Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Yn fy Natganiad hydref diwethaf, soniais wrth yr Aelodau am y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r diffygion a nodwyd yn ystod arolygiad Mai 2011 o wasanaethau addysg i blant a phobl ifanc ym Mlaenau Gwent. Yn sgil hyn, penderfynwyd cyflwyno mesurau arbennig. Dywedais y byddwn yn rhoi gwybod yn rheolaidd i’r Aelodau am sut roedd Cyfarwyddyd y Gweinidog a roddwyd i Flaenau Gwent ym Medi 2011 yn cael ei weithredu. Cyn imi wneud hynny, rwy’n teimlo ei bod yn werth atgoffa’r Aelodau o fanylion y Cyfarwyddyd.
Roedd y Cyfarwyddyd yn dweud bod angen penodi dau Gomisiynydd Addysg a dau Gomisiynydd Addysg Cynghorol. Ysgwyddodd y Comisiynwyr Addysg yr holl swyddogaethau addysg, ac mae’r Comisiynwyr Addysg Cynghorol yn rhoi cymorth i’r Comisiynwyr Addysg yn eu rôl ac yn eu herio.
Mae’r Comisiynwyr yn rhoi adroddiadau ysgrifenedig imi bob mis ar eu gwaith, ac rwy’n cwrdd â’r Comisiynwyr Addysg a’r Comisiynwyr Cynghorol bob chwarter. Cefais fy nghyfarfod diweddaraf gyda’r Comisiynwyr ar 9 Gorffennaf 2012, pan drafodais y cynnydd a wnaed hyd yn hyn.
Ymwelodd Estyn â’r awdurdod yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 11 Mehefin 2012; yn unol â phrotocol Estyn i fonitro gwasanaethau addysg awdurdodau lleol drwy fesurau arbennig, ni roddodd y tîm arolygu ddyfarniad ar berfformiad yr awdurdod nac ar y rhagolygon. Yn hytrach, nododd y camau a gymerwyd i weithredu’r argymhellion yn arolygiad 2011. Bydd Estyn yn ailarolygu Blaenau Gwent ddechrau 2013. Bryd hynny, bydd yn rhoi dyfarniad newydd ar gyfer pob prif ddangosydd.
Mae’r Cyfarwyddyd yn effeithiol tan 31 Mawrth 2013 ond dywedais y byddwn yn ei adolygu’n rheolaidd. I’r perwyl hwn, felly, rwyf wrthi’n cynnal y cyntaf o’r adolygiadau hynny. Rwyf wedi holi pob prif randdeiliad am eu barn, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Arweinydd, Dirprwy Arweinydd a Phrif Weithredwr Blaenau Gwent; y Comisiynwyr Addysg a Chynghorol; Estyn; a Thasglu Castell-nedd Port Talbot.
Ar sail yr ymweliad monitro a safbwyntiau’r prif randdeiliaid, credir bod pethau wedi newid yn gyflymach yn ddiweddar, a bod y ffocws wedi gwella hefyd, er gwaethaf y dechrau araf ym Mlaenau Gwent. Mae staff ar bob lefel ac mewn asiantaethau partner wedi gwneud cryn ymdrech i newid pethau. Er bod pethau’n symud i’r cyfeiriad iawn, mae llawer o waith pwysig yn dal i’w wneud gan yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod y gwelliant yn gynaliadwy.