John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i’r Rheoliadau Adeiladu Rhan L (Arbed Tanwydd ac Ynni), a’r canllawiau statudol cysylltiedig a nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.
Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn rheoli mathau penodol o waith adeiladu ac yn sicrhau bod adeiladau’n bodloni safonau gofynnol o ran iechyd, diogelwch, lle, cyfleustra a chynaliadwyedd.
Wrth osod safonau ar gyfer gwaith adeiladu, mae’r Rheoliadau Adeiladu yn dylanwadu ar leihau allyriadau mewn adeiladau newydd ac adeiladau cyfredol yng Nghymru.
Rydyn ni am wella perfformiad ynni adeiladau yng Nghymru drwy’r Rheoliadau Adeiladu. Bydd hyn yn helpu adeiladau Cymru i fod yn ddi-garbon a bron yn ddi-garbon erbyn 2020. Mae’n cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn gam mawr tuag at gyflawni’r amcan hwnnw.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn bennaf yn targedu cwmnïau, unigolion yn y diwydiant adeiladu a diwydiannau cysylltiedig a’u cyrff cynrychioliadol, a’r cyrff rheoli adeiladu sy’n galluogi’r system rheoli adeiladu i weithredu. Efallai y bydd elfennau penodol hefyd o ddiddordeb i’r cyhoedd. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes hwn i ymateb i’r ymgynghoriad a rhannu’ch barn â mi.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.