn y Bil Addysg (Cymru) sydd ar ddod.
Mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn datblygu system gofrestru gadarn fydd yn gwella’r dull o gynllunio, hyfforddi a datblygu’r gweithlu i ddod â mwy o gydlyniant a chydnabyddiaeth o gyfraniad y gweithlu addysg yn ei gyfanrwydd i addysg pob dysgwr yng Nghymru.
Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 19 Hydref 2012. Mae’r ymgyngoreion yn cynnwys awdurdodau lleol ac esgobaethol, cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, plant a phobl ifanc a phobl eraill sydd â diddordeb. Mae dogfennau’r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yn amodol ar yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn, ac yn dilyn ystyriaeth Llywodraeth Cymru o’r ymatebion hyn, bydd y cynigion yn cael eu cynnwys yn y Bil Addysg (Cymru) sydd ar ddod.
Caiff o ddogfen hon ei chyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu’r Aelodau. Pe byddai’r Aelodau’n dymuno imi wneud datganiad arall neu i ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn fodlon gwneud hyn.