Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio
Heddiw rwy’n cyhoeddi canllawiau i ymgeiswyr gael mynediad i’r buddsoddiad adfywio wedi’i dargedu sydd ar gael i gefnogi ein fframwaith adfywio, “Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid”.
Mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cwmpasu ystod o weithgareddau integredig sy’n anelu at wrthdroi y dirywiad economaidd, cymdeithasol a ffisegol. Ein nod yw sicrhau gwelliant hirdymor, mewn ardaloedd ble na fydd grym y farchnad yn ddigon i gyflawni hyn heb rhywfaint o gymorth gan y llywodraeth.
Bydd y cyllid sydd ar gael drwy Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn cael ei gyfeirio tuag at ganol trefi, cymunedau arfordirol a chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Yr her yr wyf yn ei chyflwyno heddiw yw ystyried ffyrdd newydd o adfywio’r tri maes allweddol hwn. Bydd creadigrwydd a menter yn hanfodol, yn ogystal â bod y cynlluniau yn cyd-fynd â rhaglenni eraill y sector cyhoeddus, gan gynnwys canolfannau iechyd, ysbytai a llyfrgelloedd. Rwyf hefyd am i’n buddsoddiad ar gyfer adfywio hwyluso a chefnogi ein buddsoddiad ym maes tai. Mae angen cyfraniad o bwys hefyd gan y sector preifat a chan grwpiau gwirfoddol. Bydd fy muddsoddiad cyfyngedig yn targedu y cynlluniau mwyaf cydlynol ac integredig ar gyfer canol trefi, sy’n gwneud y defnydd gorau o’r amrywiaeth eang o ffynonellau cyllido posibl. Mae angen i’n cyllid adfywio weithredu fel catalydd ar gyfer gweithredu ehangach.
Bydd union nifer y canol trefi, y cymunedau arfordirol neu’r clystyrau Cymunedau yn Gyntaf y gallaf eu cynorthwyo yn dibynnu ar y cynigion a ddaw i law. Fodd bynnag, mae’n hanfodol fod pob un o’r partneriaid yn ymateb i hyn yn bwrpasol, ac yn deall y byddwn ond yn buddsoddi pan fyddwn yn teimlo y gallwn gael cymaint o effaith â phosib.
Mae fy mhortffolio Cartrefi a Lleoedd yn cyfrannu at bob un o amcanion y Rhaglen Lywodraethu. Fel Cabinet, rydym yn cydnabod bod adfywio llwyddiannus yn dibynnu ar sicrhau bod y prif raglenni ar draws pob portffolio yn cyd-fynd â’i gilydd. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweld y posibiliadau i raglenni adfywio wedi’u targedu gyflawni yn erbyn ystod eang canlyniadau y Rhaglen Lywodraethu.
Mae’r canllaw a gyhoeddir heddiw yn pennu sut y dylai partneriaid wneud cais, a sut y caiff y gyllideb ei dyrannu. Bydd y dyraniad sydd ar gael yn cynnwys y ffrwd cyllid ar gyfer y cynlluniau Ardaloedd Adnewyddu Tai - a arferai fod ar wahân - unwaith y bydd yr ymrwymiadau presennol wedi’u bodloni. Mae’r cyllid yn ychwanegol ac yn ategol i gyllidebau prif ffrwd eraill. Nid yw’n bosib ei ddefnyddio yn lle ffrydiau buddsoddi eraill.
Mae’r ddogfen ganllaw ar gael ar-lein.