Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ar 28 Mai cyhoeddais lansiad Cronfa Datblygu Eiddo Cymru gwerth £10m. Bydd y Gronfa’n cael ei rheoli gan Cyllid Cymru, ac fe fydd yn helpu prosiectau adeiladu bach yng Nghymru ac yn rhoi hwb hanfodol i’r diwydiant adeiladu.
Bydd y Gronfa’n gweithredu ar sail fasnachol a thrwy ailgylchu elw ei buddsoddiadau, fel arfer o fewn 18-24 mis, bydd yn creu cronfa ‘fytholwyrdd’ allai neilltuo £30m o gyllid dros gyfnod o bum mlynedd.
Gallai hynny arwain at hwb ychwanegol i economi Cymru o ryw £19m, gan greu hyd at 900 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol a diogelu tua 700 o swyddi.
Crëwyd y Gronfa fel ymateb i’r anawsterau y mae cwmnïau adeiladu bach a chanolig yn eu hwynebu i gael cyllid o ffynonellau traddodiadol.
Adeiladu yw un o’n sectorau allweddol ac mae ganddo’r potensial i gael effaith fawr ar yr economi.
Gellir gweld y datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd ar 28 Mai ar-lein.