Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Ymwelais â Gweriniaeth Iwerddon (24/25 Ionawr) er mwyn hyrwyddo Cymru fel lleoliad ar gyfer buddsoddi, a busnesau o Gymru fel partneriaid masnachu. Iwerddon yw unig gymydog uniongyrchol Cymru y tu allan i’r Deyrnas Unedig a hi yw’r ail fwyaf o’n marchnadoedd allforio. Mae’r berthynas rhwng ein dwy wlad yn un hir a chlòs, ac mae mewn cyflwr rhagorol.
Rhoddais anerchiad i’r Siambr Fasnach Brydeinig-Wyddelig, gan achub ar y cyfle i bwysleisio’r cyfleoedd busnes atyniadol sydd yng Nghymru. Cwrddais hefyd â nifer o gwmnïau sydd â diddordeb mewn ystyried cynlluniau buddsoddi posibl yng Nghymru. Mae’r ddwy wlad ar eu hennill yn fawr o ganlyniad i’r cysylltiadau economaidd rhwng y ddwy wlad a dyma’r amser iawn i ymdrechu i fanteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd. Cyhoeddais fy mwriad i leoli swyddog o Lywodraeth Cymru yn Nulyn er mwyn gweithio ochr yn ochr â swyddogion Masnach a Buddsoddi y DU ar gysylltiadau busnes rhwng y ddwy wlad.
Roedd yn anrhydedd cael cwrdd ag Arlywydd Iwerddon yn ei gartref swyddogol ym Mharc Phoenix. Mae’r Arlywydd Higgins yn gyfaill i Gymru ac mae wedi ymweld â’r wlad sawl gwaith. Fel bardd ei hun, ac fel cyn Weinidog Diwylliant, mae ei ddealltwriaeth o’n llenyddiaeth a’n diwylliant ehangach yn drawiadol. Rhoddais wybod i’r Arlywydd am ein cynlluniau i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014 ac fe wahoddais ef i chwarae rhan bersonol yn y dathliadau hynny. Byddaf yn estyn y gwahoddiad hwnnw yn fwy ffurfiol dros yr wythnosau nesaf.
Mae Iwerddon yn gyfaill gwerthfawr i Gymru yn ogystal â bod yn bartner masnachu hynod bwysig. Caiff ein perthynas agos ei hadlewyrchu ar sawl lefel o gymdeithas ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cydweithio rhwng Cymru ac Iwerddon yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.