Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae bagiau siopa untro yn wastraff adnoddau ac yn anharddu tirlun Cymru.  Rydym i gyd wedi gweld bagiau plastig wedi’u dal ym mrigau’r coed ac ar hyd ymylon ein ffyrdd, gan sarnu’r llefydd rydym yn byw ac yn gweithio ynddyn nhw.  Mae bagiau siopa untro yn symbol o’n cymdeithas afradus.
Daeth y rheol o godi 5 ceiniog am fag siopa untro newydd i rym gennym ar 1 Hydref llynedd.  Amcan codi’r tâl oedd lleihau yn sylweddol nifer y bagiau siopa untro sy’n cael eu rhoi yng Nghymru a newid ymddygiad pobl trwy eu hannog i fynd â bag amldro gyda nhw bob tro i siopa.  Wrth edrych ar sefyllfa gwledydd eraill oedd eisoes yn codi am fagiau untro, gwelsom y gallai codi am fagiau leihau nifer y bagiau sy’n cael eu rhoi allan yn sylweddol, gan ein helpu ar ein ffordd i fod yn wlad ddi-wastraff.
Mae’n dda iawn gen i ddweud bod codi’r tâl wedi cael effaith real ar nifer y bagiau siopa untro sy’n cael eu rhoi allan yng Nghymru.   Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda manwerthwyr a Chonsortiwm Manwerthu Prydain (BRC) i gasglu data oddi wrth sampl o fanwerthwyr i amcangyfrif maint effaith y tâl.  Mae’r data’n awgrymu bod nifer y bagiau untro a ddefnyddir yng Nghymru wedi lleihau’n aruthrol.  Dyma’r lleihad a amcangyfrifir gan fanwerthwyr:
  • Manwerthwyr bwyd – lleihad o 96% i 70% 
  • Ffasiwn – lleihad o 75% i 68%
  • Nwyddau’r tŷ – lleihad o 95% 
  • Gweini bwyd – lleihad o hyd at 45% 
  • Telathrebu – lleihad o 85%
Roeddem am i bobl Cymru ddod i’r arfer o ailddefnyddio bagiau siopa ac mae’r lleihad yn nifer y bagiau siopa untro a roddir allan yn awgrymu bod y tâl yn taro’r nod.  Fodd bynnag, er mwyn deall yn well sut mae pobl gyffredin yn addasu i’r newid, mae Prifysgol Caerdydd wedi’i chomisiynu i gasglu data am ymddygiad pobl a’u hagweddau at y newid.  Mae ffrwyth yr ymchwil yn galonogol iawn gan ei fod yn awgrymu bod y tâl yn effeithiol ac yn boblogaidd.  Dengys yr ymchwil bod:
  • mae’r tâl wedi sbarduno llawer mwy o bobl i ddefnyddio’u bagiau eu hunain yng Nghymru (o 61% yn defnyddio’u bagiau eu hunain cyn y newid i 82% ar ôl y newid) ym mhob grŵp oed ac ymhlith dynion a menywod fel ei gilydd;
  • mae cefnogaeth eang i’r tâl yng Nghymru.  Hyd yn oed cyn dechrau codi’r tâl, roedd mwyafrif pobl Cymru o’i blaid (59%).  Mae’r gefnogaeth honno wedi cynyddu ers iddo ddod i rym i 70%;
  • mae mwyafrif arwyddocaol o bobl Cymru yn credu bod codi 5 ceiniog am bob bag siopa untro yn ffordd effeithiol o leihaf gwastraff, yn helpu i leihau sbwriel ac maen nhw’n barod i dalu’r 5 ceiniog os ydy’r arian yn mynd at elusen.

Mae’n edrych yn debyg felly ein bod wedi llwyddo i daro’r nod o leihau nifer y bagiau siopa untro sy’n cael eu cyflenwi yng Nghymru ac o helpu i newid ymddygiad pobl i ailddefnyddio bagiau wrth siopa, nid yn unig ar gyfer bwyd ond hefyd wrth siopa yn y stryd fawr.

Hoffwn ddiolch i bobl Cymru a manwerthwyr mawr a bach am helpu’r polisi hwn i lwyddo.  Er hynny mae mwy eto i’w wneud cyn y byddwn yn wlad ddi-wastraff a byddwn yn dal i weithio gyda manwerthwyr a’r cyhoedd i wireddu’r amcan hwn.

Mae llwyddiant y tâl am fagiau untro yn dangos bod Cymru’n arwain y ffordd i ddefnyddio llai o adnoddau ac i leihau sbwriel, gan wella ansawdd yr amgylchedd lleol er lles cymunedau ledled Cymru.