Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Yn y cyfarfod llawn ar 4 Mehefin 2013, cytunais i wneud datganiad ysgrifenedig pellach yn rhoi manylion cylch gorchwyl a gweithgareddau Panel Llywodraeth Cymru ar Chwythu'r Chwiban.
Er nad yw polisi a deddfwriaeth cyflogaeth wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau safonau uchel ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a chorfforaethol yng Nghymru. Mae'n bwysig bod unrhyw un sydd am adrodd am gamwedd yn eu sefydliad yn teimlo'n hyderus y byddant yn cael eu cymryd o ddifrif heb fod ofn anfantais neu erledigaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fod yn esiampl o ran y broses chwythu'r chwiban a rhannu arfer gorau. Mae gan Lywodraeth Cymru God Ymarfer ar Bolisi Chwythu'r Chwiban, ac o dan y polisi hwn ceir swyddogion enwebedig y gellir mynd atynt yn gyfrinachol gyda phryderon am amheuon o gamwedd. Caiff staff eu hysbysu'n rheolaidd am y trefniadau chwythu'r chwiban a manylion cyswllt y swyddogion enwebedig.
Er mwyn goruchwylio'r broses, mae Panel Llywodraeth Cymru ar Chwythu'r Chwiban yn cwrdd yn rheolaidd, o fewn 10 diwrnod i ddatgelu achos, neu bob mis os nad oes unrhyw achosion newydd wedi'u nodi. Mae'r panel yn cynnwys aelodau ag arbenigedd a hyfforddiant priodol. Dyma aelodau cyfredol y panel:
- Cadeirydd – Cyfarwyddwr Llywodraethu
- Aelod – Cyfarwyddwr Pobl
- Aelod – Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol a Sicrwydd
- Aelod – Pennaeth Atal Twyll
- Aelod – Pennaeth Cwynion
- Aelod – secondai o Swyddfa Archwilio Cymru
- Ysgrifennydd – Rheolwr Llywodraethu
Fel y nodwyd yn fy natganiad blaenorol, cafodd cylch gorchwyl y panel ei ehangu ym mis Mehefin 2012 er mwyn ystyried a goruchwylio'r broses o ymdrin â phryderon am achosion unigol y mae Llywodraeth Cymru yn cael eu hysbysu amdanynt mewn perthynas â'r ffordd y mae partneriaid a derbynwyr grant yn defnyddio arian Llywodraeth Cymru. Mewn achosion o'r fath, mae'r panel yn ystyried a oes achos ar yr olwg gyntaf dros ymchwilio ymhellach, ac os felly bydd yn comisiynu Gwasanaethau Archwilio Mewnol neu'r is-adran noddi yn Llywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ac adrodd yn ôl i'r panel. Mae'r panel yn gweithio'n agos gyda Swyddfa Archwilio Cymru a fydd, o bryd i'w gilydd, yn cyfeirio materion penodol sydd wedi'u codi gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru er mwyn i'r panel ymchwilio iddynt.
Mae'r angen i gadw'r rheini sy'n chwythu'r chwiban yn ddienw a natur sensitif rhai o'r materion a'r drafodaeth yn golygu nad yw cofnodion a thrafodaethau'r Panel Chwythu'r Chwiban yn cael eu cyhoeddi yn fewnol nac yn allanol. Mae Cadeirydd y Panel yn adrodd i'r Ysgrifennydd Parhaol am weithgareddau'r panel.
Yn ychwanegol at y trefniadau hyn, o dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (1998), caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru ei ddisgrifio fel 'person rhagnodedig', sy'n golygu y gall aelod o staff ei hysbysu am unrhyw bryderon ynghylch (o'i gyfieithu) 'ymgymryd yn briodol â busnes cyhoeddus, gwerth am arian, twyll a llygredd mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyhoeddus'. Mae hyn yn cynnwys datgeliadau mewn perthynas â GIG Cymru, awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu neu awdurdod tân; Llywodraeth Cymru neu gorff cysylltiedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru.
Cyfrifoldeb pob sefydliad yng Nghymru yw pennu polisi cadarn a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer chwythu'r chwiban, ac eto rwy'n annog pawb i gymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i arwain ar y mater o chwythu'r chwiban yng Nghymru, a byddwn yn fodlon i weithio gyda sefydliadau i'w helpu i bennu neu wella'u gweithdrefnau er mwyn sicrhau safon uchel o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus.