Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Rwy’n ysgrifennu i roi’r newyddion diweddaraf i Aelodau am y broses sydd ar waith i ddyrannu cyfalaf o hyd at £90m ar gyfer buddsoddi mewn adfywio ym mlynyddoedd ariannol 2014/15 , 2015/16 a 2016/17. Mae’r cyllid hwn yn dod o dan Fframwaith Adfywio ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’.
Ym mis Mai, gwahoddwyd pob awdurdod lleol i gyflwyno Rhaglenni Amlinellol Strategol ar ran partneriaethau lleol sy’n cynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ar gyfer cynlluniau adfywio sy’n dymuno cael cyfran o’r hyd at £90m o fuddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd ariannol nesaf.
Y dyddiad cau ar gyfer cam cyntaf y broses hon oedd 12 Gorffennaf. Daeth 22 o geisiadau i law (un gan bob awdurdod lleol) yn gofyn am fwy na £250m o grantiau ar gyfer Rhaglenni Amlinellol Strategol gwerth dros £1 biliwn. Rwy’n falch iawn gyda’r ffordd y mae awdurdodau lleol a’u partneriaid wedi manteisio ar y cyfle hwn.
Yn dilyn proses asesu drwyadl, rwyf wedi penderfynu y caiff 11 awdurdod lleol eu gwahodd i symud ymlaen i’r ail gam. Yn nhrefn y wyddor, dyma’r 11:
Awdurdod Lleol Ardal
Pen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr
Conwy Bae Colwyn
Sir y Fflint Glannau Dyfrdwy
Ynys Môn Caergybi
Merthyr Tudful Merthyr Tudful
Castell-nedd Port Talbot Port Talbot
Casnewydd Canol Casnewydd
Rhondda Cynon Taf Pontypridd
Abertawe Canol Dinas Abertawe
Torfaen Pont-y-pŵl
Wrecsam Wrecsam / Parc Caia / Hightown
Yn awr, gwahoddir yr awdurdodau lleol hyn i ddatblygu eu Rhaglenni Amlinellol Strategol ymhellach a’u hailgyflwyno ar gyfer ail gam y broses ddethol. Y dyddiad cau ar gyfer hyn yw 25 Tachwedd. Yna, byddaf yn cyhoeddi’r canlyniad terfynol yn y flwyddyn newydd.
Mae’n bwysig nodi, er mai dim ond 11 Rhaglen Amlinellol Strategol sydd ar ôl, bod gormod o alw am yr arian o hyd – ni allwn fforddio cyllido’r rhain i gyd. Mae’r broses yn parhau i fod yn un gystadleuol, felly. Bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol gyflwyno achosion cryf er mwyn sicrhau’r arian. Nid yw’r ffaith fod rhaglen wedi symud ymlaen i’r ail gam yn golygu eu bod yn siŵr o dderbyn arian.
Yn y cyfamser, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda’r 11 awdurdod lleol arall, y rhai nas dewiswyd, er mwyn ceisio canfod ffynonellau eraill o gyllid ar gyfer eu cynigion adfywio.
Er fy mod am weld y gyllideb yn cael ei defnyddio lle mae’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, rwy’n benderfynol na chaiff yr ardaloedd mwyaf difreintiedig eu gadael ar ôl. Rwyf felly wedi penderfynu neilltuo £5m dros y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn prosiectau allweddol wedi’u hanelu at drechu tlodi mewn ardaloedd nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn y cam cyntaf ond sy’n cynnwys wardiau sydd yn y deg y cant uchaf o ran ardaloedd difreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011. Fy mwriad yw gwneud yr un peth gydag ardaloedd difreintiedig ar ôl yr ail gam hefyd. Am y tro, dyma’r ardaloedd gaiff fuddsoddiad:
Awdurdod Lleol Ardal
Blaenau Gwent Tredegar
Caerffili Rhymni
Caerdydd Grangetown
Sir Gaerfyrddin Llanelli
Sir Ddinbych Rhyl
Gwynedd Caernarfon
Bro Morgannwg Y Barri
Gwnaf ddatganiad yn y Siambr yn y flwyddyn newydd i gyhoeddi canlyniadau ail gam y broses hon.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.