Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weld ein sector bwyd yn tyfu ac yn datblygu. Mae'n rhan bwysig iawn o'n heconomi ac mae'n adlewyrchu ein diwylliant, ein hanes a'n hunaniaeth. Mae bwyd yn bwysig i ni fel cenedl a bydd ein perthynas â bwyd yn effeithio ar ein polisïau addysg, iechyd a chymdeithasol yn ogystal ag ar ein polisi economaidd. Rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni barhau i helpu'r sector i dyfu ac yn hynny o beth, mae'n bwysig dathlu a hyrwyddo rhagoriaeth bwyd a diod Cymru, yma yng Nghymru a thu hwnt.
O ran ei chyfraniad at wireddu ein huchelgais a'n hamcanion, rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw ein strategaeth ddiweddaraf, Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru, yn ateb y diben mwyach. Byddaf yn cyhoeddi Cynllun Bwyd newydd strategol yn yr hydref. Bydd y strategaeth newydd yn canolbwyntio ar dargedau clir ar gyfer helpu'r sector i dyfu a bydd yn disgrifio'n gweledigaeth ar gyfer bwyd yn y gymdeithas Gymreig. Byddaf yn ystyried argymhellion y Panel Bwyd a Ffermio a gyhoeddwyd yn y gwanwyn wrth lunio'r Cynllun newydd hwn. Bydd y Cynllun yn ystyried hefyd yr holl is-sectorau a'r blaenoriaethau trawsbynciol fel iechyd a thwristiaeth.
Rwyf wedi bod yn edrych o'r newydd ar frand y Gwir Flas / True Taste yn ddiweddar. Cyfarwyddiaeth Fwyd Awdurdod Datblygu Cymru lansiodd y brand yn 2002, a'i brif gynulleidfa oedd y defnyddiwr. Cynhaliwyd cystadleuaeth a gwobrau bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth am arloesedd a rhagoriaeth yn sector bwyd a diod Cymru. Byddai enillwyr yn cael arddangos logo'r Gwir Flas a byddai cefnogaeth yn cael ei rhoi i hyrwyddo a marchnata'r cynnyrch buddugol yng Nghymru, gweddill y DU a dramor.
Roedd y Gwir Flas yn ateb gofyn diwydiant bwyd a diod Cymru ar y pryd, pan nad ansawdd arbennig fyddai'n dod i feddwl pobl wrth sôn am fwyd a diod Cymru. Mae mwy na 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno'r Gwir Flas; mae'r diwydiant wedi datblygu a thyfu'n sylweddol ers hynny ac mae'n bryd ailedrych ar y Gwir Flas i weld a yw'n dal i ateb gofynion y defnyddiwr a'r diwydiant bwyd. Wrth frandio, mae'n hynod bwysig dangos bod y bwyd a'r ddiod yn dod o Gymru a dylai hynny fod yn glir ym meddwl y defnyddiwr. Er y bu rhai agweddau positif iawn i'r Gwir Flas dros y blynyddoedd, nid yw'n gwneud digon yn hyn o beth ac ni wnaiff ddiwallu anghenion y diwydiant yn y dyfodol.
Rwyf wedi penderfynu felly na chynhelir gwobrau'r Gwir Flas yn 2013. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r brand 'Bwyd a Diod Cymru' newydd a ddefnyddiwyd yn Arddangosfa Fwyd Ryngwladol 2013. Rhywbeth i'r diwydiant yw hwn yn hytrach nag yn frand ar gyfer y defnyddiwr. Rwy'n credu ei fod yn hawdd iawn ei adnabod, yn amlwg Gymreig ac yn fodern ei wedd. Yn gefn i hynny, roedd gennym arddangosfa ragorol o fwydydd o safon yno ac ni chafwyd erioed ymateb mor bositif gan yr arddangoswyr. Mae ein tîm Môr a Physgodfeydd wedi treialu'r un brand yn llwyddiannus ac mae Hybu Cig Cymru wedi croesawu'r newid am eu bod yn ei weld yn fwy addas ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo ar y cyd.
Mae'r pwyslais ar 'Gymru' wrth farchnata pob math o gynnyrch o Gymru, gan gynnwys cynnyrch i ymwelwyr, yn tyfu'n elfen gref o'r gwaith brandio sy'n cael ei wneud ar draws y Llywodraeth. Caiff emblemau cenedlaethol fel ein baner le amlwg yn y gweithgarwch hwn i'n helpu i wneud ein gwaith marchnata yn fwy nodedig ac effeithiol.
Rwyf am wneud yn siwr bod gwaith hyrwyddo bwyd a diod Cymru ynghyd â'r hunaniaeth yn diwallu anghenion y diwydiant twf hwn. Mae ganddo'r potensial i fynd o nerth i nerth ac rwyf am glywed barn cynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd ynghylch y syniad hwn o greu brand i'r diwydiant ac ar yr opsiynau eraill i hyrwyddo bwyd a diod Cymru'n well.
Rwyf am glywed syniadau hefyd ynghylch sut y dylem ni ddathlu'r bwyd a diod gorau o Gymru ac a ddylai Llywodraeth Cymru barhau i noddi cystadleuaeth benodol neu a fyddai'n well dilyn trywydd arall. Mae'r Llywodraeth yn rhoi pwyslais mawr ar helpu busnesau i dyfu a datblygu, ac nid oedd gwobrau'r Gwir Flas, a'u pwyslais ar flas y cynnyrch, wedi'u creu i hybu'r flaenoriaeth honno.
Am y rhesymau hyn, rwyf am ymgynghori yn yr hydref ar ddatblygu'r sector bwyd yng Nghymru. Byddaf yn disgrifio fy Nghynllun Bwyd a fydd yn datblygu argymhellion Panel y Sector. Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn i bobl am eu barn ar sut i hyrwyddo bwyd a diod Cymru yn y dyfodol. Er mwyn creu cyfle newydd i gynhyrchwyr a phrynwyr rwydweithio a thrafod busnes newydd, byddaf yn cyflwyno Digwyddiad i Fasnach Bwyd a Diod Cymru. Bydd y digwyddiad yn dathlu ein bwyd a diod ac mae'n rhywbeth y mae cynhyrchwyr bwyd wedi bod yn gofyn amdano. Hwn fydd y digwyddiad cyntaf o'i fath sy'n benodol i Gymru ar dir Cymru a bydd yn gyfle i gynhyrchwyr o Gymru ddangos eu cynnyrch gorau i brynwyr o Brydain a thu hwnt. Rydym wedi dechrau trefnu 'Dathlu Bwyd a Diod Cymru' a byddwn yn cyhoeddi dyddiad cyn hir - yn gynnar flwyddyn nesaf fwy na thebyg.