Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Lansiwyd cynllun Ynni’r Fro yn 2010 ac mae’n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a rhaglen ERDF, rhaglen sy’n hybu cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol.
Mae Ynni’r Fro yn helpu busnesau yn y sector ynni adnewyddadwy i dyfu trwy greu ac ehangu mentrau cymdeithasol cynaliadwy a chynyddu busnes i gadwyni cyflenwi sy’n ymwneud ag ynni. Mae’r rhaglen yn gwneud cyfraniad pwysig at drechu tlodi; mae’n helpu i greu swyddi a datblygu sgiliau mewn cymunedau a chreu refeniw i gynlluniau cymunedol.
Gellir gwneud cais am hyd at £30,000 o grant i dalu am gostau cyn cynllunio a hyd at £300,000 o grant a hyd at £250,000 o fenthyciadau tuag at gostau cyfalaf ar gyfer adeiladu. Mae swyddogion datblygu technegol ar gael ledled Cymru i roi help a chymorth i fentrau cymdeithasol sydd â bwriad i gynllunio neu i ymgymryd â phrosiect ynni adnewyddadwy. Bydd y rhaglen yn para am 5 mlynedd ac mae’n werth £13 miliwn.
Hyd yma, mae 196 o ddatganiadau o ddiddordeb wedi dod i law gan gymunedau ledled Cymru sydd wedi ymgeisio am help gan y rhaglen. O’r datganiadau, bydd cyfanswm o 24 prosiect y disgwylir y byddant yn weithredol erbyn mis Ebrill 2015 (dyddiad cwblhau’r prosiect ERDF) yn cael help ychwanegol sylweddol gan y rhaglen. Er gwaethaf yr heriau i rai grwpiau i gael y caniatadau a’r trwyddedau angenrheidiol, yn enwedig gyda chynlluniau ynni dŵr, rwy’n falch iawn bod gwaith da’n cael ei wneud ar draws Cymru i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol. Rwy’n credu y bydd cynlluniau ynni adnewyddadwy, boed hwy’n gynlluniau cymunedol neu ar ffermydd, yn gyfle gwych i greu twf gwyrdd cryf a ffyniannus i economi Cymru.
Mae rhaglen Ynni’r Fro wedi helpu fferm wynt gymunedol Mynydd y Gwrhyd ac mae’n enghraifft dda o’r hyn sy’n bosibl. Yn fuan, bydd y cynllun yn symud i’r cam adeiladu. Unwaith y bydd y prosiect ar waith, bydd yn creu swyddi adeiladu lleol a chontractau i gyflenwyr lleol. Yn yr hirdymor, bydd yn creu incwm ac yn cynnal 7 o swyddi cynaliadwy llawnamser mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf. Bydd Mynydd y Gwrhyd yn cynhyrchu ynni glân i 2,000 o gartrefi.
Mae rhaglen Ynni’r Fro wrthi’n cael ei gwerthuso ar hyn o bryd. Bydd y gwerthusiad yn tynnu sylw at arferion da ac yn hwyluso opsiynau er mwyn helpu microgynhyrchu ar lefel cymunedol yn y dyfodol, gan gynnwys creu cyfleoedd o fewn y Cynllun Datblygu Gwledig i ehangu’r rhaglen yn y dyfodol. Cyhoeddir y gwerthusiad ym mis Medi.