Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae fy ngweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru yn cynnwys gweithlu sy'n uchel ei barch, ac yn un sy'n gallu diwallu anghenion plant a roddir dan ei ofal o'r cychwyn cyntaf – gan wella cyfleoedd y plant hynny.
Mae'r nifer o blant dan ofal yn parhau i gynyddu - a 6% mwy o blant dan ofal yn 2012 nag a fu yn y flwyddyn flaenorol. Os bydd y duedd hon yn parhau, bydd angen mwy o bobl i fod yn ofalwyr i ateb anghenion y rhai hynny sydd dan ofal. Mae nifer o ofalwyr maeth yn bobl hŷn neu'n agos at oedran ymddeol, ac er mwyn sicrhau y gallwn gynnal y gweithlu, rhaid i ni annog pobl o wahanol gefndiroedd ac o wahanol oedrannau i ystyried bod yn ofalwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau lleoliadau sefydlog ar gyfer plant dan ofal. Mae lleoli plant mewn cartrefi sefydlog yn allweddol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer plant dan ofal. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddod o hyd i amrywiaeth o leoliadau digonol i ddiwallu anghenion plant dan ofal yn eu hardaloedd.
Rwyf wedi cymryd camau i gefnogi dulliau i recriwtio a chadw gofalwyr maeth, er enghraifft drwy gyflwyno isafswm cenedlaethol ar gyfer lwfans cynhaliaeth i ofalwyr maeth, llawlyfr ar gyfer gofalwyr maeth, adnodd hyfforddi ar gyfer ymdrin â honiadau o gam-drin, a chanllawiau ar ddirprwyo awdurdod ar gyfer penderfyniadau pob dydd i ofalwyr.
Bydd gan awdurdodau lleol a darparwyr annibynnol eu strategaethau eu hunain. Os na fydd y rheini'n rhai digonol, byddant wedi buddsoddi mewn trefniadau comisiynu strategol drwy gydweithio ag awdurdodau eraill, er mwyn sicrhau bod ganddynt nifer digonol o ofalwyr. Mae cyfoeth o brofiad a gallu ar gael nad ydym yn ei ddefnyddio a rhaid i ni gael gwared ar rai o'r mythau am yr hyn sydd ei angen i fod yn ofalwr maeth. Hyd yma, prin iawn fu'r gwaith ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar yr hyn sy'n annog rhywun i fod yn ofalwr maeth.
Felly, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi comisiynu Rhwydwaith Maethu Cymru i ymgymryd ag ymchwil i'r hyn sy'n annog gofalwyr i faethu plentyn. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn helpu'r gwasanaethau maethu i recriwtio mwy o ofalwyr maeth drwy daflu goleuni newydd ar heriau recriwtio, a thrwy hynny wella dealltwriaeth awdurdodau lleol o'r hyn sy'n ysgogi'r rhai hynny sy'n ystyried bod yn ofalwyr maeth neu sydd eisoes wedi dewis ymgymryd â’r gwaith hwnnw Defnyddir dulliau arloesol sy'n torri tir newydd ar gyfer y gwaith ymchwil hwn, sef dull o'r enw 'Values Modes'. Caiff Rhwydwaith Maethu Cymru ei gefnogi gan iMPOWER, sydd wedi datblygu dull 'Values Modes. Mae’r dull hwn yn cynnig technegau arloesol ym maes recriwtio gofalwyr maeth.
Mae methodoleg yr ymchwil wedi hen sefydlu, ac fe'i defnyddir ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er mwyn olrhain gwerthoedd, cred a chymhelliant pobl yn y DU. Bydd y fethodoleg honno’n cynnig gwybodaeth i ni ar yr hyn a ddenodd ofalwyr maeth i'r proffesiwn a pham y maent yn parhau i faethu. Bydd y casgliadau o werth mawr i ddarparwyr maethu wrth iddynt gyd-drefnu ymgyrch recriwtio genedlaethol neu wrth ddatblygu mwy strategaethau recriwtio lleol.
Croesawyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu'r gwaith ymchwil pwysig hwn gan Phil Evans, Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ”Mae recriwtio gofalwyr maeth i ddarparu gofal o ansawdd uchel i rai o'r plant hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn flaenoriaeth bendant ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ledled Cymru. Mae Rhwydwaith Maethu Cymru eisoes yn chwarae rôl flaenllaw wrth geisio dod o hyd i'r hyn sy'n ysgogi gofalwyr maeth, ond dyma'r tro cyntaf i ymchwiliad mawr o'r math hwn gael ei wneud yn benodol yng Nghymru. Mae'r awdurdodau lleol yn gwneud cynnydd wrth ddatblygu strategaethau newydd ar gyfer recriwtio gofalwyr maeth, ac mae rhai o’r awdurdodau'n rhoi cynnig ar gydweithio yn rhanbarthol. Bydd casgliadau'r gwaith ymchwil hwn yn cynorthwyo gwaith yr awdurdodau’n sylweddol, a byddwn yn awyddus i gydweithredu â'r Rhwydwaith Maethu."
Dywedodd Freda Lewis, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Maethu Cymru: “Mae’r Rhwydwaith Maethu yn hapus iawn i gyflawni’r gwaith hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Dylai’r dull newydd arloesol hwn roi cipolwg gwirioneddol inni o’r hyn sy’n annog ac yn symbylu gofalwyr maeth, a bydd yn cynnig mwy o wybodaeth i wasanaethau maethu i’w helpu i recriwtio a chadw’r gofalwyr maeth sydd eu hangen arnynt.”
Mae darparwyr maethu’n chwilio am fwy o ofalwyr maeth drwy’r amser. Os yw pobl yn teimlo y gallant gynnig cartref i blentyn, rwy’n eu hannog i gysylltu â’u hawdurdod lleol neu ag asiantaeth faethu annibynnol. Croesewir pobl o bob math o gefndir - mae pob plentyn yn wahanol, ac mae ar Gymru angen gofalwyr sydd ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad i ddiwallu'r anghenion hynny.