Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 31 Awst, lansiwyd ymgynghoriad ar gynigion i gyflwyno cynllun cofrestru a monitro gorfodol ar gyfer y rheini sy’n dewis darparu addysg yn y cartref. Ymgynghorwyd am gyfnod o ddeuddeng wythnos i roi’r cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys y rheini sy’n addysgu ac yn cael eu haddysgu yn y cartref, ac awdurdodau lleol, gyflwyno sylwadau am y cynigion a dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisi yn y maes. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Tachwedd a daeth dros 550 o ymatebion i law.
Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnal dadansoddiad trwyadl o’r ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau bod pob safbwynt a fynegwyd am y cynigion yn cael ei ystyried yn llawn. Oherwydd nifer yr ymatebion a ddaeth i law, a manylder yr ymatebion hynny, mae hyn yn mynd i gymryd amser ac nid yw’n rhywbeth yr wyf am iddo gael ei ruthro. Er mwyn hwyluso’r broses hon, rwyf yn credu y byddai’n fuddiol gohirio’r broses o fwrw ymlaen â’r cynigion deddfwriaethol yn y Bill Addysg (Cymru) cyfredol.
Caiff adroddiad yn crynhoi'r ymatebion ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd yn ogystal â Datganiad Ysgrifenedig a fydd yn nodi sut yr wyf yn bwriadu bwrw ymlaen â’r cynigion deddfwriaethol yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.