Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Yn ychwanegol at y ddadl fer ar Chwythu’r Chwiban ym mis Ionawr y llynedd, rwyf bellach yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y camau gweithredu a gymerwyd a’r datblygiadau pellach.
Er nad yw Polisi Cyflogaeth a Deddfwriaeth wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus a chorfforaethol yng Nghymru ac fel y cyfryw mae’n annog unigolion sydd o’r farn bod camweithredu’n digwydd yn eu gweithle i leisio eu barn a herio’r sefyllfa. Mae’n bwysig eu bod yn teimlo’n sicr ac yn hyderus y caiff yr wybodaeth a ddatgelir ganddynt wrandawiad ac y caiff ei gymryd o ddifrif heb iddynt orfod ofni niwed nac erledigaeth.
Mae Deddf Datgelu Lles y Cyhoedd 1998 yn rhoi amddiffyniad statudol i’r rhai sy’n chwythu’r chwiban. Mae arferion da yn golygu y dylai sefydliadau wneud eu gorau glas i amddiffyn cyfrinachedd y rhai sy’n chwythu’r chwiban a sicrhau na fydd yr wybodaeth a ddatgelir ganddynt yn effeithio’n andwyol arnynt.
Rwyf yn croesawu’r cyhoeddiad diweddar gan Weinidog Cysylltiadau Cyflogaeth y DU ei bod yn bwriadu adolygu deddfwriaeth Chwythu’r Chwiban yng ngoleuni’r Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sylfaen GIG Mid Staffordshire i sicrhau ei bod yn addas at ei diben ac yn amddiffyn y rhai sy’n dweud eu dweud. Ysgrifennaf at y Gweinidog i sicrhau yr ymgynghorir â Chymru.
Rwyf yn ymwybodol hefyd fod yr elusen Public Concern at Work wedi sefydlu Comisiwn Chwythu’r Chwiban i archwilio’r trefniadau presennol ar gyfer Chwythu’r Chwiban yn y gweithle ac i wneud argymhellion am newid. http://www.pcaw.org.uk a hoffwn annog unigolion a sefydliadau yng Nghymru i gymryd rhan yn y ddadl hon.
Mae Llywodraeth Cymru am roi arweiniad ar fater chwythu’r chwiban yng Nghymru. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn esiampl o’r radd flaenaf o ran y broses ar gyfer chwythu’r chwiban; bod gan y cyrff y mae gennym atebolrwydd uniongyrchol amdanynt brosesau priodol yn eu lle; ac rydym yn parhau i weithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ac eraill i hybu rhannu arferion da.
Yn unol â’m hymrwymiad y llynedd, gofynnais fod Chwythu’r Chwiban yn cael ei godi fel mater yn is-grwpiau Cyngor Partneriaeth Gweithlu’r Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer y sector cyhoeddus a hefyd mewn cyfarfod is-grŵp o’r Cyngor Adnewyddu Economaidd. Cododd yr Ysgrifennydd Parhaol y mater hefyd yn un o gyfarfodydd Cyrff Cyhoeddus a Noddir gan Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal cododd y ddadl nifer o faterion mewn perthynas â phlant, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd a dywedais ei bod yn bwysig i ni ddysgu o’r gwersi hyn. I helpu i hwyluso hyn sicrheais fod y cofnod o’r ddadl yn cael ei rannu ag uwch swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru.
Mewn datblygiadau pellach, mae aelodaeth panel mewnol Llywodraeth Cymru ar Chwythu’r Chwiban bellach yn cynnwys secondai o Swyddfa Archwilio Cymru ac mae cylch gwaith y panel wedi cael ei ehangu i gynnwys achosion sydd wedi dod i’w sylw lle mae pryderon am y ffordd y mae cronfeydd Llywodraeth Cymru’n cael eu defnyddio gan ei phartneriaid a derbynwyr grant.
Ymhellach, trafododd Pwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol y Cyfarwyddwyr Cyffredinol yn Llywodraeth Cymru fater chwythu’r chwiban mewn digwyddiad hyfforddiant yn ddiweddar ac fe gaiff mwy o waith ei wneud gyda hwy i ystyried sut y gallent helpu i geisio sicrwydd bod gweithdrefnau priodol a chadarn wedi’u sefydlu.
Yng ngoleuni Adroddiad Francis yn sgil yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth GIG Mid Staffordshire mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am sicrwydd gan Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG fod gan bob un ohonynt bolisïau ar gyfer Chwythu’r Chwiban. Ymhellach, mae’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ystyried Adroddiad Francis a’r gwersi a allai gael eu dysgu.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu arweiniad ar fater chwythu’r chwiban yng Nghymru, ni fyddai’n synhwyrol nac yn ymarferol i Lywodraeth Cymru ddod yn gyfrwng ar gyfer chwythu’r chwiban i Gymru gyfan. Cyfrifoldeb pob sefydliad yw sefydlu polisi cadarn, hawdd ei ddefnyddio ar gyfer chwythu’r chwiban a hoffwn eu hannog i gyd i gymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif, fel y gwn fod llawer ohonynt yn ei wneud , er mwyn i ni gyflawni’r safonau uchel o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ac economi ffyniannus y mae pob un ohonom am eu gweld yng Nghymru.