Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Rwy'n hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod yn sefydlu grŵp llywio arbenigol ar gyfer Cerbydau Carbon Isel, i roi cyngor ac argymhellion i mi ar ddatblygu'r sector Cerbydau Carbon Isel yng Nghymru er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd am swyddi a thwf yn y sector.
Mae'r DU yn flaengar iawn ym maes datblygu cerbydau carbon isel; mae sawl technoleg o safon fyd-eang wedi’u datblygu yma, mae galw rhyngwladol am gynnyrch a gwasanaethau Prydeinig ac fe welwyd buddsoddiad sylweddol gan gwmnïau mawr er mwyn cynhyrchu a gwerthu cerbydau carbon isel yn y DU.
Mae'r diwydiant modurol eisoes yn bwysig iawn i economi Cymru. Mae dros 150 o gwmnïau modurol wedi'u lleoli yma, yn cyflogi tua 15,000 o bobl ac yn dod â thua £3 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn.
O ganlyniad, mae Cymru mewn lle da i ddatblygu fel canolfan ragoriaeth ar gyfer Cerbydau Carbon Isel, gan greu cyfleoedd newydd i dyfu ac elwa yn economaidd.
Bydd y grŵp yn cael ei ffurfio dros yr haf ac fe fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant modurol, gweithgynhyrchwyr, busnesau yn y gadwyn gyflenwi, cwmnïau cyfleustodau, awdurdodau lleol, y sector academaidd a llywodraeth.
Swyddogaeth y grŵp llywio arbenigol dan arweiniad y diwydiant fydd:
- Casglu tystiolaeth ar gyfer cymorth i Gerbydau Carbon Isel yng Nghymru gan ddefnyddio'r dystiolaeth, arfer da a gwerthusiadau sydd ar gael;
- Nodi rhwystrau a chyfleoedd;
- Nodi opsiynau cost effeithiol i'r Llywodraeth gefnogi'r sector;
- Hyrwyddo'r defnydd o Gerbydau Carbon Isel yn y sectorau busnes a chyhoeddus.
- Deall gofynion ac anghenion y sector;
- Deall sut gallwn helpu i greu'r amodau cywir i'r sector ffynnu;
- Penderfynu pryd mae angen ymyriad cyhoeddus er mwyn rhoi'r gefnogaeth angenrheidiol i'r sector i helpu twf a chynaliadwyedd;
- Adolygu'r cymorth ar gyfer y sector ac ystyried opsiynau cost effeithiol ar gyfer y ddarpariaeth â chymorth a gynigir gan y Llywodraeth yn y dyfodol;
- Diffinio sut gall Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ddatblygu'r sector yng Nghymru.
Bydd y Grŵp yn gwahodd unigolion a sefydliadau allweddol ac yn casglu tystiolaeth oddi wrthynt.
Yn y cyfamser rwyf wedi gofyn i'm swyddogion edrych ar gyfleoedd i gynnwys mannau gwefru cerbydau wrth gynllunio ffyrdd newydd, a'u cyflwyno o bosib fel rhan o gynlluniau cynnal a chadw mawr perthnasol y Llywodraeth.
Mewn marchnad sy'n tyfu, bydd cymorth ar gyfer defnydd sylweddol o gerbydau carbon isel yng Nghymru yn arwain at gyfleoedd ar gyfer twf a swyddi i gefnogi elfennau newydd yn y gadwyn werth, gan gynnwys cerbydau, rhannau ar gyfer cerbydau, seilwaith, cyfleustodau, manwerthu, gwasanaeth a rhannau. Mae arallgyfeirio at ffynonellau newydd o ynni yn y sector drafnidiaeth yn fanteisiol i’r economi, ond mae hefyd yn rhoi mwy o sicrwydd ynni, yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygredd aer ac yn creu manteision cymdeithasol a chymunedol drwy ddarparu mannau gwefru a fydd yn hwyluso twf clybiau rhannu ceir carbon isel.
Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am waith y grŵp llywio cyn diwedd y flwyddyn.