Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Diben y datganiad hwn yw hysbysu’n ffurfiol fod y pumed adroddiad blynyddol ar 'Gyflwr yr Ystad’ wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Nid cynllun rheoli asedau yw'r adroddiad ar Gyflwr yr Ystad. Yn hytrach, mae'n cynnig braslun o berfformiad ein heiddo dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae'r ddogfen yn adrodd ar effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol ystad weinyddol Llywodraeth Cymru. Mae'n canolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd yn 2012/13; mae'n dilyn hynt y cynnydd a wnaed ac yn ystyried y gwelliannau sydd i'w gwneud eto. Mae'r adroddiad hefyd yn gosod y cefndir y caiff yr ystad ei reoli yn ei erbyn ar hyn o bryd, gan gyfeirio at y targedau a bennwyd yn Rhaglen y Strategaeth Leoli 2010-15.
Bu hon yn flwyddyn arwyddocaol iawn o ran ein hasedau eiddo, a chyhoeddwyd adroddiad Ymchwiliad Rheoli Asedau Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Awst 2013. Mae'r adroddiad yn ategu'r negeseuon clir ynghylch y wasgfa ariannol a'r ffaith ei bod hi'n hollbwysig, yn sgil gweithio â chyllidebau llai, fod arweinwyr y sector cyhoeddus yn sicrhau bod pob un rhan o'r sefydliad yn gweithredu mor effeithlon ag sy'n bosibl.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o'r adnoddau sydd ar gael inni yn ystod y cyfnod anodd hwn i wireddu'r canlyniadau yr ydym yn dymuno eu gweld ar ran pobl Cymru.
Bu rheoli asedau eiddo effeithiol yn hollbwysig yn ystod y cyfnod ariannol anodd a heriol hwn. Rydym yn parhau i weithio'n galed i sicrhau bod ein hystad swyddfeydd wedi'i halinio'n well ag anghenion busnes. Rydym hefyd wedi brwydro'n galed dros wneud arbedion effeithlonrwydd - gan fuddsoddi lle bo hynny'n briodol, ad-drefnu lle bo angen a gwneud gymaint o arbedion â phosibl drwy ddefnyddio adnoddau yn well.
Mae pob un o'r amcanion hyn yn cael eu dal yn yr adroddiad diweddaraf, sy’n disgrifio'r perfformiad cyffredinol fel un cadarnhaol, ac sy’n adrodd am welliannau yn erbyn y rhan fwyaf o'r dangosyddion perfformiad allweddol.
O ran y Strategaeth Leoli gyfredol, y nod o hyd yw parhau i ddarparu seilwaith eiddo cynaliadwy gyda blaenoriaeth ar gydymffurfio, hygyrchedd ac effeithlonrwydd - a hyn oll mewn amgylchedd ariannol tynn iawn. Rwyf i o'r farn bod hyn yn cael ei adlewyrchu'n glir yn y gweithgareddau a gynhaliwyd mewn perthynas ag ystadau yn ystod 2012/13. Gwnaed trefniadau gofalus wrth fynd ati i gau'r chwe swyddfa yn ystod y cyfnod adrodd, er mwyn sicrhau parhad busnes ac i wneud arbedion cyffredinol. Mae gwneud y mwyaf o'r adeiladau sydd gennym eisoes a'n harferion gweithio hyblyg yn helpu i atgyfnerthu’r ffordd yr ydym yn rhedeg ein hystad i sicrhau bod cyflawni gwaith y Llywodraeth yn cael ei gefnogi yn y ffordd orau posibl. Dim ond pan allai hynny arwain at arbedion ariannol yn y tymor hwy y gwariwyd ar welliannau i swyddfeydd.
Bydd y ffocws strategol yn parhau yn ystod 2013/14 ar gynyddu'r defnydd o'r cyflenwad adeiladau, a'i gwneud yn fwy effeithlon, yn unol â Rhaglen y Strategaeth Leoli a'n Strategaeth Rheoli Carbon. Bydd meincnodi effeithiol yn golygu ein bod yn gallu parhau i ganolbwyntio ar fuddsoddi yn yr ardaloedd iawn. Bydd hyn yn caniatáu inni ddarparu i’n staff amgylcheddau gweithio diogel, modern, carbon isel, effeithlon, sy'n cydymffurfio â rheoliadau, a chyfleusterau gwell i'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae'r pwysau parhaus ar gyllidebau yn golygu na fydd modd gorffwys ar ein rhwyfau o ran ein hymdrechion parhaus i alinio'r sylfaen asedau'n well i gefnogi gwaith y Llywodraeth ac i barhau i frwydro’n galed i sicrhau arbedion effeithlonrwydd.