Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau
Ym mis Ebrill 2012, lansiodd Llywodraeth Cymru raglen Twf Swyddi Cymru gyda’r bwriad o greu 4,000 o gyfleoedd y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed gael swyddi. Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â rhai o’r problemau sy’n wynebu pobl ifanc yn y farchnad lafur sydd ohoni, lle nad oes modd iddynt gael swyddi am nad oes ganddynt y profiad gwaith sydd mor bwysig i gyflogwyr. Nod Twf Swyddi Cymru yw creu cyfleoedd am swyddi ar draws bob sector a phob rhan o Gymru er mwyn sicrhau bod pobl ifanc ym mhob ardal yn cael cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen.
Rwy’n falch o gyhoeddi bod y rhaglen, o’r wythnos hon ymlaen, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig o ran yr hyn a gyflawnwyd yn ystod ei blwyddyn gyntaf, drwy greu ein 4,000fed cyfle am swydd.
Dros y misoedd nesaf, hyd at fis Mawrth 2013, byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod y cyfleoedd hyn am swyddi yn cael eu llenwi. Hyd yn hyn rydym wedi gweld ychydig dros 2,000 o bobl yn dod o hyd i waith drwy raglen Twf Swyddi Cymru; rwyf wedi ymweld â rhai ohonynt, ac mae eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i wneud y gorau o’r cyfle sydd wedi’i roi iddynt wedi creu argraff arnaf.
Roeddwn hefyd yn hapus â’r ymateb gan fusnesau yng Nghymru o ran creu swyddi ychwanegol ar gyfer pobl ifanc, ac rwyf wedi fy nghalonogi o glywed bod safon y bobl ifanc y maent wedi’u cyflogi drwy’r rhaglen wedi creu argraff ar nifer o gyflogwyr, a’r effaith a gafodd hyn ar y ffordd y maent yn ystyried pobl ifanc yn y gweithle yn gyffredinol. Ni all hyn ond argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.
Rhaid i mi bwysleisio, serch hynny, nad rhaglen ‘profiad gwaith’ yw Twf Swyddi Cymru; ein huchelgais glir iawn yw bod y cyfleoedd a gynigir drwy’r rhaglen i gael swyddi am gyfnod o 6 mis yn arwain at swyddi parhaol neu brentisiaethau i gynifer ag y bo modd o’r rheini sy’n cymryd rhan ynddi.
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddod â phobl ifanc i mewn i’r rhaglen drwy eu hannog i wneud cais am swyddi drwy’r cynllun, ac mae’n rhaid i ni hefyd gydweithio â chyflogwyr i wneud yn siŵr bod modd iddynt gynnal y swyddi sydd wedi’u creu, unwaith y bydd y cymorth a roddwn wedi dod i ben.