John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Mae’n bleser gen i roi adroddiad ar gyfarfod diweddar Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr yng Nghaerdydd dan gadeiryddiaeth Peter Davies, Comisiynydd Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Es i gyfarfod y Comisiwn a chael cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar ail gymal rhaglen Arbed a fydd yn pwmpio £45 miliwn i mewn i fesurau arbed ynni dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn gobeithio ein bod, erbyn hyn, wedi dewis y prosiectau ar gyfer y cylch cyntaf, ac yna eu rhoi ar waith yn y gwanwyn.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu £3m ychwanegol ar gyfer Arbed eleni o’r cyllid canlyniadol o £38.9m yn sgil rhewi’r dreth gyngor yn Lloegr.
Siaradais â’r Comisiwn am yr ymgynghoriad diweddar ar y Fargen Werdd sy’n amlinellu’r trefniadau arfaethedig ar gyfer rhoi rhwymedigaeth ar gwmnïau ynni yn y dyfodol (ECO). Cynigir dau darged, Targed Arbed Carbon a Tharged Cynhesrwydd Fforddiadwy.
Dywedais wrth y Comisiwn hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall deilwra ei rhaglenni ei hun - Nyth ac Arbed – i weithio ochr yn ochr â’r Fargen Werdd. Mae’n bwysig ystyried sut gall y Fargen Werdd ddod â’r manteision mwyaf inni yng Nghymru, gan hybu mwy o fesurau gwella. Mae’n gyfle i gael cymorth gyda chostau gwella ansawdd y stoc tai yng Nghymru, gan leihau’r ynni rydym yn ei ddefnyddio yn y broses.
Soniais fy mod, fis diwethaf, wedi lansio’r Strategaeth Genedlaethol gyntaf ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, sy’n amlinellu ein dull o reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein pecyn codi ymwybyddiaeth i roi cyfarwyddyd i unrhyw un sydd am gyfathrebu â chymunedau ynghylch rheoli llifogydd. Caiff cyfarwyddyd ei gyhoeddi’n fuan i helpu awdurdodau lleol gyda’u Strategaethau Lleol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio fframwaith Cefnogi Byw yn Gynaliadwy i gomisiynu rhaglen i feithrin y gallu i annog pobl Cymru i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy.
I ymchwilio i hyd a lled y gwaith hwn, cynhaliwyd sesiwn fis diwethaf gydag amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, Cynnal Cymru, Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. Cawsom gipolwg gwerthfawr ar y sgiliau y bydd eu hangen ar ymarferwyr; y cynulleidfaoedd y dylid eu targedu; y mathau o ddulliau y dylid eu defnyddio; a’r prosiectau y dylid eu blaenoriaethu er mwyn cael yr effaith fwyaf.
Cadarnheais fod Cynllun Grant Cefnogi Byw yn Gynaliadwy wedi creu un grant ar bymtheg yn 2011, sy’n dod i gyfanswm o bron i £163,000. Mae rhai o grantiau diweddar Amgylchedd Cymru wedi talu am brosiectau sy’n canolbwyntio ar ôl-troed carbon adeiladau cymunedol, technolegau digidol ac arbed ynni yng nghartrefi traddodiadol Cymru.
Er mwyn gallu cyfathrebu’n fwy penodol-effeithiol, comisiynwyd ymchwil ar werthoedd, agweddau ac arferion cyfredol mewn perthynas â’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Gweithredwyd y prosiect hwn gan IPSOS MORI, AD Research a Phrifysgol Caerdydd.
Cyfwelwyd 1,538 o bobl i gyd wyneb yn wyneb. Mae braslun o’r ymchwil ar we-dudalen Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Tynnais sylw’r Comisiwn at y ffaith ein bod wedi comisiynu gwaith i lunio naratif grymus am ddatblygu cynaliadwy a’r newid yn yr hinsawdd, ac am y camau y gall unigolion, sefydliadau a chymunedau eu cymryd i chwarae eu rhan. Bydd hyn yn golygu trafod yr emosiynau a’r gwerthoedd y mae pobl eisoes yn eu cysylltu â’r materion hyn. Bydd hefyd yn defnyddio iaith a delweddau a fydd yn helpu pobl i weld y cysyniadau hyn mewn ffordd bositif, adeiladol a gobeithiol, gan eu hysgogi i weithredu.
Ymatebodd y Comisiwn yn bositif i’n gwaith gyda gweinyddiaethau eraill y DU i gwblhau Asesiad y DU o Risgiau Newid Hinsawdd a gaiff ei gyhoeddi y mis hwn. Bydd yr Asesiad, y cyntaf o’i fath, yn sail dystiolaeth bwysig i’n helpu i nodi blaenoriaethau.
Yn olaf, cadarnheais fod cyfarfod cyntaf Bwrdd Gweithredu Strategaeth Llywodraeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi’i gynnal ar 7 Rhagfyr. Y Bwrdd hwn fydd ein prif fforwm o ran goruchwylio sut caiff y Strategaeth ei rhoi ar waith.
Trafodwyd hefyd y gwaith o lunio adroddiad blynyddol cyntaf y Comisiwn i Lywodraeth Cymru gyda CAG Consultants. Ystyriwyd blaenraglen waith y grŵp ar gyfer y flwyddyn i ddod, a chynhaliwyd gweithdy dros ginio ar y prosiect ‘Naratifau Cyffredinol’ ar y newid yn yr hinsawdd a Datblygu Cynaliadwy. Rhoddodd Calvin Jones gyflwyniad ar adroddiad ‘Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru’ ar Dorri Allyriadau Carbon a Chreu Swyddi.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Mawrth 2012.