Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae’r Datganiad hwn yn rhoi diweddariad am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd.
Ers y diweddariad diwethaf ar 16 Ebrill 2013, mae’r Grŵp wedi canolbwyntio ei sylw ar waith casglu tystiolaeth er mwyn ei gynorthwyo i weld pa ffactorau penodol ac uniongyrchol sy’n berthnasol i dwf economaidd, darparu swyddi, creu cyfoeth a lles y Gymraeg.
Mae’r Grŵp wedi clywed tystiolaeth ar lafar gan nifer o gyrff a sefydliadau, gan gynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach a’r Mentrau Iaith.
Cynhaliwyd Cais am Dystiolaeth rhwng 16 Mai a 21 Mehefin i geisio barn ar y modd y gall defnyddio’r Gymraeg a dwyieithrwydd gefnogi twf busnesau a datblygu economaidd, a sut y gallai datblygu economaidd gefnogi cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg. Daeth ymatebion i law gan grwpiau o fyd diwydiant, grwpiau a diddordeb yn y Gymraeg, busnesau ac unigolion.
Dros yr wythnosau i ddod, bydd y Grŵp yn mynd ati i drafod â busnesau yn y sector preifat sy’n gweithredu’n llwyddiannus yn y Gymraeg er mwyn cael gwybod ganddynt pam eu bod yn gweithredu yn Gymraeg a pha arferion da sydd ganddynt i’w hargymell.
Bydd y Grŵp yn cyflwyno ei adroddiad terfynol yn yr hydref.