Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Fel rhan o raglen Hwyluso’r Drefn, rwyf wedi cytuno mewn egwyddor ar y newidiadau i’r rheol gwahardd symud 6 niwrnod yn unol ag argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y pwnc.
Gwaith adroddiad Hwyluso’r Drefn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012, oedd ystyried a oedd yr holl reoliadau ar gyfer ffermwyr yn briodol ac yn gymesur. Gwnaed argymhellion yn yr adroddiad i symleiddio a gwella’r drefn ar gyfer rheoleiddwyr a ffermwyr fel ei gilydd.
Cyfeiriodd yr adroddiad at y rheol gwahardd symud fel un neilltuol o anodd a chymhleth i ffermwyr. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ffermio weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â’r rheol. Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ers dechrau 2012 i ddatblygu cynigion er mwyn i ni allu eithrio ffermydd sy’n defnyddio uned gwarantin gymeradwy o’r rheol 6 niwrnod.
Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Rheol 6 niwrnod ei sefydlu ym mis Mawrth 2013 i asesu cynigion i gymryd lle’r gwaharddiad a chytuno ar ffordd ymlaen. Mae llawer wedi’i wneud eleni wrth i’r diwydiant a’r llywodraeth weithio gyda’i gilydd trwy’r grŵp a hoffwn ddiolch i’r holl aelodau am eu cydweithrediad. Cafodd effeithiau economaidd a risg milfeddygol cynigion y Llywodraeth a’r diwydiant ar gyfer unedau cwarantin eu hasesu’n annibynnol. Aeth y Grŵp ati wedyn i ystyried canlyniadau’r asesiadau hyn a chyhoeddi’i argymhellion ar gyfer unedau cwarantin. Amcan yr argymhellion ar gyfer unedau cwarantin yw symleiddio’r rheolau a cheisio’r cydbwysedd iawn rhwng rhoi’r hyblygrwydd i ffermwyr allu masnachu’u hanifeiliaid a lleihau’r risg o ledaenu clefydau.
Bydd swyddogion yn gweithio nawr i asesu costau’r newidiadau hyn. Byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i gytuno ar ganllawiau i’r ffermwyr sy’n defnyddio unedau cwarantin a threfniadau ar gyfer eu cymeradwyo, eu harchwilio a’u gorfodi. Byddwn hefyd yn ymgynghori ar y cynigion flwyddyn nesaf.