Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r staff ambiwlans a'r staff damweiniau ac achosion brys ym mhob Bwrdd Iechyd am eu hymdrechion dros yr haf i wella'n gwasanaeth meddygol brys. Rwy'n falch o gyhoeddi bod y ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn adlewyrchu'r ymdrechion hyn, gyda'r targed wyth munud o 65% yn cael ei gyflawni ym mis Hydref. Mae hyn yn sylfaen gadarn ar gyfer misoedd y gaeaf.
Mae'r GIG hefyd wedi canolbwyntio dros fisoedd yr haf ar leihau nifer y cleifion sy'n aros dros 62 diwrnod am driniaeth canser. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n cael apwyntiad cyntaf fel claf allanol o fewn 10 diwrnod gwaith, a chynnydd tuag at y targed 62 diwrnod. Mae’n galonogol nodi bod y targed 31 diwrnod wedi’i gyflawni a’i gynnal ers mis Gorffennaf 2013.
Yn achos mesurau eraill ar gyfer gofal heb ei drefnu,
- roedd llai o bobl yn aros 12 awr neu fwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y cyfnod cyfunol rhwng mis Awst a mis Hydref 2013 (2,133) nag ym mis Ebrill 2013 ar ei ben ei hun (2,254);
- roedd llai o gleifion yn aros dros awr i gael eu trosglwyddo o griwiau ambiwlans i staff damweiniau ac achosion brys dros y chwe mis diwethaf o fis Mai i fis Hydref (4,306) nag ym mis Mawrth a mis Ebrill 2013 (4,333);
- collwyd llai o oriau ambiwlans mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru dros y pum mis diwethaf (mis Mehefin i fis Hydref) nag ym mis Mawrth a mis Ebrill gyda'i gilydd.
Rwy'n llongyfarch y staff ambiwlans am gyflawni'r targed ac am eu hymrwymiad parhaus i gleifion a gwella'r ddarpariaeth. Fodd bynnag, rhaid i mi bwysleisio, fel yn achos Adolygiad McClelland, mai gwan iawn yw'r dystiolaeth glinigol i gefnogi'r targed wyth munud fel mesur o ganlyniadau gorau i gleifion. Ddiwedd mis Hydref 2013, adroddodd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol eto ar y canlyniadau gwrthnysig sy'n cael eu hachosi gan y targed pedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a nododd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol mai dyma’r ffactor pwysicaf o ran y cynnydd mewn derbyniadau brys diangen ar adeg o bwysau mawr dros y gaeaf. Roedd hefyd yn nodi bod bron chwarter yr holl dderbyniadau yn y 10 munud cyn diwedd y terfyn o bedair awr, sy'n peri mwy o amheuaeth ynghylch i ba raddau y mae cam gweithredu o'r fath yn adlewyrchu blaenoriaethau clinigol gwirioneddol.
Hefyd, nid targedau gofal heb ei drefnu yw'r unig rhai sy'n methu hyrwyddo'r canlyniadau gorau i gleifion.
Mae'r oncolegwyr mwyaf profiadol yng Nghymru yn fy nghynghori’n rheolaidd nad yw gwahaniaethu rhwng achosion 31 a 62 diwrnod yn adlewyrchu'r safonau uchaf cyfoes mewn gofal cleifion.
Rwy'n pryderu y gallai fod nifer o enghreifftiau eraill lle nad yw systemau mesur cyfredol yn hyrwyddo'r canlyniad gorau i gleifion. Felly, yn unol â'r ymrwymiad yn 'Law yn Llaw at Iechyd' i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau ar gyfer y GIG, mae fy Adran wrthi'n datblygu cynigion ar gyfer model cyflawni ar sail canlyniadau.
Mae'n bwysig bod y cyhoedd a'r gwasanaeth yn ymwneud â'r gwaith datblygu hwn ac rwy'n bendant bod angen cydgynllunio unrhyw fframwaith newydd. Hyd yn hyn, cynhaliwyd 16 o ddigwyddiadau ar gyfer cleifion, clinigwyr a rhanddeiliaid.
Mae'r digwyddiadau hyn wedi arwain at saith canlyniad drafft a nodwyd fel rhai pwysig gan randdeiliaid, cleifion a chlinigwyr i gefnogi’r GIG i sicrhau canlyniadau ystyrlon ar gyfer dinasyddion Cymru. Mae angen gweithio ar y canlyniadau drafft hyn i sicrhau eu bod wir yn adlewyrchu ysgogwyr allweddol y GIG. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf ar y cyd â rhanddeiliaid, cleifion a chlinigwyr.
O ran y gwaith hwnnw, rwyf wedi gofyn i fy Adran flaenoriaethu datblygu mesurau gofal heb ei drefnu, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys. Cynhaliwyd digwyddiadau gyda chlinigwyr a chleifion ddechrau mis Tachwedd i gymhwyso'r saith canlyniad i'r llwybr gofal heb ei drefnu. Fel blaenoriaeth, rwyf wedi gofyn i'r clinigydd arweiniol cenedlaethol ar gyfer gofal heb ei drefnu weithio gyda chlinigwyr ledled Cymru i ddatblygu unrhyw gynigion sy’n angenrheidiol ar gyfer newid.
Yna bydd gwaith peilot manylach yn cefnogi hyn i ymchwilio i fesurau priodol ar draws y llwybr gofal heb ei drefnu. Caiff y rhain eu profi gydag arweinwyr clinigol ledled Cymru, gyda'r nod o roi rhai mesurau newydd ar brawf o fis Ebrill 2014 lle mae modd casglu data erbyn hynny.
Rwyf hefyd wedi gofyn i uwch glinigwyr fy nghynghori ynghylch targedau ar gyfer mynediad at wasanaethau canser. Bydd y cyngor hwn yn canolbwyntio ar nodi’r ffordd orau i ni sicrhau bod targedau’n canolbwyntio’n bendant ar sicrhau’r canlyniadau clinigol gorau i gleifion. Os argymhellir newidiadau ar unwaith, byddaf yn eu hystyried cyn gynted â phosibl. Bydd gwaith ehangach yn mynd yn ei flaen drwy ymgysylltu clinigol o nawr tan fis Ebrill 2014.
Rwyf hefyd yn bwriadu cael cyngor ynghylch mireinio’r drefn Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth (RhAT) at y dyfodol. Yn y tymor byr, bydd y cyngor hwn yn canolbwyntio ar wasanaethau offthalmoleg lle ceir cyfleoedd i wella mynediad drwy haenu atgyfeiriadau’n well yn ôl blaenoriaeth glinigol. Rwy’n disgwyl i waith o’r fath lywio ymgysylltu ehangach gyda chlinigwyr ar gymhwyso egwyddorion RhAT o’r newydd ar gyfer cyflyrau eraill yn y dyfodol.