Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) ei osod heddiw.
Mae'r Bil yn rhoi effaith i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer cydsynio i roi organau a meinweoedd pobl a fu farw . Bydd ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr yn ategu’r Bil. O dan system feddal o optio allan, oni bai fod unigolyn wedi optio allan o fod yn rhoddwr, ystyrid na fyddai’r unigolyn hwnnw yn gwrthwynebu rhoi ei organau pe bai’n marw o dan amgylchiadau lle byddai rhoi organau yn bosibilrwydd. O dan system feddal o optio allan, mae teulu'r unigolyn sydd wedi marw yn dal yn rhan o’r broses o wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau. Yn ôl y dystiolaeth sydd gennym,, awgrymir y gall newid i'r system hon arwain at gynnydd o 25 y cant yn y nifer o roddwyr organau.
Mae'r Bil yn nodi mewn un man y prif ddarpariaethau sy'n ymwneud â chydsyniad ar gyfer gweithgareddau trawsblannu yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod system drawsffiniol effeithiol ar waith o ran gweithredu'r rhaglen drawsblannu organau drwy'r DU gyfan, mae'n anochel bod cydberthynas â Deddf Meinweoedd Dynol 2004 (Deddf 2004) - sef y fframwaith deddfwriaethol presennol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, mae'r Bil yn ailddatgan, ar gyfer Cymru, adrannau penodol o Ddeddf 2004 sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chydsynio at ddibenion trawsblannu. Nid yw darpariaethau eraill Deddf 2004 nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â chydsynio wedi'u hailddatgan, ac maent hwy'n parhau i fod yn gymwys yng Nghymru. Mae'r Bil yn newid y system gydsynio yn unig: nid yw'n newid penderfyniadau clinigol na gofal cleifion mewn unrhyw fodd.
Mae’r Bil hwn yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer rhoi organau yn y DU. Mae trawsblannu organau'n arbed bywydau ac yn gwella bywydau. Mae pobl yn marw'n ddianghenraid oherwydd prinder difrifol o organau. Trwy wneud y newid pwysig hwn, un sy'n cael ei gefnogi gan gyfran sylweddol o'r boblogaeth yng Nghymru, rydym yn rhoi'r cyfle gorau posibl i bobl gael bywyd.
Mae'r Bil wedi bod yn destun dau ymgynghoriad helaeth – y cyntaf ar Bapur Gwyn a oedd yn amlinellu'r opsiynau ar gyfer sut y dylai system feddal o optio allan weithio, a’r ail ar y ddeddfwriaeth ddrafft ei hun. Mae wedi bod yn bleser gennyf weld bod ein cynigion wedi ennyn cymaint o ddiddordeb a thrafodaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. I gwblhau'r broses, rwyf hefyd wedi cyhoeddi heddiw destun yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Bil drafft a gynhaliwyd rhwng 18 Mehefin a 10 Medi 2012. Bydd yr ymatebion ar gael i'w darllen ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad cryno ar yr ymgynghoriad, a gyhoeddais ar 19 Hydref, wedi'i ddiweddaru i gynnwys Atodiad newydd sy'n rhestru'r ymatebwyr, ac i addasu'r dadansoddiad o'r ymatebion a ddaeth i law yn dilyn y gwaith gwirio terfynol. Mae'r adroddiad hwn yn dangos mai cyfanswm y nifer o ymatebion a ddaeth i law oedd 2,977.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi heddiw ddau ddarn o waith ymchwil a fydd yn cefnogi'r archwiliad o'r Bil. Adolygiad diweddar o dystiolaeth ryngwladol sy'n ymwneud â systemau optio allan yw’r un cyntaf . Mae’n cynnwys chwe astudiaeth gadarn sy'n dangos bod cysylltiad rhwng cyfreithiau optio allan a chynnydd yng nghyfraddau rhoi organau. Mae'r ail ddarn yn adolygu'r dystiolaeth sy'n ymwneud â rôl teuluoedd yn achos rhoi organau, ac yn dangos ei bod yn bosibl mai ymwybyddiaeth am ddymuniadau'r person sydd wedi marw yw'r elfen gryfaf sy'n effeithio ar benderfyniad y teulu i gytuno, neu i beidio â chytuno i roi organau. Felly, rwyf hefyd yn lansio ymgyrch gyfathrebu yfory sy'n annog teuluoedd i gael sgwrs am roi organau.
Byddaf yn gwneud Datganiad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory i gyflwyno'r Bil, ac edrychaf ymlaen at yr ystyriaeth a roddir i’r Bil gan y Cynulliad dros y misoedd nesaf.