Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Bydd Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi arwain taith fasnach i San Francisco yr wythnos diwethaf, er mwyn hyrwyddo Cymru a chwilio am gyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau cryfach â busnesau UDA, a’u hannog i ystyried sefydlu eu gweithrediadau Prydeinig neu Ewropeaidd yng Nghymru.
Unol Daleithiau America yw’r brif gyrchfan unigol ar gyfer allforion y DU ac mae’n un o brif farchnadoedd masnach rhyngwladol Cymru. Mae gennym hanes llwyddiannus o ddenu buddsoddiadau tramor sylweddol ac erbyn hyn ydym yn lleoliad o bwysigrwydd Ewropeaidd ar gyfer electroneg, afioneg, cynhyrchion fferyllol, gweithgynhyrchu gwerth uchel, gwasanaethau ariannol ac yswiriant.
Mae arfordir gorllewinol UDA yn feithrinfa i’r dechnoleg fwyaf blaenllaw yn y byd ac mae yno gyfleoedd mawr i gwmnïau o Gymru, yn enwedig mewn gwyddorau bywyd a’r diwydiannau creadigol – meysydd yr ydym ni Gymry’n rhagori ynddynt.
San Francisco yw’r man gorau i ni agor swyddfa, ac fe gyhoeddais hynny yn ystod fy ymweliad. Bydd ein presenoldeb yn San Francisco’n ein galluogi i hyrwyddo Cymru’n barhaus ledled yr ardal. Rydym ar ganol recriwtio unigolyn addas i redeg y swyddfa honno ac yn gobeithio penodi rhywun o fewn rhyw fis.
Daeth 18 o fasnachwyr o Gymru gyda mi ar y daith hon, yn cynrychioli 19 o gwmnïau gan gynnwys gwasanaethau fferyllol, cwmni cynhyrchu offer meysydd chwarae, cerddoriaeth a’r celfyddydau a chydrannau ceir. Roedd rhai wedi bod i San Francisco o’r blaen ac eraill yn ymweld â’r farchnad hon am y tro cyntaf. Roedd pawb yn y grŵp yn pwysleisio bod angen i lywodraeth a byd busnes weithio gyda’i gilydd ac roedd llawer yn teimlo bod y daith fasnach hon wedi rhagori ar eu disgwyliadau o ran y cysylltiadau a wnaed. Roedd bod yn rhan o grŵp yn helpu - nid yn unig o ran gwerthu cynnyrch neu wasanaethau ond hefyd i werthu Cymru.
Mae rhai o’r busnesau wedi sefydlu cysylltiadau addawol ar gyfer y dyfodol ac eraill wedi canfod cyfleoedd a allai gymryd mwy o amser i’w datblygu. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad â phob un ohonynt dros y misoedd nesaf i weld sut mae’r diddordebau hyn yn datblygu.
Yn ystod yr ymweliad cefais gwrdd â nifer o fusnesau sydd eisoes â phresenoldeb yng Nghymru. Un o’r rheini oedd Hydro Industries, sydd â safle yn Llangennech, ac roeddwn yn falch o gyhoeddi bod y cwmni wedi llofnodi cytundeb gyda chwmni T&T Salvage, Houston. Hedfanodd Llywydd ac Is-lywydd y cwmni draw i San Francisco i selio’r cytundeb hwn. Yn ei sgil, bydd cynhyrchion unigryw o Gymru yn cael eu hallforio i bob rhan o’r Unol Daleithiau. Rhagwelir y bydd tua 100 o swyddi yn cael eu creu yn Llangennech. O’r rheini bydd 70% wedi’u lleoli’n barhaol yn Llangennech a’r gweddill, er eu bod wedi’u cyflogi’n lleol, yn cael eu hanfon i weithio mewn sefyllfaoedd achub morol ac eraill yn gweithio ar ymchwil a datblygu.
Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda chwmnïau eraill hefyd, e.e. gyda Hewlett Packard i drafod cyfleoedd posibl yng Nghymru yn y dyfodol; FireEye, cwmni seiber-ddiogelwch; RocketSpace, sy’n darparu gofod swyddfa i gwmnïau newydd sydd wedi derbyn cyllid had; Hydra DX sydd eisoes yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor; a Silicon Valley Bank er mwyn chwilio am gyfleoedd i gleientiaid fuddsoddi mewn busnesau o Gymru. Bûm ar ymweliad â Chanolfan Ymchwil Mission Bay hefyd – canolfan sy’n ceisio gwella cystadleurwydd California yn genedlaethol a ledled y byd drwy sefydlu partneriaethau datblygu’r economi a chreu swyddi o amgylch clystyrau ymchwil penodol.
Bûm yn trafod â chynrychiolwyr swyddfa’r Llywodraethwr ac â Maer San Francisco, Edwin Lee. Dros frecwast gwaith, cefais gyfle hefyd i gwrdd â chynrychiolwyr o fyd chwaraeon a busnes sydd â phrofiad o gynnal a rheoli digwyddiadau mawr yn ardal San Francisco – Cwpan America, Cystadleuaeth Golff Agored America a’r Super Bowl. Gwahoddais gynrychiolwyr o’r cyfryngau ac o fusnesau teithio i ginio arbennig er mwyn dangos iddynt yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig i ymwelwyr. Roedd sawl un wedi bod i Gymru eisoes ac wedi ysgrifennu am eu profiadau cadarnhaol mewn llyfrau teithio ac erthyglau a gyhoeddwyd yn UDA.
Mae nifer o gyfleoedd wedi codi yn sgil yr ymweliad masnach hwn ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud yn fawr ohonynt er mwyn rhoi Cymru ar y map. Fel cenedl fach, allwn ni ddim cyrraedd pob gwlad yn y byd; mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y marchnadoedd sy’n cynnig y cyfleoedd gorau i’n prifysgolion a’n busnesau ni. All hyn ddim digwydd yng Nghymru yn unig – mae’n rhaid inni gael ein gweld yn y marchnadoedd hyn a’r unig ffodd i wneud hynny yw cymryd yr amser i ymweld â’r gwledydd i hyrwyddo Cymru gymaint ag y gallwn.