Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y llynedd, cyhoeddais gynlluniau ar gyfer cyflwyno’n raddol Wasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ar draws Cymru erbyn 2014. Byddai hyn yn sicrhau bod mynediad teg ac amserol gan rai o’n plant a theuluoedd mwyaf agored i niwed i’r gwasanaeth arloesol hwn.
Felly, rwy’n falch o gyhoeddi inni gyrraedd carreg filltir arwyddocaol arall tuag at ein gweledigaeth o drawsnewid gwasanaethau yng Nghymru a fydd yn cynnal ein pobl a’n cymunedau yn well drwy sefydlu Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) yn ardal Bae’r Gorllewin, o heddiw ymlaen.
Hoffwn dalu teyrnged i’r holl bartneriaid yn yr ardal IFSS hon (sy’n cynnwys awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) am eu harweiniad a’u hymrwymiad wrth weithio gyda’i gilydd i sefydlu tri Thîm Integredig Cymorth i Deuluoedd newydd a fydd yn darparu cymorth dwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Dyma enghraifft wych arall o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer integreiddio a chydweithio gwell a fydd yn sicrhau gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon i bobl Cymru.
Bydd hyn yn dod â’r gwasanaeth i 13 ardal awdurdod lleol ledled Cymru ac yn cwblhau trydydd cam cyflwyno IFSS. Mae ehangu pellach ar y gweill yn nes ymlaen yn y flwyddyn dan Gam 4, gan roi rhagor o dimau ar waith yn y Gogledd ac yng Ngwent. Mae gweithredu IFSS cam wrth gam yn pwysleisio bod Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn parhau i groesawu IFSS, ac rwy’n falch i weld partneriaethau mor gryf yn cael eu meithrin i gyflwyno’r ffordd newydd hon o weithio ar draws Cymru er mwyn rhoi mwy o gymorth i’n cymunedau.
Pwysleisiodd y Rhaglen Lywodraethu ein hymrwymiad i weithredu IFSS wrth inni fynd ar y daith tuag at fy ngweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yng Nghymru. Fel rhan o hyn, roeddwn yn falch i osod Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r Bil yn adlewyrchu gwerthoedd craidd IFSS sy’n cydnabod pobl fel rhan o deuluoedd, gyda’r ffocws ar sicrhau mwy o integreiddio, ennyn mwy o ymddiriedaeth rhwng y rhai sydd angen gofal a chymorth a’r gweithwyr proffesiynol medrus, a chynnig gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl – mewn modd sy’n golygu y caiff pobl eu gwerthfawrogi a’u lleisiau eu clywed. Yn wir, mae darparu trefniadau partneriaeth o’r fath ar gyfer y dyfodol yn cael eu hymgorffori ymhellach o fewn y Bil ei hunan.
Mae arwyddion cadarnhaol o hyd bod IFSS yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a theuluoedd yng Nghymru, lle mae effaith camddefnyddio sylweddau ymysg rhieni’n amlwg. Hoffwn ddiolch i’r holl dimau integredig cymorth i deuluoedd am eu gwaith rhagorol parhaus yn darparu’r gwasanaeth pwysig hwn a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r tri thîm newydd ym Mae’r Gorllewin. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau wrth i weithredu pellach fynd rhagddo.